You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Gwybodaeth i fyfyrwyr
  4. Cyrraedd eich amcanion gyrfa

Cyrraedd eich amcanion gyrfa

Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn rhoi mwy na chymhwyster i chi. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio fel eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Nid yw adeiladu eich cyflogadwyedd yn ymwneud â chael swydd yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin eich hyder, sgiliau a rhinweddau i gyflawni'ch potensial. Gall hefyd eich helpu i gyflawni eich nodau personol, addysgol a’ch nodau gyrfa – sut bynnag yr ydych yn gweld hynny a beth bynnag fo'ch cefndir.

Gallwn eich helpu gyda hyn.

GO Wales: Magwch eich hyder gyrfa

Os ydych yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored sy'n astudio yng Nghymru, gallech wneud cais am gymorth gan GO Wales.

Byddwch yn cael hyfforddiant a mentora un i un pwrpasol gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda:

  • archwilio opsiynau, gwneud penderfyniadau a llywio'r camau nesaf
  • creu CV ac adolygu CV a fydd yn rhoi sylw i chi, gyda chymorth offer deallus
  • gwneud cysylltiadau â chyflogwyr.
  • dod o hyd i leoliadau gwaith sy'n eich helpu i symud ymlaen
  • hyfforddiant a gweithdai i feithrin eich hyder a'ch sgiliau.

Gallwn hefyd eich helpu gyda chostau fel teithio i weithle, neu unrhyw gostau eraill a allai fod gennych.

Cysylltwch â ni

Mae Go Wales wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i nodi ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf eu gwella, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous.

myfyriwr Go Wales

Logo GO Wales HEFCW

 

Gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (CES) y Brifysgol Agored yma i'ch cefnogi o'ch modiwl cyntaf hyd at dair blynedd ar ôl astudio. 

  • Mae'r broses gyrfaoedd 3 munud yn eich helpu i ddechrau meddwl am eich nodau a'ch anghenion
  • Mae llwybr gweithgaredd wedi’i hawtomeiddio Llywio eich Dyfodol yn meithrin eich hyder ac yn eich helpu i ddiffinio eich camau nesaf
  • Dewch o hyd i’r cyfleoedd diweddaraf yng Nghymru a dilynwch eich hoff gyflogwyr gyda Hwb Cyfleoedd a chael hysbysiadau am swyddi misol Cymru
  • Beth am drefnu ymgynghoriad gyrfaoedd unigol gyda gweithiwr gyrfaoedd proffesiynol i gael cymorth pellach.

Interniaethau rhithwir y Brifysgol Agored

Rydym bob amser yn ceisio eich helpu i gysylltu â chyflogwyr. Gydag interniaeth rithwir, byddwch yn gweithio ar-lein o gartref yn yr un ffordd ag y byddwch yn astudio. Yn union fel interniaeth wedi'i lleoli ar y safle, byddwch yn gweithio ar brosiectau a thasgau a roddir i chi gan gyflogwr ac yn cael sesiynau dal i fyny a chymorth rheolaidd ganddynt.

Cyflwyno interniaethau rhithwir i fyfyrwyr

Gwybodaeth i gyflogwyr

Cyflogwyr

Os ydych chi'n gyflogwr sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol, siaradwch â ni i weld sut y gallai myfyriwr neu raddedig o'r Brifysgol Agored helpu eich sefydliad. Cysylltwch â ni ar gowales@open.ac.uk.

Cyfleoedd eraill yng Nghymru

Venture Graddedigion

Rydyn ni'n un o nifer o brifysgolion sy'n gweithio ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd i helpu cyflogwyr lleol i ddod o hyd i raddedigion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Venture Graddedigion

)gallwch>