You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Cyrsiau a Chymwysterau
  4. Prentisiaethau Gradd yng Nghymru

Prentisiaethau Gradd yng Nghymru

Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Mae rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol y Brifysgol Agored yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion ymddygiad sydd eu hangen ar brentisiaid i fod yn weithwyr peirianneg gymhwysol proffesiynol cymwys. Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen eang yn y technolegau a’r technegau cyfrifiadurol sylfaenol a’r materion sy’n gysylltiedig â rhoi’r rhain ar waith. Yn ogystal â hyn, mae’r rhaglen yn darparu’r arfau sy’n galluogi prentisiaid i fod ar y blaen a’n gyfredol mewn maes pwnc sy’n newid yn gyflym iawn.

Mae’r Brentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn rhaglen addysg uwch seiliedig ar waith sy’n integreiddio dysgu academaidd a dysgu seiliedig ar waith mewn ffordd y gellir ei gyflwyno’n hyblyg o amgylch gofynion eich gweithle. Bydd prentisiaid o ganlyniad yn ennill profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol am ddylunio, adeiladu a gwerthuso elfennau a systemau meddalwedd.

Ariennir y brentisiaeth yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig Prentisiaethau Gradd mewn datblygu meddalwedd i bob cyflogwr yng Nghymru.

Ar gyfer pwy?

Mae’r brentisiaeth yn addas i weithwyr hen a newydd sy’n gweithio mewn swyddi ym meysydd digidol a thechnoleg ac sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u horiau gwaith yng Nghymru.

Pam y dylech ddewis Prentisiaethau Gradd y Brifysgol Agored

  • Darperir y rhaglenni’n hyblyg o amgylch gofynion eich sefydliad ac ni fydd gofyn i chi dreulio llawer o amser i ffwrdd o’r gweithle. Defnyddir dulliau dysgu ar-lein aml-gyfryngol, gyda chymorth tiwtor.
  • Gellir darparu’r rhaglen ddysgu ar yr un pryd i leoliadau gwahanol drwy ddefnyddio ein technoleg addysgol sydd wedi hen ennill ei phlwyf, gan ddarparu rhaglen gyson ar raddfa i nifer o staff.
  • Mae gennym bron i 50 mlynedd o brofiad o ddarparu gwybodaeth a sgiliau i oedolion prysur sy’n gweithio – mae 69% o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn gwaith, ac rydym wedi dylunio ein prentisiaethau i sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith wrth wraidd ein rhaglenni.

Cymorth

Ar ben y cymorth rheoli cyfrif, bydd eich sefydliad a’ch prentis(iaid) yn cael yr adnoddau canlynol:

  • Tiwtor Ymarfer – Mae’n helpu i integreiddio dysgu yn y gweithle ar draws y rhaglen gyfan a chefnogi’r gwaith o ddarparu’r modiwlau dysgu seiliedig ar waith. Bydd y prentisiaid a’u rheolwyr llinell yn cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu rithiwr gyda’r tiwtor ymarfer, a bydd yn ymweld â nhw o leiaf pedair gwaith y flwyddyn. Rydym hefyd yn darparu tiwtor ymarfer sy’n siarad Cymraeg i ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg.
  • Tiwtor Academaidd – Mae’n hwyluso dysgu ar y modiwlau gwybodaeth ar bob cam o’r cymhwyster drwy diwtora personol, a rhoi cymorth ac adborth i fyfyrwyr.
  • Rheolwr Cyflawni Rhaglen Prentisiaeth – Mae’n cefnogi cyflogwyr i ddarparu’r rhaglenni prentisiaeth sy’n bodloni eu hanghenion busnes ac yn cyd-fynd â’u nodau ariannol a pherfformiad cytunedig. Mae’n darparu gwybodaeth reoli’n rheolaidd.

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw i ddarganfod mwy.

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw

Ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau mis Chwefror yma, 10 Ionawr yw’r terfyn amser ar gyfer cofrestru. Peidiwch â cholli’r cyfle, siaradwch gyda chynghorydd heddiw.

Siaradwch gyda chynghorydd

I gael gwybodaeth fwy manwl am ein Prentisiaethau Gradd lawrlwythwch ein llyfryn.

Lawrlwythwch lyfryn