Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi datblygu cyfres newydd o adnoddau dysgu am ddim i staff mewn ysgolion a cholegau.
Trwy weithio gyda Phrosiect Addewid Caerdydd, mae staff Sefydliad Technoleg Addysg y Brifysgol Agored wedi paratoi cyfres o gweminarau, sydd wedi’u cadw ar blatfform HWB Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ysgolion a cholegau ledled y wlad wedi bod o dan bwysau sylweddol, ac wedi rhoi amser, ymdrech ac adnoddau diddiwedd i ymateb i heriau Coronafeirws.
Wrth symud at y cyfnod adfer ac i baratoi at gwricwlwm newydd i Gymru, mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i helpu staff ddatblygu sgiliau a dulliau addysgeg dysgu ac addysgu cyfunol.
Porwch drwy’r adnoddau:
Pynciau heriol a chynllunio dysgu
Cynrychioli teithiau dysgwyr o ddysgu ar-lein er mwyn deall a chefnogi myfyrwyr
Manteisio ar gymunedau a rhwydweithiau ar-lein
Defnyddio a chreu Adnoddau Addysgiadol Agored
Gwyddoniaeth dinasyddion: Ffordd o gyflwyno dysgwyr i wyddoniaeth sylfaenol
Mae gan y brifysgol hefyd nifer o gyrsiau ac adnoddau i helpu staff ysgolion a cholegau gyda datblygiad proffesiynol. Gallwch ddod o hyd i rhain ar lwyfan dysgu am ddim, OpenLearn. Gall ddysgwyr cwblhau’r cyrsiau ar gyflymder eu hunain, ac mewn grŵp fel unigolion.
Mae cyrsiau’n cynnwys:
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Lansio adnoddau am ddim wrth i ddiwygiadau Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb ddechrau yng Nghymru
Mae’r Brifysgol Agored wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu prosiect newydd cyffrous mewn cymunedau ledled Cymru.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891