Daeth Beirdd, cerddorion ac artistiaid awyddus o bob rhan o Blaenau Gwent at ei gilydd dros fideo yn gynharach mis diwethaf mewn dathliad diwylliannol o’u hardal, hanes a phobl.
Mae'r grŵp yn rhan o BG REACH, dathliad o dreftadaeth, hanes a phobl Blaenau Gwent ddoe a heddiw. Cyfarfu'r grŵp am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2020 mewn gweithdai creadigol yn Aberbeeg. Gohiriwyd y sesiynau wyneb-yn-wyneb, ond cadwodd y grŵp mewn cysylltiad dros fideo wrth barhau i weithio gyda'i gilydd.
The Welsh Miner’s Wife
It’s raining again
Sheets clean and bare
Pegged on a washing line
Billowing fair
The Atlantic is wayward
Coal dust in the air
The steelworks nearby
Means orange to share
The miner’s wife
Forlorn
Need wash them again
Come tomorrow morn.
Katharine Marquis
‘Nid oeddem yn rhagweld y byddai’r heriau o ganlyniad i lifogydd difrifol ac yna pandemig byd-eang,’ meddai Sarah Roberts, cydlynydd partneriaethau’r Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru. ‘Ond trwy weithio gyda’n gilydd ac yn bennaf oherwydd ymrwymiad ac angerdd pobl o fewn grŵp cymunedol Aberbeeg, dyma ni heddiw i rannu a dathlu peth o’r gwaith creadigol sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr amseroedd heriol hyn.’
Yn ystod y dathliad ar-lein, rhannodd y grŵp brosiect cerdd, cerddi, celf a ffotograffiaeth gyda'i gilydd ac academyddion y Brifysgol Agored a oedd wedi gweithio gyda nhw. Roedd staff Cymdeithas Tai Linc Cymru, a oedd hefyd wedi cefnoigi’r prosiect hefyd ymhlith y mynychwyr, ochr yn ochr â theulu a ffrindiau. Dangoswyd am y troi cyntaf Cynefin 2 sef fideo a gynhyrchwyd o bell gan y grŵp yn ystod y pandemig sy'n dathlu harddwch yr ardal trwy eiriau a cherddoriaeth.
Gobaith BG REACH yw i barhau i gasglu mwy o waith creadigol sy'n dathlu treftadaeth ym Mlaenau Gwent. Gall hyn gynnwys ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol, gwaith celf, neu gerddoriaeth a fydd yn cael ei ddangos mewn arddangosfa yn 2021. Os ydych chi'n byw yn yr ardal ac â diddordeb mewn rhannu eich gwaith e-bostiwch partneriaethau-cymru@open.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Mae BG REACH yn gydweithrediad rhwng Grŵp Cymunedol Aberbeeg, Cymdeithas Tai Linc a'r Brifysgol Agored yng Nghymru, ac wedi'i ariannu gan UKRI.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Graddiodd Tomos Brogden o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ystod Haf 2022 gyda BSc mewn Mathemateg ac Ystadegau.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891