You are here

  1. Hafan
  2. Dewch i gwrdd â ni yn Ffair Swyddi Caerdydd

Dewch i gwrdd â ni yn Ffair Swyddi Caerdydd

Dyddiad
Dydd Gwener, Chwefror 9, 2024 - 10:00 tan 13:00
Lleoliad
Cardiff City Stadium, Leckwith Rod, Caerdydd, CF11 8AZ
Cysylltwch
OU in Wales Events

Dewch heibio am sgwrs anffurfiol ac unigol gydag un o’n cynghorwyr myfyrwyr i drafod eich amcanion astudio a’n hystod o gymwysterau. 

Yn Ffair Swyddi Caerdydd, gallwn sgwrsio â chi am ddatblygiad pellach a chyrsiau i’ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol.

Os ydych chi’n newydd i fyd addysg uwch, gall fod yn ddigon i'ch dychryn.  Mae llawer o bethau i’w hystyried.  Rhaid i chi ddewis y cwrs cywir, dod i ddeall y costau a chanfod sut i astudio ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill.  Dylid ystyried y penderfyniad hwn yn ofalus, ond gallai fod yn benderfyniad a fydd yn newid eich gyrfa neu eich bywyd am y gorau.

Nid oes angen trefnu apwyntiad.  Yn syml, galwch heibio i gael gwybodaeth ymarferol ynghylch sut mae pethau’n gweithio, y gefnogaeth rydym yn ei chynnig a’r hyn y gallech ei gyflawni gyda’r Brifysgol Agored. 

Os na allwch chi ddod i'r digwyddiad hwn neu os ydych eisoes yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored, ffoniwch ein cynghorwyr cyfeillgar am fwy o gymorth a chyngor ar 029 2047 1170 neu ewch i StudentHome.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws