You are here

  1. Hafan
  2. Sut i Fynd Ati i Gyhoeddi eich Gwaith - Caerdydd

Sut i Fynd Ati i Gyhoeddi eich Gwaith - Caerdydd

Dyddiad
Dydd Gwener, Tachwedd 1, 2019 - 09:30 tan 17:00
Lleoliad
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, CF10 5AL
Cysylltwch
Wales Events
How To Get Published - Cardiff

Rydym yn cydweithio gyda Bloomsbury ar gyfer diwrnod yn llawn cyngor ysgrifennu a chyhoeddi gan awduron a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae’r diwrnod yn cynnwys sgyrsiau ar yr amrywiaeth o agweddau sydd ynghlwm â’r daith ysgrifennu ar gyfer gweithiau ffuglennol a barddoniaeth, awduron a beirdd sydd wedi gwerthu orau, cinio rhwydweithio, a thrafodaeth ryngweithiol llawn gwybodaeth gyda phanel o weithredwyr llenyddol blaenllaw. Yr awduron fydd yn siarad yn ystod y dydd yw: Raymond Antrobus, Gillian Clarke, Emma Glass a Judith Murray (Greene & Heeton agency).

Os ydych yn awdur neu’n fardd brwdfrydig sydd â llawysgrif neu gasgliad rydych yn paratoi i gyflwyno, neu’n berson sydd ar gychwyn eich taith ysgrifennu, peidiwch â cholli’r cyfle hanfodol hwn i symud eich prosiect yn nes at gael ei gyhoeddi. Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym - am fwy o wybodaeth neu i archebu, ewch i: www.writersandartists.co.uk/events/how-to-get-published-cardiff

Mae tocynnau hanner pris ar gael i fyfyrwyr presennol y Brifysgol Agored. I wneud cais am eich cod gostyngiad, e-bostiwch Wales-Arts@open.ac.uk gan nodi eich enw a rhif Adnabod Personol.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws