Ymchwil

Mae Grŵp Ymchwil Addysg Athrawon ArDdysg yn cefnogi arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn addysg athrawon a dysgu proffesiynol. Mae'n dod ag ymchwilwyr sydd ag ystod o ddiddordebau a phrofiad ymchwil addysgol at ei gilydd.

Strategaeth Ymchwil y Rhaglen TAR (2024-2027)

Inffograffeg Adroddiad Rhaglen TAR:  Haf 2023

Inffograffeg Adroddiad Rhaglen TAR:  Gwanwyn 2023

Inffograffeg Adroddiad Rhaglen TAR:  Haf 2022

Inffograffeg Adroddiad Rhaglen TAR:  Gwanwyn 2022

Inffograffeg Adroddiad Rhaglen TAR:  Gwanwyn 2021

Y theori y tu ôl i'r Rhaglen TAR (2021)

Cyflwyno'r Rhaglen TAR (parhaus). Cyfres o astudiaethau sy'n cynnwys cryfderau a heriau gweithio mewn partneriaeth; ymchwilio i addysgeg pellter cyfunol; meicro-ddysgu a myfyrio gan gyfoedion; a datblygu'r Rhaglen TAR.

Datblygu sgyrsiau proffesiynol (2023-24). Wedi’i hariannu gan Ganolfan Ysgoloriaethau ac Arloesedd PRAXIS - Cyfadran Llesiant, Addysg ac Iaith y Brifysgol Agored, nod yr astudiaeth hon yw rhoi cipolwg ar y ‘sgyrsiau proffesiynol’ y mae tiwtoriaid ymarfer yn eu cael gyda myfyrwyr a mentoriaid ysgol.

Cefnogi gosod targedau personol ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa (2023-24). Mewn partneriaeth ag Ysgol Nantgwyn ac wedi’i ariannu gan Gonsortiwm Canolbarth y De, mae’r prosiect ymchwil cyfranogol hwn yn datblygu fframwaith athrawon gyrfa gynnar gydweithredol i danategu gosod targedau personol.

ZEST (Hyfforddiant Ysgol Addysg Zambia) (2023-24). Mewn cydweithrediad â World Vision ac ariennir gan Lywodraeth yr Alban; mae prosiect Ymchwil Gweithredol gydag athrawon yn Zambia yn archwilio eu myfyrdodau o ddefnyddio dulliau addysgu a dysgu gweithredol ZEST.

Y defnydd o dechnoleg fideo i fyfyrio ar wersi (2022-23). Wedi’i hariannu gan Ganolfan Ysgoloriaethau ac Arloesedd PRAXIS - Cyfadran Llesiant, Addysg ac Iaith y Brifysgol Agored, mae’r astudiaeth hon wedi llywio dealltwriaeth o fanteision a heriau defnyddio technoleg fideo ar wersi. Mae cronfa o adnoddau a grëwyd gan y prosiect yn cefnogi ysgolion partner ac athrawon dan hyfforddiant. Adroddiad y prosiect.

Mentora effeithiol mewn AGA: Beth sy'n gweithio a pham (2021-22). Ariannwyd yr ymchwil hwn gan Ganolfan Ysgoloriaethau ac Arloesedd PRAXIS - Cyfadran Llesiant, Addysg ac Iaith y Brifysgol Agored. Defnyddiodd arteffactau i archwilio dulliau mentora ar draws Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored. Mae casgliad o astudiaethau achos yn arddangos ymagweddau mewn gwahanol gyd-destunau ysgol. Adroddiad y prosiect. Papur mewn Persbectif Addysgwyr.

Tiwtoriaid Ymarfer TAR – rhagdybiaethau, canfyddiadau a gwirionedd (2021). Wedi’i hariannu gan Ganolfan Ysgoloriaethau ac Arloesedd PRAXIS - Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, archwiliodd yr astudiaeth hon sut mae’r rhai a gymerodd rôl tiwtor ymarfer o fewn y TAR yng Nghymru yn gweld ac yn gweithredu eu rôl. Adroddiad llawn y prosiect.