Skip to content

Toggle service links

You are here

  1. Hafan
  2. Pum peth rydym wedi'i ddysgu am Cyril Lakin

Pum peth rydym wedi'i ddysgu am Cyril Lakin

Cyril Lakin a'i deulu yn ymgyrchu yn ystod is-etholiad

Yn ein Sgwrs Agored ddiweddaraf, siaradodd Uwch-ddarlithydd Y Brifysgol Agored mewn Gwleidyddiaeth, Dr Geoff Andrews, â Dr Daryl Leeworthy o Brifysgol Abertawe am fywyd Cyril Lakin – golygydd papur newydd, darlledwr ac Aelod Seneddol o Gymru. Os gwnaethoch golli'r sgwrs, gallwch ei gwylio eto yma.

Dyma bum peth rydym wedi'i ddysgu am Cyril Lakin.

1. Roedd y Barri yn lle gwahanol iawn pan oedd yn tyfu i fyny

Disgrifiwyd y Barri fel tref syfrdanol yr ail chwyldro diwydiannol, pan aeth o fod yn gasgliad o bentrefi bach i borthladd glo mwyaf y byd. Ganed Cyril Lakin yn 1893, yn fab i Harry Lakin, a oedd wedi symud i'r ardal ac agor siop cigydd yn Nhregatwg, oedd yn cael ei ystyried fel canol y dre ar y pryd a chafodd ei effeitho fwyaf gan y mewnlifiad. Roedd y Barri yn lle gwahanol iawn i'r dref rydym yn gyfarwydd â hi heddiw – roedd llawer o droseddu, afiechydon ac ychydig iawn o seilwaith.

Cafodd magwraeth Lakin effaith sylweddol ar ei fywyd. Roedd Harry yn saer rhydd, yn Anglicanwr yr Uchel Eglwys a daeth yn gynghorydd yn 1906. Dilynodd Cyril ei dad i fyd gwleidyddiaeth pan ddaeth yn AS ar gyfer y Barri a Llandaf, ond ystyriodd fynd i'r offeiriadaeth pan oedd yn astudio yn Rhydychen hyd yn oed.

Ei fam, Annie, a gafodd yr effaith fwyaf ar ei addysg, gan mai hi wnaeth ei wthio i gyflawni yn yr ysgol. Aeth ymlaen i astudio  yng Ngholeg Sant Ioan yn Rhydychen, ac fe'i dilynwyd gan feddylwyr nodedig eraill o Gymru megis Syr Keith Thomas, Dai Smith, Gareth Williams a Gwyn Thomas.

2. Arweiniodd ei gysylltiadau Cymreig at fyd y cyfryngau yn Llundain

Lakin yn y BBC

Tarfodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar astudiaethau Cyril. Gwasanaethodd yn Ffrainc ac yna Salonika ar y ffrynt Macedonaidd. Pan ddychwelodd, treuliodd gyfnod yn y Weinyddiaeth Fwyd, cyn pasio arholiad y Bar a symud i fyd newyddiaduraeth. Bu'n gweithio gyda David Davies, perchennog Evening Post Abertawe. (Roedd hyd yn oed wedi dyweddïo â merch Davies.) Drwy'r cysylltiad hwn y cafodd ei argymell i'r brodyr Berry, perchenogion The Sunday Times, ac yna'r Daily Telegraph a aned ym Merthyr.

Ar ôl treulio cyfnod gyda phapur newydd lleol y brodyr Berry, The Merthyr Times, symudodd i Lundain a chael swydd fel golygydd cynorthwyol gyda'r Telegraph. Yma, aeth ati i newid fformat y papur drwy foderneiddio ei gynnwys, a chynyddodd ei gylchrediad yn sgil hyn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Lakin yn gweithio fel sylwebydd radio i'r BBC yn ystod y Blitz. Disgrifiwyd ei ddarllediadau fel ‘propaganda ysgafn’, gyda'r nod o roi tawelwch meddwl i'r gwrandawyr a chodi calon pobl yn ‘nhiriogaethau’ Prydain, megis Awstralia a Seland Newydd.

'Roedd yn eithaf da am ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y radio, gan ddefnyddio brawddegau byr y gallai eu haddurno gyda'i sylwebaeth', esbonia Geoff. 

3. Cyfarfu ag Adolf Hitler unwaith, a chafodd sêl bendith Winston Churchill a chefnogwyr Josef Stalin hyd yn oed

Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, roedd Lakin yn gweithio gyda The Sunday Times, a oedd o blaid dyhuddiad mewn perthynas â'r Almaen Natsïaidd. Yn 1939, hedfanodd y perchennog, yr Arglwydd Kemsley, i'r Almaen gyda Lakin fel ei law dde. Cyfarfu'r ddau ag Adolf Hitler a'i swyddogion mewn ymdrech i feithrin cydweithrediad rhwng cyfryngau'r DU a'r Almaen. Fodd bynnag, bu eu hymdrechion yn ofer.

Yn ôl pob sôn, roedd Lakin yn isel ei ysbryd ar ôl y cyfarfod, a allai fod wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i weithio i'r BBC.

