Ymunwch â phanel o arbenigwyr Y Brifysgol Agored wrth iddynt fynd benben â'i gilydd i drafod ai ar blaned Mawrth, sef ein cymydog agosaf, neu ar leuadau rhewllyd y planedau nwy mawr y mae bywyd yn fwy tebygol.
Gallwch holi'r arbenigwyr a hyd yn oed fwrw eich pleidlais ar ôl i chi glywed eu tystiolaeth.
Mae'r digwyddiad ar-lein hwn yn ddelfrydol i'r rhai sy'n chwilfrydig ynglŷn â ph'un a ydym ar ein pen ein hunain yn y bydysawd ai peidio, i'r rhai sy'n astudio gwyddoniaeth ar lefel Safon Uwch neu yn y brifysgol, neu i unrhyw rai sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth.
Caiff dolen a chyfarwyddiadau ymuno eu hanfon atoch ar ôl i chi gofrestru yma: https://bigdebate.eventbrite.co.uk
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw