You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Yn eich helpu chi i helpu’ch dysgwyr sy’n oedolion

Yn eich helpu chi i helpu’ch dysgwyr sy’n oedolion

Os ydych yn gyflogwr neu os ydych yn gweithio â dysgwyr sy’n oedolion yng Nghymru, bydd gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddi, datblygu ac uwchsgilio’r bobl sy’n gweithio â chi.

Mae cymorth ariannol i addysg uwch wedi newid. O fis Medi 2018, bydd y system newydd yng Nghymru’n cefnogi dysgwyr rhan-amser sy’n oedolion ar yr un lefel a dysgwyr ifancach llawn amser.

Mae hwn yn gyfle gwych i oedolion yng Nghymru ddychwelyd i ddysgu neu ei ddatblygu ymhellach.

  • Gallai myfyrwyr gael hyd at £4,500 tuag at gostau byw ar ein cyrsiau rhan-amser.
  • Mae hwn yn gyfle gwych i oedolion yng Nghymru ddychwelyd i ddysgu neu ei ddatblygu ymhellach.

Fel darparwr astudio israddedig rhan-amser mwyaf Cymru, rydym yn ymwybodol iawn o’r nifer a’r amrywiaeth o rwystrau sy’n wynebu pobl wrth geisio astudio’n rhan-amser. Gwyddwn fod myfyrwyr rhan-amser yn medru osgoi dyledion yn llawer haws na’u cyfoedion ifancach amser llawn - mae gan lawer ohonynt forgeisi, yn cael budd-daliadau, mae ganddynt ddyledion ac ymrwymiadau eraill, neu maent yn ysgwyddo baich ariannol arall wrth i’w plant fynd i brifysgol. Yn ogystal, mae materion eraill fel diffyg hyder, dim profiad blaenorol o astudio neu gymwysterau, ac angen cymorth i gymryd y cam cyntaf tuag at astudio mewn prifysgol a wynebir hefyd gan amryw o’n myfyrwyr.

Bydd y pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r rhai allai fod wedi diystyru Addysg Uwch ar sail fforddiadwyedd ac yn enwedig y rhai a hoffai aros yn eu lleoliad presennol ac astudio’n rhan-amser. Fodd bynnag, yr her nawr yw lledaenu’r gair. Rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod dysgwyr sy’n oedolion a allai elwa o’r cyfle hwn, yn ymwybodol ohono.

Rydym wedi datblygu amryw o ffyrdd i chi fedru cael gwybod rhagor am y cyfleoedd hyn ar gyfer eich dysgwyr

1. Gwnewch gais am becyn o lenyddiaeth

E-bostiwch wales-events@open.ac.uk gyda’ch enw, eich cyfeiriad post a’r nifer o becynnau a hoffech chi eu cael. Byddwn yn anfon dogfennau i’ch dysgwyr ynglŷn â’r pecyn ariannu newydd.

2. Ar-lein

Lawrlwythwch ganllaw ein Partneriaid i’r trefniadau newydd ar gyfer Cyllido Myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol i fyfyrwyr

Beth allwch chi ei astudio gyda’r OU?

Sut mae astudio rhan-amser hyblyg yn gweithio?

Sut mae gradd yr OU yn gwella cyflogadwyedd?

Hefyd yn newydd ar gyfer 2018/19

Bwrsariaeth £5000 ar gael ar gyfer gradd meistr rhan amser

Mae bwrsariaeth ôl-raddedig ar gael, ar gyfer myfyrwyr cymwys gydag incwm cartref is na £25,000, sy’n dechrau astudio cwrs meistr yn 2018/19, i’w helpu gyda chostau byw a threuliau astudio eraill cysylltiedig.

I gael mwy o wybodaeth am fwrsariaeth ôl-raddedig Cymru gweler.