P'un a ydych eisiau datblygu eich sgiliau ysgrifennu a'ch arferion golygu eich hun ar gyfer eich proffesiwn, neu er eich diddordeb personol, mae gan ein cyrsiau ysgrifennu creadigol lawer i'w gynnig i chi.
Ers 2003, mae dros 50,000 o fyfyrwyr wedi cwblhau un o'n modiwlau ysgrifennu creadigol hynod boblogaidd.
Dyma fanteision astudio ysgrifennu creadigol gyda ni:
Bydd astudio ysgrifennu creadigol yn rhoi cyfuniad hyblyg o sgiliau i chi a all arwain at ystod eang o wahanol alwedigaethau. Byddwch yn dysgu i werthuso a chydweddu gwybodaeth wrth strwythuro dadl yn ogystal รข chaffael sgiliau meddwl yn greadigol a beirniadol, y mae galw mawr amdanynt yn y gweithle.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn ysgrifennu creadigol eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel: