Degree Apprenticeships in Wales

Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol

Ymgorffori egwyddorion peirianneg i ddatblygu meddalwedd.

You are here

  1. Home
  2. Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol

Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol

Dewch i’n sesiwn wybodaeth nesaf. Bydd y digwyddiad ar-lein hwn, sy'n cael ei gadeirio gan Hannah Cole a Zoe Farnell, sy'n gweithio i'r Brifysgol Agored yng Nghymru, yn esbonio'r rhaglen yn fanylach i chi.

Bydd y sesiwn yn trafod sut mae’r rhaglen yn gweithio, ei manteision i’ch sefydliad, beth fydd prentisiaid yn ei ddysgu a sut mae gwneud cais.

Dyddiad: 15 Ebrill 2024 

Amser: 11:00 - 12:00 (GMT) 

Lleoliad: Sesiwn Microsoft Teams 

Cofrestru

Mae rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol y Brifysgol Agored yng Nghymru yn darparu‘r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion ymddygiadol y mae prentisiaid eu hangen i fod yn weithiwyr peirianneg feddalwedd proffesiynol. Drwy ddilyn y rhaglen, ceir sylfaen eang o’r technolegau a thechnegau cyfrifiadura hanfodol a’r materion a wynebir wrth eu defnyddio. Mae’r rhaglen hefyd yn cyflwyno’r offer sy’n galluogi prentisiaid i fod yn hyblyg ac ymwybodol mewn maes pwnc sy'n newid yn barhaus.

Mae'r Brentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol yn rhaglen addysg uwch seiliedig ar waith, sy'n cyfuno dysgu academaidd a seiliedig ar waith mewn ffordd y gellir ei darparu'n hyblyg o amgylch gofynion eich gweithle. Felly, bydd prentisiaid yn ennill profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol o ddylunio, adeiladu a gwerthuso cydrannau a systemau meddalwedd.

Ariennir y brentisiaeth yn llwyr gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig Prentisiaethau i Raddedigion mewn datblygu meddalwedd i bob cyflogwr yng Nghymru.

Dangoswch fod gennych ddiddordeb er mwyn dysgu mwy


DOLENNI MYNEDIAD CYFLYM

Yn ôl i'r brig


Pam dewis gwneud Prentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru

  • Cyflwynir y brentisiaeth mewn ffordd hyblyg o amgylch gofynion eich sefydliad. Ni fydd angen treulio llawer o amser o’r gweithle a defnyddir ein dulliau dysgu ar-lein sy’n cael eu cefnogi gan diwtoriaid ac sy’n gyfoethog o ran cyfrwng.
  • Gellir darparu addysg ar yr un pryd mewn sawl lleoliad gwahanol gan ddefnyddio ein systemau technoleg addysgiadol dibynadwy, yn ogystal â darparu rhaglen gyson ar raddfa i nifer o staff.
  • Mae gennym 50 mlynedd o brofiad mewn darparu gwybodaeth a sgiliau i oedolion prysur sy'n gweithio - mae 69% o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn gwaith, ac rydym wedi llunio ein prentisiaethau i sicrhau bod dysg seiliedig ar waith wrth wraidd ein rhaglenni.

Yn ôl i'r brig


Mae'r brentisiaeth yn addas i gyflogeion newydd a chyfredol sy'n gweithio mewn swyddi digidol a thechnoleg ac sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u horiau’n gweithio yng Nghymru.

Cynigir y rhaglen i gyflogeion cyfredol er mwyn datblygu o fewn eu gyrfa a datblygu eu sgiliau, yn ogystal â chyflogi doniau newydd a thyfu eich tîm. Mae’n wych ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau llenwi bylchau sgiliau.

Yn ôl i'r brig


Cam 1

Cam 2

Cam 3

Cam 4

Cyflawniad

Cyflwyniad i gyfrifiadureg a TG 2

Technolegau gwe

Rheoli TG: pam, beth a sut

Technolegau gwe, symudol a chwmwl

Dyfarnwyd BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gynhwysol.

Rhaglen Brentisiaeth wedi’i chwblhau.

Cyflwyniad i dechnolegau cyfrifiadureg

Rhaglennu Java yn canolbwyntio ar wrthrych

Peirianneg meddalwedd

IDylunio rhyngweithio a phrofiad y defnyddiwr

Datblygu gyrfa a chyflogadwyedd

Newid, strategaeth a phrosiectau ar waith

Dysgu seiliedig ar waith 3

Prosiect terfynol

   Modiwlau Damcaniaethol
   Modiwlau Ymarferol

 


Mae'r brentisiaeth yn cynnwys pedair cydran:​

Asesiad cychwynnol Modiwlau i’w hastudio Modiwlau dysgu seiliedig ar waith BSc (Anrhydedd) Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol

Cwblheir gan Reolwr Cyflawni'r Rhaglen Prentisiaeth (APDM).

