You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Cyrsiau a Chymwysterau
  4. Dysgu ar-lein am ddim

Dysgu ar-lein am ddim

Mae gennym amrywiaeth enfawr o gyfleoedd dysgu ar-lein am ddim i'ch helpu i feithrin eich sgiliau neu ddarganfod angerdd newydd.  Porwch drwy gyrsiau ar-lein, fideos, podlediadau a mwy, am ddim. 

Mae popeth am ddim, ble bynnag y byddwch – y cyfan sydd ei angen arnoch yw cysylltiad â'r we.


OpenLearn

Mae OpenLearn Cymru yn cynnig amrywiaeth o adnoddau am ddim sy'n berthnasol i Gymru ac i fywyd yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau, fideos, profiadau rhyngweithiol ac erthyglau ar-lein. Os ydych am ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch hefyd archwilio OpenLearn Wales.

OpenLearn Cymru ac OpenLearn Wales: adnoddau dwyieithog am ddim o'r Brifysgol Agored yng Nghymru

Llwyfan dysgu am ddim yw OpenLearn , sy'n cynnwys mwy na 1,000 o gyrsiau, deunydd rhyngweithiol, fideos, a gemau am ddim. Mae popeth am ddim i'w astudio, ond byddwch yn cael y gorau o OpenLearn drwy greu cyfrif (sydd hefyd am ddim). Drwy greu cyfrif, byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth o nodweddion nad ydynt ar gael i westeion, fel cofrestru ar gyrsiau am ddim ac olrhain eich cynnydd.

YouTube

Ymunwch â miliynau o bobl eraill sy'n dysgu am ddim gyda'r Brifysgol Agored ar YouTube. Gallwch ddewis rhwng fideos byr neu raglenni dogfen manwl ar amrywiaeth eang o bynciau. Ewch i'n sianel YouTube OpenLearn a thanysgrifiwch i gael gwybod am fideos newydd bob wythnos.

Mae gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd restr chwarae YouTube lle y gallwch ddod o hyd i fideos am ein gwaith, ein digwyddiadau a mwy.

Podlediadau

Chwiliwch am ‘The Open University’ ar eich hoff ddarparwr podlediadau neu porwch drwy ein harchif podlediadau.

eLyfrau

Gallwch ddod o hyd i'n hamrywiaeth eang o eLyfrau am ddim ar Google Play, Amazon Kindle neu Apple Books – chwiliwch am ‘The Open University’.

Ymchwil Agored Ar-lein (ORO)

Os hoffech gael gwybod mwy am bwnc gyda'n hymchwilwyr arbennig, ewch i ORO: un o'r casgliadau ymchwil prifysgol mwyaf yn y DU, gyda dros 15,000 o gyhoeddiadau ymchwil ar gael ar-lein. Ewch i ORO i gael rhagor o wybodaeth.