You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Y trydydd sector a gwirfoddolwyr

Y trydydd sector a gwirfoddolwyr

Dros 50 mlynedd yn ôl, sefydlwyd y Brifysgol Agored fel ‘prifysgol yr awyr’ – lle y gallai pobl weithio tuag at radd os oeddent wedi methu yn gynharach yn eu bywydau. Wrth galon hunaniaeth y Brifysgol Agored mae ei chenhadaeth gymdeithasol i agor addysg a dysgu i fyny i mwy a mwy o bobl ledled Cymru.

Oherwydd y genhadaeth hon y mae gennym berthynas wych ag elusennau a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, ochr yn ochr â’r cyrff sy’n eu cynrychioli. Drwy ein gwaith gyda’r trydydd sector, rydym wedi gallu creu mwy o lwybrau i addysg ar gyfer pobl nad oeddent efallai wedi meddwl bod hynny’n bosibl, waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu anabledd.

Sut gallwn ni gydweithio

Mae sawl ffordd y gallwn weithio gydag elusennau yng Nghymru gan gynnwys

  • datblygu llwybrau i astudiaeth ffurfiol gyda'r Brifysgol Agored ar gyfer eich staff, gwirfoddolwyr a'r bobl yr ydych yn eu cefnogi
  • gwella sgiliau trwy ein platfform dysgu ar-lein rhad ac am ddim OpenLearn.(Edrychwch ar ein rhaglen hyrwyddwyr OpenLearn)
  • cydweithio ar brosiectau ymchwil
  • siarad â’ch rhanddeiliaid am waith y Brifysgol Agored mewn digwyddiadau a chynadleddau
  • sefydlu lleoliad gwaith yn eich sefydliad ar gyfer un o'n myfyrwyr.

Os ydych yn gweithio neu’n gwirfoddoli gyda mudiad trydydd sector yng Nghymru, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn weithio gyda chi.

    

I drafod sut gallwch chi neu'ch sefyliad weithio gyda ni, e-bostiwch partneriaethau-cymru@open.ac.uk