You are here

  1. Hafan
  2. Ruth Jones a Dr Sabrina Cohen-Hatton yn cael eu hanrhydeddu gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Ruth Jones a Dr Sabrina Cohen-Hatton yn cael eu hanrhydeddu gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Dr Sabrina Cohen-Hatton, Louise Casella a Ruth Jones

Yn ystod seremoni raddio yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru yng Nghasnewydd ar ddydd Gwener 4 Tachwedd cyflwynwyd gradd er anrhydedd gan y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru i’r actor, digrifwr, awdur, a chynhyrchydd o Gymru, Ruth Jones.

Ymunodd â Dr Sabrina Cohen-Hatton a dderbyniodd radd er anrhydedd hefyd.

O radd gyda'r Brifysgol Agored i ddoethuriaeth

Ganwyd Sabrina yng Nghasnewydd. Bu farw ei thad pan oedd hi’n naw oed, ac yn bymtheg oed fe’i gwnaed yn ddigartref. Er gwaethaf yr heriau annirnadwy hyn, gan gynnwys dioddef troseddau casineb gwrth-semitaidd am iddi orfod cysgu ar y stryd, parhaodd i weithio tuag at ei harholiadau TGAU. Yn ddeunaw oed ymunodd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac yn ddiweddarach graddiodd mewn Seicoleg gyda’r Brifysgol Agored. Yn ddiweddarach cwblhaodd Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hi bellach yn Brif Swyddog Tân yng Ngorllewin Sussex, ac yn un o’r diffoddwyr tân benywaidd uchaf ei statws yn y DU. Hi yw swyddog arweiniol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân Rhyngwladol, ac yn cysylltu â Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y byd i rannu arferion gorau a throsglwyddo ei gwybodaeth yn ôl i’r DU.

Gwnaed Sabrina yn gymrawd anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd ac yn 2019 cyhoeddodd ei chofiant, The Heat of the Moment

'Mae gen i atgofion melys o fy amser yn y Brifysgol Agored,' meddai Sabrina 'Gwnes ffrindiau oes sy'n parhau i fod yn rhan o fy mywyd hyd heddiw. Rwy’n hynod falch o’r ffordd y mae’r brifysgol yn chwalu rhwystrau traddodiadol i ddysgu trwy ei dulliau pragmatig a hyblyg. Mae'n gwella cyfleoedd bywyd i rai na fyddai gradd amser llawn yn cydbwyso â gofynion eu bywydau. Fe helpodd fi i gyflawni’r symudedd cymdeithasol rydw i’n ei brofi heddiw ac rydw i mor falch o fod yn gyn-fyfyriwr, a hyd yn oed yn fwy balch o gael doethuriaeth er anrhydedd a roddir gan y sefydliad anhygoel hwn.'

Taclus, lysh a cracin'

Mae’n fraint aruthrol i gael doethuriaeth er anrhydedd gan Y Brifysgol Agored – sefydliad yr wyf bob amser wedi’i barchu a’i edmygu am ei gynwysoldeb a’i fod yn agored i bawb. Mae'n crynhoi positifrwydd a chyflawniad – nid peth bach yn yr oes sydd ohoni! Yng ngeiriau Nessa Jenkins, mae derbyn y ddoethuriaeth anrhydeddus hon yn ‘taclus’, ‘lysh’ a ‘cracin’.

Ruth Jones
Graddedig er anrhydedd

Ganed Ruth Jones ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol a’r Cwmni Brenhinol Shakespeare.

Mae credydau sgrin Ruth yn cynnwys East Is East, Emma a Fat Friends. Ynghyd â’i phartner ysgrifennu James Corden, creodd Gavin and Stacey ar gyfer y BBC lle portreadodd Ruth ei hun fel Nessa, ffrind cofiadwy, agosaf Stacey. Yn 2008 bu i Ruth sefydlu Tidy Productions gyda’i gŵr, cyn cyd-greu Stella ar gyfer Sky 1, lle chwaraeodd Ruth y brif ran.

Bu i ddwy nofel gyntaf Ruth, Never Greener ac Us Three, gyrraedd y rhestr o Werthwyr Gorau y Sunday Times, a bu i Us Three ennill Gwobr Comedi Menywod. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, Love Untold, ym mis Medi ac unwaith eto, roedd yn un o werthwyr gorau'r Sunday Times. Yn 2013 dyfarnwyd doethuriaeth er anrhydedd iddi gan Brifysgol Warwick, ac yn 2014 cyflwynwyd MBE iddi am wasanaethau i adloniant.

'Mae’n fraint aruthrol i gael doethuriaeth er anrhydedd gan Y Brifysgol Agored – sefydliad yr wyf bob amser wedi’i barchu a’i edmygu am ei gynwysoldeb a’i fod yn agored i bawb,' meddai Ruth Jones. 'Mae'n crynhoi positifrwydd a chyflawniad – nid peth bach yn yr oes sydd ohoni! Yng ngeiriau Nessa Jenkins, mae derbyn y ddoethuriaeth anrhydeddus hon yn ‘taclus’, ‘lysh’ a ‘cracin’.'

Pŵer addysg

'Heddiw, rydyn ni’n croesawu dwy Gymraes ysbrydoledig arall i’n rhestr nodedig o raddedigion er anrhydedd,' meddai Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Mae gan Dr Sabrina Cohen-Hatton stori ryfeddol – un sy’n dangos pŵer addysg i newid bywyd. Nid yn unig bu iddi lwyddodd i wella ei hamgylchiadau ei hun er gwaethaf yr holl heriau a wynebodd, mae hefyd wedi defnyddio ei phrofiad i ddylanwadu ar bolisi ac arfer y gwasanaethau brys. Rydym yn hynod falch iddi ddechrau ei bywyd prifysgol gyda ni, a’i bod wedi dychwelyd i’r Brifysgol Agored yng Nghymru i dderbyn y radd er anrhydedd hon.'

'Mae Ruth Jones wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar setiau teledu ledled Cymru a’r DU ers bron i ddau ddegawd. Portreadodd un o hoff gymeriadau comedi, Nessa yn Gavin and Stacey. Rhaglen a ddaeth â hi a’i chydweithwyr yn enwau cyfarwydd. Fel actor mae hi wedi ymddangos ar y radio a'r llwyfan, gan arddangos yr un grefft wrth bortreadu rolau dramatig a chomig. Mae Ruth hefyd wedi gwneud cyfraniad parhaus i’r celfyddydau y tu ôl i’r camera – fel cynhyrchydd ac awdur ar gyfer y sgrin, ac yn fwy diweddar fel awdur medrus.'

Graddiodd tua 600 o fyfyrwyr o’r Brifysgol Agored yng Nghymru heddiw, y rhan fwyaf ohonynt wedi cofrestru gyda’r Brifysgol Agored yn rhan-amser. Mae’r unigolion hyn yn aml yn cydbwyso eu hastudiaethau â gwaith, bywyd teuluol neu ofalu am berthynas.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891