You are here

  1. Hafan
  2. Nadiah sydd yn tyfu ei sgiliau gydag elusen Gymreig

Nadiah sydd yn tyfu ei sgiliau gydag elusen Gymreig

Dyma gwrdd â Nadiah a gymerodd ran yn y rhaglen GROW - Cyfleoedd Profiad Gwaith i  Raddedigion. Mae GROW yn cynorthwyo graddedigion y Brifysgol Agored yng Nghymru sydd wedi cymhwyso ers 2020 ac sy’n ddi-waith neu’n teimlo eu bod yn cael eu tangyflogi. Gall y rhaglen eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer eu camau nesaf, rheoli unrhyw heriau sy’n eu hwynebu ac archwilio eu huchelgais. Gall y tîm drefnu lleoliadau profiad gwaith â thâl hefyd.

‘Yn ddiweddar bu imi gwblhau fy BSc Dylunio ac Arloesedd a graddio yn ystod y pandemig, meddai Nadiah Salih o Gaerdydd. ‘Mae gen i ddau o blant a fi oedd yn gyfrifol am addysgu’r ddau o gartref. Roedd addysgu o gartref yn un o’r pethau anoddaf y bu raid imi ei wneud gan ei fod yn cymryd llawer o f’amser. Roeddwn yn fyfyriwr llawn amser hefyd felly roeddwn yn athrawes, myfyriwr, cogydd a glanhawr yn ystod y pandemig!’

‘Doedd gen i ddim amser i gael unrhyw fath o brofiad gwaith. Cyn imi ddechrau ar y rhaglen GROW, doedd gen i ddim syniad beth oeddwn eisiau ei wneud. Y cwbl a wyddwn oedd fy mod eisiau trio gwahanol bethau er mwyn cael profiad fel y gallwn gael y teimlad ynghylch gwahanol swyddi. Roedd diffyg hyder yn fy nal yn ôl. Roedd wedi cwblhau un interniaeth ond heb fod mewn swydd tymor hir.

Cafodd Nadiah ei denu at GROW oherwydd y cymorth oedd ar gael.

‘Roeddwn eisiau i rywun edrych ar gyfleoedd hefo fi gan fy mod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i brofiad gwaith a fyddai’n derbyn fy amgylchiadau,’ ychwanegodd.

Cafodd Nadiah fynd ar leoliad gwaith rhan amser, hyblyg ac o bell fel cynorthwyydd prosiect gyda’r RSPB yn gweithio ar wefan y Gwasanaeth Byd Natur Cenedlaethol (NNS)

‘Roeddwn yn casglu straeon, erthyglau a swydd ddisgrifiadau rhanddeiliaid. Yn ystod y cyfnod fe wnes i wella fy sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu a chwrdd â nifer o bobl o bob cwr o Gymru. Roeddwn yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac fe wnes i fwynhau’n hynny’n fawr. Roedd fy rheolwr llinnell, Rebecca, yn wych ac yn gefnogol tu hwnt.’

‘Roedd hi’n bleser gweithio gyda Nadiah ac roedd hi’n wych gweld ei hyder yn datblygu,’ meddai Rebecca Falvey, Rheolwr Datblygu Prosiect gyda RSPB Cymru, ‘Roedd cynnal person graddedig GROW yn brofiad cadarnhaol ac rydym eisoes wedi ei argymell i sefydliad arall.’

Ers hynny, mae Nadiah wedi dechrau MSc mewn Peirianneg gyda’r Brifysgol Agored ac wedi sicrhau interniaeth a hysbysebwyd ar yr Hwb Cyfleoedd.

‘Fe wnes i gyflwyno cais yn syth bin gan ei fod yn rhywbeth yr oedd gen i ddiddordeb yn ei wneud,’ eglurodd ‘roedd yn rhaid imi wneud gweithgaredd cyn y cyfweliad ac roedd y cyfweliad ei hun yn wych. Roeddwn yn gallu ateb pob cwestiwn yn hyderus gan egluro pam fy mod eisiau’r swydd a sut yr oedd y profiad yn fy swyddi blaenorol yn cyfrannu ati.’

Drwyddi draw, rwyf yn fwy hyderus yn wynebu cyflogwyr. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n gallu i ddilyn y rhaglen GROW - mae’n anhygoel ac mae wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i roi blaen eich troed mewn pethau newydd na fyddech wedi eu hystyried o’r blaen.

Nadiah Salih
myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891