Astudiwch radd yn rhan amser

A ydych chi wedi cwblhau eich astudiaethau coleg yng Nghymru ac yn ystyried eich cam nesaf? Archwiliwch hyblygrwydd gradd rhan amser gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, a ffitiwch eich astudiaethau o amgylch eich bywyd chi, fel eich bod yn medru ennill cyflog wrth ichi ddysgu.

Ni yw’r arbenigwyr yn y maes dysgu o bell, yn cynnig cyrsiau o safon i unrhyw un sydd â'r awydd a'r cymhelliant i lunio eu dyfodol, waeth beth fo'u hoedran, cefndir neu incwm.

 

Gofynnwch am brosbectws

Beth yw'r Brifysgol Agored?

Cawsom ein sefydlu i sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb. Rydym yn creu cyrsiau dysgu o bell â chymorth sy'n gweithio i chi. Nid oes angen i chi symud i ffwrdd na theithio i gampws, mae ein cyrsiau ar-lein yn golygu eich bod chi'n cael dewis ble a phryd i astudio. Dyma rai o'r rhesymau i astudio gyda ni:

  • Ni yw'r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru.
  • Mae dros 14,500 o fyfyrwyr, o bron bob cymuned yng Nghymru, yn astudio gyda ni ar hyn o bryd, ac mae dros ddau draean ohonynt mewn swyddi llawn amser yn ystod eu hastudiaethau.
  • Rydym yn arweinydd byd-eang o ran cynnig cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch.
  • Mae mwy o Brif Swyddogion Gweithredol a Rheolwyr Gyfarwyddwyr cwmnïau yn y DU wedi astudio gyda ni nag unrhyw brifysgol arall yn y DU1.
Lawrlwythwch ein Llyfryn Cymorth i Fyfyrwyr a darganfod mwy am symud ymlaen o astudio coleg i’r Brifysgol Agored.
 

Pam mai’r Brifysgol Agored yw’r dewis cywir i chi

Fel rhan o’r brifysgol fwyaf yn y DU, rydym yn cynnig addysg o’r radd flaenaf, yn eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol a phersonol. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad yn y byd dysgu o bell, byddwn yn sicrhau nad ydych yn teimlo'r pellter. Byddwch yn cael cymorth rheolaidd gan eich tiwtor, myfyrwyr eraill a’ch Tîm Cymorth i Fyfyrwyr.

Mae ein cyrsiau rhan amser yn rhoi cyfle ichi ennill cymhwyster heb orfod aberthu beth sy’n bwysig i chi. P’un a yw hynny’n gofalu am eich teulu, gweld eich ffrindiau neu weithio, mae ein cyrsiau’n ffitio o amgylch eich bywyd chi. Yn wir, mae dros 70% o’n myfyrwyr mewn swydd llawn amser neu ran amser.

Dysgwch fwy am ddysgu o bell yn rhan amser gyda'r Brifysgol Agored  

Cefnogaeth i fyfyrwyr anabl

Daw ein myfyrwyr o bob rhan o Gymru ac maent yn byw bywydau prysur, gan gydbwyso eu hastudiaethau â’u hamgylchiadau a’u cyfrifoldebau bob dydd.

Mae astudio'r Brifysgol Agored yn hyblyg, yn ffitio o amgylch eich bywyd, gyda chefnogaeth ar bob cam o'r ffordd. Dyna pam mae mwy o fyfyrwyr anabl yn dewis astudio gyda'r Brifysgol Agored nag unrhyw brifysgol arall yn y DU. Y llynedd yn unig, cefnogodd y Brifysgol Agored dros 28,000 o fyfyrwyr ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

Dysgwch fwy am sut y byddwn yn eich cefnogi wrth i chi astudio gyda ni.

Rhowch hwb i'ch hyder gyda chwrs Mynediad

Mae modiwl Mynediad yn fan cychwyn da os ydych eisiau cyflwyniad ysgafn i astudio gyda'r Brifysgol Agored. Byddant hefyd yn eich helpu i ddarganfod mwy am eich diddordebau a lle rydych chi’n dymuno i’ch dysg fynd â chi.

Byddwch yn cael trosolwg eang o nifer o bynciau, yn gloywi eich sgiliau astudio ac yn meithrin eich hyder. Efallai eich bod hyd yn oed yn gymwys i astudio am ddim. 

Dysgwch fwy am gyrsiau mynediad yn y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy na’r disgwyl

Mae ystod o gymorth ar gael gyda ffioedd a chyllid, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu rhan amser ac opsiynau talu hyblyg.

Gallech hefyd dderbyn hyd at £4,500 y flwyddyn nad oes angen ichi ei ad-dalu, wedi’i dalu’n uniongyrchol i chi er mwyn helpu â chostau byw os ydych yn astudio’n rhan amser.

Dysgwch fwy am sut allwn ni eich cefnogi chi a helpu i wneud astudio’n fwy fforddiadwy

Eisiau dechrau arni? Ewch amdani!

Dysgwch fwy am y Brifysgol Agored, ein cyrsiau a sut allwn ni eich helpu i gychwyn adeiladu eich dyfodol.

Trafodwch eich opsiynau gydag un o’n hymgynghorwyr, ffoniwch

029 2002 0354

Dysgwch fwy amdanom ni â'n cyrsiau

Gofynnwch am brosbectws
1Yn ôl dadansoddiad o dros 260,000 o broffiliau LinkedIn gan recriwtwyr proffesiynol FowardRole (Which universities produce the most CEOs?)