Ffordd newydd o ddod yn athro neu athrawes

Os ydych eisiau dod yn athro neu athrawes, dyma eich cyfle gyda'r Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) newydd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol ac ysgolion ledled Cymru.

Gofynnwch am brosbectws

Astudiwch gwrs TAR gyda’r Brifysgol Agored

I ddod yn athro neu athrawes mae angen ichi gwblhau gradd neu TAR sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Bydd ein cwrs TAR dwy-flynedd yn caniatáu i chi ennill SAC ar gyfer un ai lefel ysgol gynradd neu uwchradd unrhyw le yng Nghymru a gallwch astudio un ai drwy gyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Mae’r llwybrau arloesol i mewn i addysgu yn cyfuno astudiaeth academaidd ar-lein gyda phrofiad ymarferol hanfodol mewn ysgolion, mewn ffordd sy'n gweithio i chi. Mae dau lwybr ar gael:

  • Llwybr cyflogedig – Os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol brif ffrwd fel cymhorthydd addysgu neu swyddi nad ydynt yn ymwneud ag addysgu, gallwch wneud cais i'ch ysgol noddi eich astudiaeth. Rhaid i'ch ysgol wneud cais i ddod yn ysgol bartner a darparu llythyr ardystio i chi, gan y byddant yn talu'ch cyflog. Byddwch yn astudio ar gyfer eich TAR o gwmpas eich cyfrifoldebau presennol fel rhan o’ch cyflogaeth llawn amser mewn ysgol, ac mae costau eich astudiaeth yn cael eu talu gan grant hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi am ddod yn athro ysgol uwchradd a ddim yn gweithio mewn ysgol ar hyn o bryd, gallwch dal wneud cais ar gyfer y llwybr cyflogedig mewn pynciau prinder uwchradd yn unig,ond bydd angen ichi fod ag ysgol uwchradd sy'n barod i'ch noddi, a gallwn eich cynorthwyo i ddod o hyd i un.
  • Llwybr rhan amser – Os ydych chi wastad eisiau bod yn athro ond nid yw'r llwybr cyflogedig yn iawn i chi, mae opsiwn rhan-amser ar gael. Efallai eich bod chi'n newidiwr gyrfa neu fod gennych gyfrifoldebau gofalu,  gallai ein llwybr Rhan-amser helpu sicrhau mwy o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wrth i chi hyfforddi. Mae'r llwybr hwn yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd wrth i chi astudio tuag at eich TAR, ac ennill profiad addysgu ymarferol rhan-amser mewn ysgol, gan weithio o amgylch swydd rhan amser neu ymrwymiadau bywyd eraill. Bydd angen i chi ystyried a chynllunio ar gyfer sut y byddwch yn ymrwymo i 2-3 diwrnod o ymarfer dysgu ac oddeutu 16 awr yr wythnos o astudio trwy gydol y rhaglen. Gallwch chi dalu eich hun am y llwybr hwn neu gallwch wneud cais am fenthyciad myfyriwr a grantiau cynnal a chadw rhan-amser i helpu gyda'r costau.
Pa bynnag lwybr a ddewiswch, byddwch yn cael addysg o’r safon uchaf wedi’i hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae CGA yn rheolydd annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, sy'n cwmpasu athrawon a staff dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid/cymorth ieuenctid cymwys, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Bydd CGA yn asesu ein cwricwlwm TAR ym mis Ionawr 2024 i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni eu gofynion.

Beth y gallaf ei astudio?

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y cyfnodau oedran neu’r pynciau canlynol:

  • Llwybr Cyflogedig – Cynradd, Uwchradd Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura/TGCh.
  • Llwybr Rhan-amser – Cynradd, Uwchradd Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Saesneg gyda Drama, Saesneg gydag Astudiaethau'r Cyfryngau, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura/TGCh.

Sut addysgir y cwrs TAR?

Bydd y ddau lwybr yn cyfuno astudio ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb gyda mentoriaid a thiwtoriaid ymarfer. Maent hefyd yn cynnwys 120 diwrnod o brofiad ymarferol rhwng dwy ysgol:

  • Llwybr Cyflogedig – byddwch yn cael eich cyflogi’n llawn amser mewn ysgol fel athro heb gymhwyso am ddwy flynedd wrth gwblhau eich astudiaethau academaidd.
  • Llwybr Rhan-amser – Mae'r llwybr hwn yn cynnig peth hyblygrwydd gan y gallwch ennill profiad addysgu ymarferol rhan-amser mewn ysgol law yn llaw â'ch ymrwymiadau presennol. Dros y ddwy flynedd, bydd gennych 120 diwrnod o leoliadau dysgu.

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau ar gyfer 2024 yn dilyn y dyddiadau canlynol:

LlwybrDyddiad Agor ar gyfer 2024Dyddiad Cau ar gyfer 20241
Cynradd Cyflogedig (gydag ysgol ardystio)29 Hydref 202328 Mehefin 2024
Cynradd Rhan-amser229 Hydref 202328 Mehefin 2024
Uwchradd Cyflogedig (gydag neu heb ysgol ardystio)29 Hydref 202328 Mehefin 2024
Uwchradd Rhan-amser29 Hydref 202328 Mehefin 2024
1Noder ein bod yn cadw’r hawl i gau ceisiadau yn gynt os yw lleoedd wedi’u llenwi. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac mae’r galw am y llwybr Cynradd Rhan amser yn arbennig o uchel. Mae’n fuddiol ichi wneud cais i’r llwybr o’ch dewis cyn gynted â phosibl. Mae’n ddrwg gennym na allwn dderbyn ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad cau. Oherwydd y galw mawr am leoedd, efallai y bydd mynediad i'r rhaglen rhan-amser cynradd yn gyfyngedig i gynigion ar y rhestr wrth gefn.

2Oherwydd y galw mawr am lefydd rhan-amser cynradd, sylwch fod mynediad i'n rhaglen ran-amser wedi'i gyfyngu i ymgeiswyr sydd â gradd anrhydedd 2:2 neu'n uwch.

I wneud cais am ein rhaglen, cwblhewch y ffurflen gais hon. Gweler y ddogfen Canllaw Gwneud Cais am help i gwblhau'r ffurflen.

Ar gyfer myfyrwyr cyflogedig, pan fyddwch yn ymgeisio i’r rhaglen, mae’n rhaid i'ch ysgol wneud cais i ddod yn ysgol bartner ac e-bostio llythyr ardystio i TAR-Cymru@open.ac.uk Gellir dod o hyd i dempled y llythyr ardystio a ffurflen gais ysgolion partner ar wefan Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored. Mae methu â chyflwyno llythyr ardystio yn golygu na allwn symud eich cais ymlaen. 

Gofynnwch am brosbectws

Atebion i’ch cwestiynau

Sut beth yw astudio gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn medru astudio o adref, yn yr ysgol, neu le bynnag fynnoch chi. Byddwch yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhith i gael mynediad gynnwys modiwl fel gwerslyfrau, fideo a sain, gweithgareddau ymarfer dysgu. Yma, gallwch hefyd rhyngweithio gyda thiwtoriaid a myfyrwyr eraill drwy fforymau ar-lein.

A fyddaf yn cael cymorth?
Mae’r rhaglen TAR Cymru gyda'r Brifysgol Agored yn cynnwys dysgu o bell, ac mae llawer o gymorth ar gael. Byddwch yn cael Tiwtor Cwricwlwm a fydd yn arbenigo yn eich maes dewisol chi, a byddwch yn cael cymorth a chyngor ymarferol gan fentor yn yr ysgol.

Hefyd, byddwch yn medru siarad gyda'n Tîm Cymorth Myfyrwyr ymrwymedig a all roi help ac arweiniad ichi drwy gydol eich astudiaethau. Ni fyddwch ar eich pen eich hun.

Ble gallaf ganfod mwy o wybodaeth am y cymhwyster TAR? 
Dewch o hyd i ddisgrifiad llawn  ar dudalennau TAR Cymru ar ein gwefan

Sut allai wneud cais?
I wneud cais am ein rhaglen, cwblhewch y ffurflen gais hon. Gweler y ddogfen Canllaw Gwneud Cais am help i gwblhau'r ffurflen.

Beth yw’r gofynion mynediad? 
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gofynion mynediad, ewch i dudalennau TAR yng Nghymru ar ein gwefan.

Ble ga i fwy o wybodaeth am y llwybr cyflogedig? 
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y llwybr cyflogedig ar wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Ble ga i fwy o wybodaeth am y llwybr rhan-amser? 
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y llwybr rhan-amser ar wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Sut mae fy ysgol yn dod yn bartner? 
I ganfod sut y gall eich ysgol ddod yn ysgol bartner TAR ewch i’n tudalen Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Y Brifysgol Agored i weld sut allai’ch ysgol chi ddod yn ysgol bartner TAR.

Am wybodaeth bellach, ewch i’n Cwestiynau Cyffredin os gwelwch yn dda.