You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Ysgolion a cholegau

Ysgolion a cholegau

Rydym yn falch o'r gydberthynas rydym wedi ei meithrin ag ysgolion a cholegau ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda llywodraethwyr, timoedd rheoli, staff addysgu a chymorth, a disgyblion a dysgwyr i ddatblygu cyrsiau a deunyddiau newydd a all helpu gyda datblygiad proffesiynol a gwella sgiliau myfyrwyr. 

Dyma rai o'r pethau rydym yn eu gwneud:

Staff mewn ysgolion a cholegau

Hyfforddi athrawon

Rydym yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o athrawon gyda'n Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) hyblyg newydd. Mae hyn yn cynnwys llwybr cyflogedig i staff ysgolion e.e. cynorthwywyr addysgu, neu lwybr heb gyflog i bobl sy'n awyddus i newid eu gyrfa. Mae hefyd modd i ysgolion gymryd rhan yn y rhaglen er mwyn cefnogi ein hathrawon dan hyfforddiant.

Nod ein rhaglen Athrawon yn Dysgu i Addysgu Ieithoedd yw helpu staff ysgolion cynradd i addysgu Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Tsieinëeg Mandarin wrth iddynt ddysgu'r ieithoedd eu hun ar yr un pryd. Mae hyn yn helpu i fodloni'r gofyniad i addysgu ieithoedd ar lefel ysgol gynradd fel rhan o'r cwricwlwm newydd i Gymru.

Dysgu am ddim a microgymwysterau

Mae dewis helaeth o gyrsiau am ddim a gwybodaeth i staff addysgu ar gael ar OpenLearn, sef ein gwefan dysgu am ddim, gan gynnwys:

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn ddiweddar i lunio mwy o adnoddau am ddim ar gyfer gwefan Hwb. Yr oedd ein peilot Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) Ymrwymiad Caerdydd yn gydweithrediad i gefnogi staff yn eu dulliau dysgu cyfunol ac addysgeg. Yr oedd hyn trwy gydol pandemig y coronafeirws yn ogystal er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru. Dewch i glywed gan bartneriaid ac athrawon bu’n cymryd rhan:

Cefnogi disgyblion a myfyrwyr

Mae byd o ddysgu am ddim ar gael ar ein gwefan OpenLearn sy'n gallu helpu myfyrwyr gyda dysgu ac ymchwil bellach ar gyfer eu gwaith cwrs. Mae OpenLearn Cymru yn cynnwys casgliad helaeth o adnoddau a ddatblygwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan gynnwys cwrs newydd i godi ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth Cymru – Deall datganoli yng Nghymru.

Rydym wedi ymuno â Choleg Caerdydd a'r Fro i helpu 68 o'i fyfyrwyr i gael addysg uwch. Mae'r llyfryn hwn i fyfyrwyr yn esbonio ymhellach. 

Logo Barod ar Gyfer Prifysgol

Rydym wedi gweithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru i greu Barod ar gyfer Prifysgol – casgliad newydd o adnoddau i helpu pobl sydd ar fin cymryd y cam nesaf ar y ffordd i'r brifysgol.

Yn olaf, rydym yn cynnal ein rhaglenni Llysgenhadon Y Brifysgol Agored a Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer sefydliadau ledled Cymru. Mae llawer o'r bobl sy'n ymwneud â'r cyrsiau hyn hefyd yn chwarae rolau allweddol yn y gwaith o gefnogi myfyrwyr a disgyblion, gan gynnwys Penaethiaid Colegau Chweched Dosbarth, Cydlynwyr Seren, Arweinwyr Bagloriaeth Cymru a Thiwtoriaid Cymorth Bugeiliol.

Y cwricwlwm newydd i Gymru

Mae cwricwlwm newydd i Gymru bellach wedi’i sefydlu a bydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion uwchradd yn 2023.

Mae'r tabl hwn yn crynhoi ein gwaith gydag ysgolion a sut mae'n gallu cefnogi'r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad.