You are here

  1. Hafan
  2. Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn helpu i dyfu canopi Caerdydd

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn helpu i dyfu canopi Caerdydd

OU in Wales staff planting a tree

Yn ddiweddar, newidiodd staff y Brifysgol Agored yng Nghymru eu desgiau am dir a daear Adamsdown, i gymryd rhan mewn cynllun plannu coed – Coed Caerdydd.

Wedi’i greu i gefnogi strategaeth newid hinsawdd Un Blaned Caerdydd, mae’r digwyddiad yn rhan o raglen 10 mlynedd i gynyddu nifer y coed yn y ddinas.  Bob blwyddyn, bydd coed Caerdydd yn cael gwared ag oddeutu 10.5% o holl lygryddion sy'n cael eu hallyrru gan draffig. Mae hyn yn cynnwys 7,900 o dunelli o garbon, sydd yr un fath ag allyriadau blynyddol 14,000 o geir. Mae’r prosiect yn gobeithio cynyddu’r canopi o 19% i 25%, gan helpu i gyflawni’r nod gyffredinol o wneud Caerdydd yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.

Rhannodd Chris Engel, Rheolwr Prosiect Coed Caerdydd, awgrymiadau defnyddiol ar sut i gefnogi’r cynllun:

“Gall pobl fabwysiadu coed yn lleol a bod yn ‘warcheidwaid coed’, fel rydyn ni’n eu galw nhw. Wrth i’r hinsawdd newid ac wrth i’r blaned boethi, mae’r hafau'n boethach ac yn sychach, felly mae'n hanfodol bod pobl yn dyfrio coed mewn cyfnod o sychder.

“Bydd coed wastad yn cael budd o ddiferyn o ddŵr bob dydd – mae angen mwy o ddŵr ar y rhai mwy rydyn ni wedi’u plannu – ond mae unrhyw beth yn helpu, yn enwedig yn gynnar yn y bore neu fin nos ar ôl i’r tymheredd ostwng. Drwy wneud hyn, mae llai o ddŵr yn cael ei golli i anweddiad.’

Gall pobl fabwysiadu coed yn lleol a bod yn ‘warcheidwaid coed’, fel rydyn ni’n eu galw nhw. Wrth i’r hinsawdd newid ac wrth i’r blaned boethi, mae’r hafau'n boethach ac yn sychach, felly mae'n hanfodol bod pobl yn dyfrio coed mewn cyfnod o sychder.

Chris Engel
Rheolwr Prosiect Coed Caerdydd

‘Rydyn ni'n hynod o falch bod ein staff wedi cymryd rhan yn y prosiect arbennig hwn’, meddai Scott McKenzie, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Brifysgol Agored yng Nghymru, a’r arweinydd ar gynaliadwyedd. ‘Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’n nodau ni fel prifysgol yng Nghymru, a dyna pam rydyn ni mor awyddus i gefnogi cynlluniau fel y rhain, a fydd yn ein helpu i symud tuag at sero net.  Mae'n fater pwysig i lawer o’n staff hefyd, felly da iawn nhw am wirfoddoli eu hamser.’

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891