Skip to content

Toggle service links

You are here

  1. Hafan
  2. Blog: Prentisiaethau Gradd yng Nghymru

Blog: Prentisiaethau Gradd yng Nghymru

Prentis gradd wrth gliniadur

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi bod yn darparu Gradd-brentisiaeth Ddigidol ers blwyddyn, gan gynnig llwybr Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ledled Cymru. Mae’r brentisiaeth yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae’r Radd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn rhaglen addysg uwch seiliedig ar waith sy’n ymgorffori dysgu academaidd a dysgu seiliedig ar waith mewn ffordd sy’n golygu bod modd ei ddarparu’n hyblyg o gwmpas gofynion y gweithle. Mae prentisiaid yn cael profiad ymarferol ac yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol am ddylunio, adeiladu a gwerthuso systemau a chydrannau meddalwedd.

Ymunodd Rhys Daniels, y Rheolwr Darparu Rhaglenni Prentisiaethau, â’r Brifysgol Agored ym mis Tachwedd 2018 ac mae’n esbonio sut mae'r rhaglen wedi tyfu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2020 yw’r ail ddigwyddiad o’i fath i gael ei gynnal ers i’r Prentisiaethau Digidol gael eu lansio yng Nghymru, felly roeddwn i’n meddwl y byddai nawr yn gyfle gwych i ysgrifennu am ein rhaglen Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a sut mae wedi tyfu dros y 12 mis diwethaf.

Cyfnod cychwynnol
Rydw i wedi bod yn gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith ers 18 mlynedd ac mae’r broses o gyflwyno’r gradd-brentisiaethau yng Nghymru wedi bod yn gyffrous ac yn amserol, yn enwedig â’r sector technoleg yn ei anterth. Mae adroddiad y Brifysgol Agored ar Arwain mewn Oes Ddigiol yn amlygu pwysigrwydd sgiliau digidol a’r effaith maent yn eu cael ar gynhyrchiant a thwf sefydliadau. Mae gradd-brentisiaethau yn cyfrannu at ddarparu ateb i hynny.

Pan ymunais â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, bûm yn ffodus iawn o gael gweithio gyda chydweithwyr yn Uned Datblygu Busnes y Brifysgol Agored, y Brifysgol Agored yn yr Alban, a’r Ysgol Gyfrifiadura er mwyn dysgu’n gyflym am eu profiadau gyda gradd-brentisiaethau. Roedd y rhain wedi bod yn cael eu cynnig mewn rhannau eraill o’r DU ers 2016. O ganlyniad, roedd gan y gyfadran a chydweithwyr eraill lawer o waith i’w wneud er mwyn cyflwyno ein prentisiaeth i’r farchnad, ond roedd gallu dysgu o brofiadau cydweithwyr eraill mewn rhannau eraill o’r Brifysgol Agored yn help mawr.

Dechrau siarad â phobl
Roedd yr amserlen i gael ein gradd-brentisiaethau cyntaf ar waith yn eithaf byr, ac roedden ni’n siarad â nifer o gyflogwyr am y tro cyntaf. Cafodd ein criw cyntaf o brentisiaid eu derbyn ym mis Chwefror 2019, ac roeddent yn dod o dri chwmni. Yr hyn oedd yn amlwg o’r ymgysylltu cynnar hwn, er ei fod ar raddfa fach, oedd bod angen sgiliau yn y sector a bod busnesau’n awyddus i ddatblygu cronfa dalent yn y maes digidol.

Ar ôl i Rhys Griffiths – Rhys arall – gael ei benodi’n Rheolwr Cysylltiadau Busnes ym mis Ionawr 2019, aethom ati i ddechrau ymgysylltu â chyflogwyr yn fwy strategol. Fel prifysgol Cymru gyfan, fe wnaethom ni dargedu pob rhanbarth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn ymestyn y cynnig i gymaint o gwsmeriaid â phosib. Roedden ni am i bobl wybod bod y Brifysgol Agored yn brifysgol leol i bawb.