Dychwelodd Lakin i'r Barri yn 1942 i sefyll fel ymgeisydd y Llywodraeth Genedlaethol gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, Winston Churchill, mewn is-etholiad a gynhaliwyd o ganlyniad i farwolaeth yr AS ar y pryd, Patrick Munro. Er gwaethaf cadoediad etholiadol cyfnod y rhyfel, wynebodd Lakin gystadleuaeth chwyrn ar ffurf yr ymgeisydd Llafur Annibynnol, Ronald ‘Kim’ Mackay, a oedd yn cynrychioli anfodlonrwydd cynyddol yn y mudiad Llafur.

Serch hynny, enillodd Lakin y ras i fod yn AS, o ganlyniad yn rhannol i gefnogaeth o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys y Blaid Gomiwnyddol, a oedd yn cefnogi ymgeiswyr y Llywodraeth Genedlaethol am eu bod yn ffafrio ail ffrynt i guro'r Natsïaid. Mae merch Lakin, Bridget, a oedd yn 14 oed ac yn yr ysgol ar y pryd, yn cofio cefnogwyr yn dal baner â'r geiriau ‘Joe Stalin Backs Cyril Lakin’.

Good Churchill, bad Churchill? Mae gan bawb farn am gyn-Brif Weinidog Prydain, Winston Churchill. Edrychwn ar rai o uchafbwyntiau ei yrfa, ynghyd â'r pynciau dadleuol.

4. Roedd yn Geidwadwr, ond mae'n debyg y byddai wedi gwrthwynebu Brexit

Dewiswyd teitl bywgraffiad Geoff – Smooth Operator – oherwydd gallu Lakin i feithrin cydberthnasau â phobl o bob rhan o gymdeithas Prydain, ynghyd â phobl o'r adain chwith a'r adain dde.

'Fel llawer o Geidwadwyr traddodiadol, roedd yn feirniadol o ddamcaniaethau haniaethol, ac nid oedd yn hoffi Wtopiâu; roedd yn bragmatydd', esbonia Geoff.  'Roedd synnwyr cyffredin yn rhan o'i gyfansoddiad.‘

'O fewn y Blaid Geidwadol, mae'n amlwg ei fod yn perthyn i'r adain ryddfrydig, a byddai'n Ewropeaidd ac fel ei ferch (yn sicr ar adeg y refferendwm) yn erbyn Brexit. Byddai'n debyg i Ken Clark neu Chris Patten.

'A dweud y gwir, byddai'n anodd gweld a fyddai lle iddo yn y Blaid Geidwadol fodern. Nid yw'n ymddangos bod y traddodiad un genedl – er bod rhai pobl yn dweud ei fod yn cael ei adfywio – mor amlwg.'

5. Mae awdur ei fywgraffiad yn perthyn iddo o bell

Lakin with his family

Er gwaethaf ei gyfnod gweithredol yn y Senedd, collodd Lakin ei sedd yn 1945, mewn etholiad lle gwelwyd y Blaid Lafur yn dod i rym yn y DU. Yn drist iawn, bu farw mewn damwain car yn 1948.

Cyfarfu Geoff â Bridget er mwyn cael help i lunio'r bywgraffiad, a roddodd fewnwelediad amhrisiadwy iddo i fywyd ei thad. Mae ei gysylltiadau â theulu Lakin yn agosach nag yr oeddem wedi'i feddwl i ddechrau.

'Roeddwn yn edrych ar ohebiaeth George Orwell am rywbeth arall,' meddai Geoff, 'ac mi ddes i o hyd i'w enw, ac wrth gwrs roeddwn i'n adnabod ei enw oherwydd priododd chwaer fy Mam â'i nai, ac mae gennyf gefndryd yn nheulu Lakin!

'Ar y pwynt hwnnw, roeddwn yn chwilfrydig i ddysgu mwy a phenderfynais ddilyn y trywydd hwn.'

Mae Smooth Operator: The life and times of Cyril Lakin, editor, broadcaster and politician gan Geoff Andrews ar gael yma gan Parthian Books

Caiff bywgraffiad Dr Daryl Leeworthy o'r nofelydd a'r darlledwr, Gwyn Thomas, ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf fel rhan o Gyfres Cymru Fodern Parthian. 

Ynglŷn â SgyrsiauAgored

Cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw SgyrsiauAgored. Nod SgyrsiauAgored yw ennyn diddordeb y cyhoedd yn ymchwil Y Brifysgol Agored a gwneud gwaith academyddion yn ysbrydoledig ac yn hygyrch i gymunedau yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi nodau'r sefydliad o wneud addysg yn agored i bawb ac mae'n cefnogi gwaith ehangach Y Brifysgol Agored i greu Cymru wybodus, ymgysylltiol a ffyniannus.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau SgyrsiauAgored sydd ar ddod, gallwch ymuno â'n rhestr bostio neu ein dilyn ar Facebook, Twitter neu LinkedIn.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Graphic Image of various fake news articles

Ffilm newydd yn archwilio newyddion ffug a'i effaith ar ddemocratiaeth yng Nghymru

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cynhyrchu ffilm newydd sy'n archwilio twf camwybodaeth a thwyllwybodaeth a'u heffaith niweidiol ar ddemocratiaeth

24 Ionawr 2022
Image of openlearn page

15 mlynedd ers sefydlu safle dysgu am ddim y Brifysgol Agored gan gyrraedd 100m o ymwelwyr

Mae safle dysgu am ddim Y Brifysgol Agored, OpenLearn, yn dathlu carreg filltir ar ôl cyrraedd 100 miliwn o ymwelwyr yn ystod y 15 mlynedd ers iddo gael ei lansio.

13 Ionawr 2022
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891