You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Cyflogwyr
  4. Yr Academi SgiliauAgored

Yr Academi SgiliauAgored

Yr Academi SgiliauAgored yw gwasanaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau mynediad rhwydd at gyfleoedd datblygu staff.

Credwn y dylai mynediad at gyfleoedd dysgu ar gyfer eich gweithwyr fod yn gyflym, y dylai ddiwallu eich anghenion ac y dylai fod ar gael beth bynnag fo’ch cyllideb, lleoliad neu sector. Drwy weithio gyda’r Academi SgiliauAgored, gallwch baru eich anghenion ag ystod eang o gyrsiau am ddim, cyrsiau wedi’u cyllido, a chyrsiau y telir amdanynt gan y Brifysgol Agored.

Defnyddiwch y botwm isod i gysylltu â ni ac fe awn ati i ddeall eich anghenion a blaenoriaethau, a darparu atebion hyfforddiant i chi. Rydym yn hapus i wneud hyn yn electronig neu gallwn gyfarfod ar-lein i gael trafodaeth fanylach.  

Rydym wrthi’n datblygu gwefan Academi SgiliauAgored. Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd honno hefyd yn rhoi adnodd digidol i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn gyflymach fyth.

Cysylltwch â ni