England

Please tell us where you live so that we can provide you with the most relevant information as you use this website.
If you are at a BFPO address please choose the country or region in which you would ordinarily be resident.
Accessibility statement
Male student looking at notes and laptop in kitchen
Yn credu nad yw prifysgol yn addas i chi? Dewch i weld beth allwch chi ei gyflawni wrth drafod gyda’r arbenigwyr ar ddysgu ar-lein. Mae ein cymwysterau yn berffaith ar gyfer rhoi hwb i’ch gyrfa ac yn ffitio o gwmpas eich bywyd bob dydd, ac yn cynnwys yr holl gefnogaeth i chi llwyddo.
Archwiliwch beth sy'n bosib pan fyddwch yn dysgu gyda ni. Mae’r dyfodol yn agored.
Student sitting on floor at home looking at laptop
Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae cannoedd o gyrsiau ar gael. Agorwch fyd o gyfleoedd, o fusnes i seicoleg, gwyddoniaeth i ofal cymdeithasol ac mae gennym radd Agored unigryw, sy’n gadael i chi astudio unrhyw bynciau mewn unrhyw gyfuniad.
Dewch o hyd i'ch cwrs
Woman studying at laptop with child hugging her arm
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi bod mewn addysg ers peth amser. Mae ein modiwlau Mynediad Rhowch hwb i’ch hyder gyda modiwl Mynediad y Brifysgol Agored wedi’u cynllunio i’ch arwain yn ôl i astudio mewn ffordd rwydd, gydag opsiynau carlam gallwch gwblhau mewn 18 wythnos. Mae nifer o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yn dweud bod dechrau gyda modiwl Mynediad wedi eu cynorthwyo i deimlo’n fwy parod ar gyfer cymhwyster llawn. A gallech astudio un am ddim os yw incwm eich cartref yn llai na £25,000 y flwyddyn.1
Modiwlau mynediad
Student walking down busy city street
Mae dros 80% o’n myfyrwyr yn ariannu eu hastudiaethau gyda benthyciad ffi dysgu. Yn ogystal, gyda grant cynhaliaeth nad oes angen ei ad-dalu, gallech gael hyd at £4,500 o arian (rheolau cymhwysedd yn berthnasol) tuag at eich costau byw, yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd a dwyster eich astudiaeth.
Ffioedd a chyllid
Student reading text book in kitchen of family home with Dad
Mae ein hymagwedd hyblyg yn golygu y gallwch astudio ar eich cyflymder eich hun a dysgu o amgylch eich swydd, eich teulu, eich bywyd. Penderfynwch pryd a ble rydych yn astudio gyda mynediad ar-lein i’ch holl ddeunyddiau a thiwtorialau i gysylltu gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr, ble bynnag yr ydych.
Dysgu hyblyg
Student working on laptop in library
Gyda’r gefnogaeth, darpariaeth a’r arweiniad priodol, credwn fod modd i lawer o bobl lwyddo mewn addysg uwch. Dyna pam nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y mwyafrif o’n cyrsiau israddedig.
Dechrau arni
Disabled student in wheelchair in a library
Gyda thiwtor penodol ar gyfer pob modiwl, byddwch yn derbyn cyngor arbenigol ac adborth yn rheolaidd. Nod ein cyrsiau yw eich grymuso gyda sgiliau allweddol, fydd yn eich paratoi am fyd sy’n newid yn gyson a’ch gwneud chi’n fwy cyflogadwy nag erioed.
Cefnogaeth tiwtor
Bydd cynghorydd yn eich ffonio chi’n ôl
Fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i ennill gradd ac mae wedi rhoi ail gyfle i mi. Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn.
Victoria
1Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol