You are here

  1. Hafan
  2. Blog: Treftadaeth Blaenau Gwent a'r Brifysgol Agored

Blog: Treftadaeth Blaenau Gwent a'r Brifysgol Agored

Lansiad arddangosfa BG REACH 

Julia David
Julia David

Mynychais y lansiad arddangosfa BG Reach yn ystod fy ail wythnos gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Sylweddolais yn gyflym fod y prosiect hwn yn crynhoi sut mae'r Brifysgol Agored yn defnyddio dysgu i rymuso pobl a chymunedau. Wrth eistedd yn Amgueddfa Sain Ffagan, methais â dal y dagrau’n ôl wrth i mi wrando ar Pat yn siarad ar ran Grŵp Cymunedol Aberbîg. Ar ôl cael fy magu 15 munud i ffwrdd o Aberbîg, cefais fy nharo gan werth gweld eu creadigaethau artistig yn cael eu harddangos i bobl leol - i deimlo bod eu cymuned nid yn unig yn cael ei chynrychioli, ond yn cael ei dathlu mewn canolfan dreftadaeth genedlaethol. Nid oedd angen i mi boeni fy mod yn colli dagrau yn ystod fy ail wythnos yn y swydd gan nad fi oedd yr unig un!

Dathlu gwobr

Yr haf hwn, enillodd y prosiect BG Reach Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid ym maes Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru. Roeddem eisoes yn falch iawn o'r prosiect ac mae’r wobr hon yn dangos sut yr effeithiodd yn gadarnhaol ar bawb a gymerodd ran, o bobl i berthnasoedd rhwng sefydliadau partner. Cynhaliodd y gymuned ddigwyddiad i ddathlu’r prosiect yng Nglynebwy dydd Llun hwn, fel rhan o Wythnos Ddysgu Oedolion.

O’r Blaenau i Fangor

Mae nifer o’r bobl rwyf wedi siarad â nhw am BG REACH yn ystod y chwe mis diwethaf wedi gofyn a fyddwn yn ymwneud â phrosiect tebyg eto. Byddem wrth ein bodd yn gwneud hynny ac rydym wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer REACH Cymru. Os aiff popeth yn ôl y cynllun, bydd pum cymuned newydd ledled Cymru yn dechrau cydgynhyrchu’r prosiect ym mis Ionawr 2023. 

Gweithiais gyda llawer o gyfranogwyr BG REACH i greu’r fideo hwn, sy’n egluro mwy am y prosiect.

Soniodd rai o’r bobl y fideo am sut mae’r prosiect wedi rhoi'r hyder iddynt roi cynnig ar bethau newydd. Ar y diwrnod y gwnaethom recordio'r fideo, roedd hyn yn glir. Blodeuodd bob un ohonynt ar y ffilm, ar ôl anogaeth ysgafn ar y cychwyn. Aeth un ddynes o lynu wrth fy llaw wrth i'r camera ddechrau recordio i brin adael i’r cyfwelydd gael dweud ei ddweud! Roedd y profiad mor drawiadol i'r criw ffilmio a minnau nes i mi unwaith eto orfod chwilio am hances - sy’n dangos grym dysgu, o’i wneud yn hygyrch.

Partneriaeth gyda chymdeithas tai Linc Cymru

Ochr yn ochr â dathlu gwobr TPAS, mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Linc Cymru, un o’i phartneriaid ar y prosiect BG REACH. Mae'r cytundeb yn nodi sut y bydd y ddau sefydliad yn cydweithio yn y dyfodol, gan gynnwys:

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891