BSc (Anrhydedd) Nyrsio
Os ydych yn gweithio fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd a bod gennych gontract cyflogaeth parhaol (dros 30 awr yr wythnos), gallwch wneud cais am le wedi'i ariannu'n llawn ar ein gradd BSc (Anrhydedd) Nyrsio. Mae angen i chi fod naill ai'n gweithio mewn Bwrdd Iechyd GIG yng Nghymru neu sefydliad sector annibynnol a gydnabyddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Rydym yn cynnig pedwar maes nyrsio: Oedolion, Plant a Phobl Ifanc, Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl.
Croesewir ceisiadau ar lefel mynediad (Lefel 1) neu, yn amodol ar gais trosglwyddo credyd llwyddiannus, efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo hyd at 180 credyd tuag at y radd nyrsio.
Rydym yn derbyn myfyrwyr yn yr hydref a'r gwanwyn. Siaradwch â'ch rheolwr llinell ac yna cysylltwch â thîm addysg nyrsio eich cyflogwr ynglŷn â'r broses ymgeisio.
Gofynion mynediad
I ymgeisio am y radd BSc Nyrsio, rhaid i chi arddangos:
- llythrennedd (sgiliau gweithredol lefel 2 neu gyfwerth, e.e. TGAU Gradd C neu uwch yn Saesneg)
- rhifedd (sgiliau gweithredol lefel 2 neu gyfwerth, e.e. TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg)
- cymeriad da, a dystiwyd drwy hunan-ddatganiad, datgeliad cofnod troseddol lefel uwch a dau eirda – rhaid i un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol (lle bo hynny'n berthnasol)
- Iechyd da, a thystiolaeth o hynny drwy hunan-ddatganiad o’ch statws iechyd, sgrinio iechyd galwedigaethol, adolygiad o gofnod salwch ac absenoldeb blaenorol, a dau eirda – rhaid i un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol (lle bo hynny'n berthnasol)
Bydd angen i chi hefyd gwblhau’n llwyddiannus gyfweliad ac asesiad o’ch gwerthoedd personol sy'n cyfateb i'r gofynion ar gyfer arferion nyrsio sensitif.
Os nad oes gennych y cymwysterau gofynnol, gallech astudio Lefel 2 Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW). Gellir gwneud hyn fel rhan o’r
rhaglen Pont i Bawb. Mae hon yn rhaglen dysgu o bell ran amser ar gyfer Cymru gyfan ac fe’i cynhelir ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro (CAVC). Gallwch astudio gartref o unrhyw le yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn sy'n golygu nad ydych yn talu unrhyw beth. Darganfyddwch fwy am
sut i wneud cais.
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Iechyd
Os ydych chi'n teimlo nad ydych yn barod efallai am y radd Nyrsio lawn, gallech astudio ein
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Iechyd sy'n cynnwys Rhan 1 o'r radd dros 16-18 mis.
Lleoedd wedi'u hariannu ar ein modiwl rhagarweiniol
Mae nifer cyfyngedig o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar y modiwl rhagarweiniol
Cyflwyno iechyd a chymdeithasol (K102) sy’n dechrau ym mis Chwefror 2025. Y modiwl hwn yw’r cam cyntaf hanfodol tuag at yrfa mewn Nyrsio, gan ddarparu trosolwg awdurdodol o iechyd a gofal cymdeithasol, drwy ystod eang o astudiaethau achos go iawn.
Mae'r lleoedd hyn ar gyfer staff Iechyd Meddwl neu Anabledd Dysgu GIG Cymru neu o ddarparwyr annibynnol a gydnabyddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, siaradwch â’ch tîm Addysg Nyrsio GIG nawr.