Aeth Gradd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol y Brifysgol Agored yng Nghymru o nerth i nerth mewn cyfnod byr. Mewn dim o dro, roedd cyflogwyr a phrentisiaethau yn gwerthfawrogi’r dysgu hyblyg ac, er bod yr un gofynion astudio ag unrhyw radd-brentisiaeth arall yn unrhyw brifysgol arall yn berthnasol, bod modd ffitio’r amser astudio o gwmpas ymrwymiadau yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith. Mae llawer o sefydliadau yn tanbrisio lefel y cymorth mae prentisiaid yn ei chael hefyd. Mae ein tiwtoriaid academaidd ac ymarferol yn eu helpu nhw gyda modiwlau a dysgu seiliedig ar waith, ac mae’n nhw’n cael cymorth i roi eu sgiliau ar waith yn y gweithle.

Erbyn i’r criw nesaf o fyfyrwyr gael eu derbyn ym mis Hydref a Mis Chwefror ar gyfer 2019/2020, roedd 21 o gyflogwyr wedi cofrestru staff i ymgymryd â’r radd-brentisiaeth. Mae’r cynnydd hwn yn golygu ein bod yn gweithio ym mhob rhanbarth yng Nghymru erbyn hyn, ac yn cefnogi prentisiaid mewn sefydliadau sy’n cynnwys y GIG, y gwasanaeth sifil, awdurdodau lleol, cymdeithas dai, busnesau bach a chanolig, a micro fusnesau. Mae hyn wedi rhoi cyfle i’r Brifysgol Agored yng Nghymru ddatblygu perthnasoedd gyda chyflogwyr er mwyn hyrwyddo cyfleoedd a phrosiectau eraill, fel ein rhith-interniaethau.

Nid yw’r gwaith sy'n ofynnol yma’n hawdd, ond mae modd gweld y potensial sy'n deillio o brentisiaeth gradd lwyddiannus. Mae cefnogaeth cyflogwyr yn rhoi hyblygrwydd ac mae’r cydbwysedd rhwng yr astudio yn gwaith ac yn eich amser sbâr yn gwneud y brentisiaeth gyfan yn haws.

Rwy'n gweld hyn fel dechrau taith academaidd hir, gan ddechrau yma a symud ymlaen i radd meistr a phwy a ŵyr ble wedyn? Am nawr, mae gen i’r frwdfrydedd ac awydd y dysgu yr oeddwn i’n meddwl fy mod i wedi colli blynyddoedd yn ôl.

Carl Jeffreys
Trivallis

Beth nesaf?
Wrth i ni symud tuag at recriwtio ar gyfer 2020/21, rydyn ni’n datblygu cynlluniau i ymestyn cyfranogiad yn y rhaglen gradd-brentisiaethau, ac yn annog cyflogwyr i greu rhagor o gyfleoedd am swyddi i ymgeiswyr newydd. Rydyn ni hefyd yn rhoi cynlluniau ar waith yn unol â Chynllun Gweithredu Anabledd Llywodraeth Cymru er mwyn gallu ehangu cyfranogiad.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn un o brif flaenoriaethau’r Brifysgol Agored yng Nghymru, ac rydyn ni hefyd yn ymchwilio i berthnasoedd gyda cholegau a sectorau dysgu seiliedig ar waith er mwyn datblygu llwybrau cynnydd a darparu rhaglenni ar y cyd.

Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru ac rydyn ni’n mwynhau gweld y twf yn nifer y myfyrwyr rhan-amser a’r gradd-brentisiaethau.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

 Athro gyda myfyrwyr yn y dosbarth

Pum rheswm dros astudio i fod yn athro/athrawes yng Nghymru

Pam ddylai pobl ystyried bod yn athrawon fel gyrfa?

Mae Sarah Stewart, Cyfarwyddwr rhaglen tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR) y Brifysgol Agored yng Nghymru yn rhoi ei phum prif reswm.

6 Mehefin 2023
Louise Casella giving a speech

Arweinydd y brifysgol yn galw am chwyldroi system ariannu prifysgolion, wrth iddi ymadael â’i swydd

Ddydd Llun 22 Mai, traddododd cyfarwyddwr y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru, Louise Casella, brif araith mewn digwyddiad arbennig i drafod dyfodol addysg uwch yng Nghymru.

24 Mai 2023
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891