Mae deall ein gorffennol yn hanfodol i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas ac i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol. P'un a ydych yn awyddus i wella eich dealltwriaeth o'r gorffennol neu atgyfnerthu eich rhagolygon gyrfa, mae gan ein cyrsiau hanes lawer i'w gynnig.
Mae haneswyr yn y Brifysgol Agored yn awyddus i rannu eu hangerdd am hanes a'ch ysbrydoli chi i ddysgu am y gorffennol. Maent yn ymroddedig i gyflwyno'r addysg o'r ansawdd orau a deunyddiau asesu sy'n seiliedig ar ymchwil hanesyddol diweddar.
Gall astudio hanes yn y Brifysgol Agored gynnig:
Bydd astudio hanes yn rhoi cyfuniad hyblyg o sgiliau i chi, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, dadansoddi a chyfathrebu. Yn ogystal, byddwch yn mireinio'ch gallu i gydweddu a gwerthuso gwybodaeth. Mae galw mawr am y sgiliau hyn yn y byd y tu hwnt i astudio.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn hanes eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel: