You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Hyrwyddwyr OpenLearn

Hyrwyddwyr OpenLearn

Un o’r ffyrdd rydym yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru yw hyfforddi eu staff i rannu dysgu am ddim gyda’r bobl maent yn gweithio â hwy – yn ogystal â’u cefnogi i allu astudio gyda’r Brifysgol Agored.

Mae Hyrwyddwyr OpenLearn yn rhaglen eiriolaeth rydym yn ei chynnig i sefydliadau partner. Mae hi yno i helpu i chwalu’r rhwystrau rhag dysgu drwy helpu i gael dysgu anffurfiol, am ddim. Byddwn yn rhoi hyfforddiant i ddangos i chi sut i gefnogi pobl i gael y gorau o’n OpenLearn – ein platfform dysgu ar-lein, am ddim.

Os ydych yn frwdfrydig ynglŷn â dysgu gydol oes, gall hon fod yn ffordd wych o helpu pobl i

  • ddatblygu eu sgiliau
  • magu hyder
  • darganfod pethau newydd.

Cysylltwch â ni i ddod yn hyrwyddwr OpenLearn