A oes gennych chi ddiddordeb mewn camu i'r sector iechyd meddwl a gofal cymdeithasol dynamig sy'n newid yn gyflym? Neu a ydych eisoes yn rhan ohono, ac eisiau datblygu'ch gyrfa neu arbenigo ynddi? Yna gall astudio cwrs iechyd meddwl gyda'r Brifysgol Agored eich helpu chi i gyflawni'ch nod.
Ers dros 30 mlynedd, mae Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol Agored wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored a datblygu deunyddiau uchel eu parch ar gyfer defnydd amlddisgyblaethol ac aml-broffesiynol. Heddiw, rydym yn un o'r darparwyr cyfleoedd addysgol a datrysiadau dysgu mwyaf a mwyaf arloesol yn y sector hwn.
Mae manteision astudio iechyd meddwl gyda'r Brifysgol Agored yn cynnwys:
Bydd astudiaeth yn y maes hwn yn eich paratoi chi am yrfa werth chweil o fewn nyrsio iechyd meddwl neu feysydd cyffelyb. Mae ein statws fel arweinydd blaenllaw mewn dysgu o bell yn golygu, gyda'n cyrsiau ni, y gallwch weithio wrth i chi astudio. Byddwch yn gallu asesu sawl persbectif yn feirniadol a chymhwyso dealltwriaeth newydd yn ymarferol wrth i chi ddatblygu.
Mae swyddi posibl mewn perthynas รข'r maes astudio hwn yn cynnwys: