Gorffennodd Taith Rosetta gyda disgyniad o dan reolaeth i arwyneb Comed 67P ddydd Gwener 30 Medi 2016; er hyn, bydd ei etifeddiaeth yn parhau mewn cymwysiadau ar y Ddaear, wrth iddo gael ei ddatblygu gan academyddion yn Y Brifysgol Agored, gan gynnwys canfod canser a llau gwely.
Cyrhaeddodd llong ofod Rosetta, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ar Gomed 67P ar 6 Awst 2014, ar ôl taith ddeng mlynedd drwy Gysawd yr Haul. Cafodd y Philae Lander ei yrru i lawr i'r arwyneb ar 12 Dachwedd 2014, gan nodi'r glaniad cyntaf erioed ar gomed.
Etifeddiaeth y Brifysgol Agored o Genhadaeth Rosetta yw labordy ymchwil bychan o'r enw Ptolemy. Wedi ei ddylunio gan wyddonwyr gofod yn y Brifysgol Agored a Labordy Rutherford Appleton, o dan arweiniad yr Athro Gwyddorau Planedol yn y Brifysgol Agored, Ian Wright, fe wnaeth Ptolemy ganfod gwneuthuriad isotopig y comed. Mae arbenigedd a ddatblygwyd ar gyfer Ptolemy bellach yn cael ei addasu i'w ddefnyddio yn y sector iechyd a chymwysiadau masnachol.
Dywedodd Dr Geraint Morgan, aelod o dîm Ptolemy a'r prif academydd ar weithgareddau trosglwyddo technoleg gofod yn Y Brifysgol Agored:
"Mae cenadaethau fel Rosetta wir yn gwthio ffiniau gwyddoniaeth a pheirianneg. Mae hi wedi bod mor ddiddorol yn cydweithio gyda'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ar Genhadaeth Rosetta i gymhwyso'r dechnoleg i newid bywydau yma ar y Ddaear."
Mae Dr Morgan a'i gydweithwyr ym maes Gwyddorau'r Gofod wedi defnyddio arbenigedd Ptolemy i ddatblygu dull gweithredu sy'n dynwared sut mae cŵn yn arogli ac yn gallu arogli am ganser. Un o'r cymwysiadau a gaiff ei archwilio yw canfod canser y prostad yn gyflymach, yn fwy manwl gywir, sef un o'r mathau mwyaf angheuol i ddynion yn y DU.
Mae aelodau o Dîm Ptolemy Y Brifysgol Agored hefyd wedi datblygu dadansoddydd arobryn i asesu ansawdd yr aer y tu mewn i longau tanfor Prydain a chodi rhybuddion os bydd nwyon peryglus fel CO2 wedi ymgasglu. Yn ddiweddar, mae arbenigedd wedi ei ddefnyddio gan ffatrïoedd persawr ym Mharis i wella'r persawrau, a bellach caiff ei ddefnyddio gan westywyr i ganfod llau gwely.
Caiff cymwysiadau byd go iawn Cenhadaeth Rosetta eu dathlu yn ystod Mis Gofod Y Brifysgol Agored.
Mae Dr Morgan yn siarad am gymwysiadau byd go iawn Rosetta, dim ond un enghraifft o'r ffordd mae gwyddonwyr gofod Y Brifysgol Agored yn cymryd rhan mewn rhai o'r cenhadaethau gofod mwyaf heriol a chyffrous.
Credyd Llun: Thinkstock
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Ddydd Llun 22 Mai, traddododd cyfarwyddwr y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru, Louise Casella, brif araith mewn digwyddiad arbennig i drafod dyfodol addysg uwch yng Nghymru.
Yma, mae’r raddedig Bethany Turner yn sôn am y modd y daeth o hyd i swydd ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen gyflogadwyedd.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891