Mae'n anodd dychmygu sector mwy dynamig a newidiol na nyrsio a gofal iechyd yn y DU. P'un a ydych yn ceisio ennill lle yn y proffesiwn gofal iechyd, neu'n awyddus i ddatblygu eich gyrfa iechyd neu nyrsio, mae opsiwn i chi yn ein cyrsiau nyrsio a gofal iechyd.
Ers dros 30 mlynedd, rydym wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored ym maes Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a datblygu deunyddiau uchel eu parch er defnydd amlddisgyblaethol ac aml-broffesiynol. Byddwch yn ymuno ag un o'r darparwyr cyfleoedd addysgol a datrysiadau dysgu mwyaf a mwyaf arloesol yn y sector hwn.
Dyma fanteision astudio nyrsio a gofal iechyd gyda ni:
Mae astudio am gymhwyster y Brifysgol Agored yn un o'r disgyblaethau gofal iechyd yn baratoad delfrydol ar gyfer datblygiad personol neu wella gyrfa. Beth bynnag yw eich nodau gyrfa, gallwn ni eich helpu chi i'w cyflawni.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn nyrsio a gofal iechyd eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel: