You are here

  1. Hafan
  2. Arddangosfa ar hanes y cymoedd yn dod i Sain Ffagan

Arddangosfa ar hanes y cymoedd yn dod i Sain Ffagan

Bydd arddangosfa o waith celf, ysgrifennu creadigol, ffilm a cherddoriaeth a gynhyrchwyd gan drigolion Blaenau Gwent yn cael ei dangos yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan rhwng 2 Ebrill a 3 Gorffennaf 2021. Mae'r gosodwaith wedi'i drefnu gan REACH Blaenau Gwent (Trigolion Blaenau Gwent yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cymuned a Threftadaeth), sef prosiect cydweithredol rhwng Grŵp Cymuned Aber-bîg, Cymdeithas Dai Linc Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru.  

Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cyhoeddus a Dysgu:  

"Rydym yn falch bod partneriaeth REACH Blaenau Gwent wedi dewis dangos ei harddangosfa yma yn Sain Ffagan. Rwy'n siŵr y caiff y dathliad creadigol hwn o dreftadaeth leol gan y gymuned ei archwilio a'i fwynhau gan ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.”  

Dysgwch fwy am yr arddangosfa ar wefan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Wedi'i sefydlu yn 2020, dechreuodd BG REACH fel cyfres o weithdai celfyddydau creadigol wyneb yn wyneb a gyflwynwyd gan academyddion o'r Brifysgol Agored i drigolion lleol yng nghanolfan gymunedol Aber-bîg. Daeth y sesiynau wyneb yn wyneb i ben yn sgil pandemig y coronafeirws, ond penderfynodd y grŵp i barhau i gydweithio. Cymerodd cyfanswm o 63 o bobl ran yn y sesiynau.  Disgwylir i fwy o sesiynau wyneb yn wyneb gael eu cynnal yn yr ardal eleni.  

Yn ogystal â'r arddangosfa yn Sain Ffagan, gellir gweld y casgliad hefyd ar OpenLearn, sef llwyfan dysgu am ddim Y Brifysgol Agored. Mae'n cynnwys ffilm a sain, ysgrifennu creadigol, celf gweledol, straeon digidol ac adnoddau ar hanes Blaenau Gwent.  

Mae BG REACH yn enghraifft wych o'r hyn all ddigwydd pan fydd cymuned yn dod ynghyd i ddathlu treftadaeth ei hardal drwy'r celfyddydau creadigol. Gan ei bod wedi'i datblygu gan bobl leol, mae'r arddangosfa yn datgelu llawer am y ffordd maen nhw'n gweld gorffennol Blaenau Gwent a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw. Mae cysylltiad cryf rhwng hanes a hunaniaeth – mae'r ffordd mae pobl yn meddwl am y gorffennol yn aml yn llywio'r ffordd maen nhw'n teimlo am y presennol.Dr Richard Marsden
Cyfarwyddwr Addysgu Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac arweinydd academaidd BG REACH

“Ers blynyddoedd lawer nawr, mae Amgueddfa Werin Sain Ffagan wedi chwarae rôl allweddol wrth alluogi pobl Cymru i ymgysylltu â'u gorffennol. Hwn yw'r lleoliad perffaith felly ar gyfer yr arddangosfa hon, sy'n rhoi cipolwg ar un o'r lleoedd mwyaf diddorol yng Nghymru, nad yw'n cael ei werthfawrogi ddigon. Rwy'n annog unrhyw un sydd â chysylltiad â Blaenau Gwent neu sydd â diddordeb mewn hanes Cymru i fynd i weld yr arddangosfa os gallan nhw.”

Mae Pat Tovey o Aber-bîg yn un o'r rhai a gymerodd ran yn y prosiectau. Dywedodd: 

“Mae'r profiad o weithio ar yr arddangosfa wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn wych i bawb sydd wedi ymwneud â'r gwaith o'i chynllunio. Allwn ni ddim aros i'w gweld, a mynd â'n teuluoedd a'n ffrindiau i Sain Ffagan i'w gweld hefyd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at y gyfres nesaf o weithdai BG REACH a fydd yn dechrau yn y gwanwyn. Dwi wir yn credu y byddan nhw'n ysbrydoli mwy o bobl i gredu ynddyn nhw eu hunain.”  

Dywedodd Suzanne Bowers, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned yn Linc:  

“Mae prosiect BG Reach nid yn unig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd treftadaeth a hunaniaeth, ond mae hefyd wedi galluogi'r gymuned arbennig hon i ddysgu sgiliau newydd ac wedi bod o fudd hefyd i'w llesiant. Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn BG REACH wedi mwynhau'r cyfle i ddod ynghyd a rhannu eu hatgofion a'u straeon am Flaenau Gwent, ac mae hyn wedi arwain at arddangosfa ddiddorol, llawn gwybodaeth y mae'n rhaid ei gweld.”  

Mae mynediad i Amgueddfa Werin Sain Ffagan am ddim. Dysgwch sut i gyrraedd yna mewn car, ar drên, ar fws neu ar feic.

Cafodd prosiect REACH Blaenau Gwent ei ariannu gan UK Research and Innovation (UKRI), a darparwyd arian ychwanegol gan Y Brifysgol Agored a Linc. Mae'r prosiect wedi'i adolygu hefyd gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Dynol Y Brifysgol Agored. 

Mae prosiect BG REACH yn gydweithrediad rhwng Grŵp Cymunedol Aberbîg, Cymdeithas Tai Linc a’r Brifysgol Agored yng Nghymru ac wedi’i ariannu gan UKRI a’i gefnogi gan Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.   

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891