Byddant yn adolygu lefel bresennol y prentisiaid o ran gwybodaeth, profiad gwaith a chymwyseddau swydd, yn ogystal â chymwysterau blaenorol a sgiliau mathemateg a Saesneg.

Gwneir hyn er mwyn teilwra cynlluniau dysgu unigol i helpu prentisiaid i fanteisio’n llawn ar y brentisiaeth.

Bydd Rheolwr Cyflawni’r Rhaglen Brentisiaeth a’r Rheolwr Cysylltiadau Busnes (BRM) hefyd yn cynnig sesiynau Cyngor ac Arweiniad gyda’r prentisiaid a’u rheolwyr llinell.

Byddant yn meithrin dealltwriaeth o’r prif ddamcaniaethau, sgiliau a chymwyseddau er mwyn gwella safon sgiliau digidol prentisiaid.

Bydd Tiwtoriaid Academaidd yn hwyluso astudio, yn cefnogi dysgu ac adborth, ac yn marcio asesiadau modiwlau.

Byddant yn arwain prentisiaid i ddefnyddio ac ymgorffori eu gwybodaeth academaidd o fewn eu harferion gwaith.

Mae hyn yn aml yn cynnwys prentisiaid yn myfyrio ar eu swydd a dysgu o fewn y gweithle.

Mae’r Tiwtor Ymarfer yn helpu’r myfyriwr i gyfuno ac ymgorffori eu dysgu seiliedig ar waith a dysgu academaidd.

Fe’i dyfarnir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru pan fydd y prentis wedi cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.

Yn ôl i'r brig


Mae’r Brifysgol Agored wedi sefydlu’r profiad a’r gefnogaeth er mwyn cynorthwyo prentisiaid i lwyddo ac i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ymarfer.

Yn ogystal â chymorth rheoli cyfrifon penodol, bydd y Brifysgol Agored yng Nghymru’n defnyddio staff profiadol i gefnogi’ch sefydliad a’ch prentisiaid. Byddant yn gweithio ar y cyd gyda’r swyddi perthnasol yn eich sefydliad:

Tiwtor Ymarfer

Mae’r Tiwtor Ymarfer yn rôl allweddol ac yn darparu cymorth unigol er mwyn i brentisiaid symud ymlaen a chyflawni holl ofynion y brentisiaeth neu’r rhaglen broffesiynol maent wedi ymrestru arni. Mae’r cymorth wedi’i deilwra ar gyfer cyd-destun dyletswyddau proffesiynol ac amgylchedd gweithle pob dysgwr. Mae ymgysylltiad rheolaidd gyda rheolwr llinell neu oruchwyliwr gweithle pob dysgwr yn elfen allweddol o’r swydd hon. Yn ogystal, mae’r Tiwtor Ymarfer yn hyfforddi’r prentisiaid i gyfuno’u dysg academaidd â’u gwaith proffesiynol, rhoi arweiniad wrth iddynt ddatblygu eu portffolio a’u paratoi nhw ar gyfer eu hasesiad pwynt terfyn.

Mae swyddi a thimau eraill sy’n cefnogi prentisiaid a chyflogwyr, ac sy’n gweithio’n agos gyda Thiwtoriaid Ymarfer.

Tiwtoriaid Academaidd

Mae rôl Tiwtoriaid Academaidd yn ymwneud â chefnogi llwyddiant drwy ddefnyddio, dehongli a datblygu’r adnoddau addysgu a gynhyrchir gan y Brifysgol Agored a’u cyflwyno i brentisiaid. Maent yn monitro cynnydd, marcio aseiniadau, darparu adborth wedi’i deilwra’n arbennig ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi datblygiad academaidd, personol a phroffesiynol y prentisiaid. Yn ogystal, mae Tiwtoriaid Academaidd yn darparu cefnogaeth fugeiliol i brentisiaid. Cyfeirir atynt weithiau fel Darlithwyr Cyswllt neu Diwtoriaid Modiwl.

Tîm Ymrestru a Chymorth Prentisiaethau (AEST)

Mae’r Tîm Ymrestru a Chymorth Prentisiaethau yn cefnogi prentisiaid drwy gydol eu taith Brentisiaeth. Gall y tîm hwn o Gynghorwyr Uwch gynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer ystod o ymholiadau posib gan brentisiaid wrth iddynt astudio eu modiwlau, boed hynny’n gyngor ynghylch aseiniad neu arholiad sydd i ddod, llywio eu ffordd o amgylch llwyfannau dysgu ar-lein y Brifysgol Agored neu pan fyddant yn profi amgylchiadau anodd sy’n effeithio ar eu hastudiaethau. Gall y tîm cymorth hwn gysylltu ag ystod eang o dimau perthnasol o fewn y Brifysgol er mwyn cynorthwyo prentisiaid i gael yn ôl ar ben ffordd unwaith eto.

Rheolwyr Darparu Rhaglenni Prentisiaethau (APDM)

Mae’r rôl hon yn cefnogi cyflogwyr i recriwtio a rhoi ymgeiswyr ar y rhaglen brentisiaeth ddewisol. Mae Rheolwyr Darparu Rhaglenni Prentisiaethau’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ac yn cynnal asesiad cychwynnol i sicrhau bod y brentisiaeth yn addas ac ar lefel briodol i’r unigolyn. Mae Rheolwyr Darparu Rhaglenni Prentisiaethau’n darparu adroddiadau rheoli gwybodaeth chwarterol ar gyfer cyflogwyr sy’n nodi cynnydd dysgwyr yn fanwl ac yn rhoi ymyriadau ar waith pan mae angen cymorth ar brentisiaid. Bydd gan gyflogwyr Reolwr Darparu Rhaglenni Prentisiaethau penodol i fod yn brif gyswllt ar gyfer y ddarpariaeth brentisiaeth drwy gydol y rhaglen.

Rheolwr Llinell

Mae hwn yn unigolyn yn y gweithle sy’n cefnogi’r rhaglen brentisiaeth ddewisol ar gyfer ei weithiwr neu ymgeisydd ac yn ymwneud â’r broses gynefino gyda’r ymgeisydd hwnnw. Mae Rheolwyr Llinell yn hwyluso’r prentis i gymryd amser hyfforddiant wedi’i gynllunio pan nad yw’n gweithio ac i gymryd rhan lawn mewn cyfarfodydd adolygu pob 12 wythnos gyda’r Tiwtor Ymarfer a’r prentis. Bydd rheolwyr llinell yn cael cyfarfodydd un i un gyda’u prentisiaid er mwyn ymgorffori’r brentisiaeth i mewn i berfformiad a datblygiad. Maent yn allweddol i alluogi llwyddiant y prosiect seiliedig ar waith a chwblhad asesiad pwynt terfyn y prentis.

WYBODAETH YCHWANEGOL

Team in a meeting

GWYBODAETH I GYFLOGWYR

Datblygu’r sgiliau perthnasol ar gyfer eich sefydliad, gwella cynhyrchiant a gwella morâl y staff.

Manager speaking to employees

GWYBODAETH I BRENTISIAID

Enillwch gyflog wrth ddysgu a datblygwch y sgiliau rydych eu hangen i weithio yn y sectorau rydych yn eu dewis.

Yn ôl i'r brig

Mae prentisiaeth yn gofyn am ddiogelu rhan o amser gwaith prentis ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn caniatáu i’r prentis gymryd rhan yn y dysgu. Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig dysgu ar-lein sy'n cael ei gefnogi gan diwtoriaid. Mae’n rhoi’r hyblygrwydd i chi ddewis yr adegau mwyaf addas, yn rhagweithiol ac yn adweithiol, o amgylch anghenion sefydliadol - gan leihau’r amhariad ar gynhyrchiant o ddydd i ddydd.

Ar hyn o bryd mae diwrnodau wyneb yn wyneb ar y rhaglen yn cael eu cyflwyno drwy ystafelloedd cyfarfod ar-lein. Mae'n ofynnol i ddysgwyr fynychu’r dyddiau hyn. Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol Agored yn adolygu darpariaeth ddiogel diwrnodau wyneb yn wyneb ar y campws a bydd tîm y rhaglen yn cael ei arwain gan y brifysgol a’r Rheoleiddwyr Proffesiynau Iechyd Statudol wrth adolygu darpariaeth ar-lein ac ar y campws. Bydd cyflogwyr a dysgwyr yn cael gwybod ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r patrwm o ddarpariaeth.

OMae darpariaeth ar-lein yn amrywiol ac yn rhyngweithiol. Defnyddir fformatau sy’n gyfoethog o ran cyfrwng sy’n denu sylw prentisiaid ac yn eu cyffroi yn ystod eu taith. Gellir dysgu 24/7 ar gyfrifiaduron, tabledi a theclynnau symudol. Defnyddir fforymau a thiwtorialau ar-lein, yn ogystal â chyfathrebiadau mewn e-byst a thros y ffôn i gefnogi prentisiaid drwy gydol y rhaglen.

Back to top


RHAGLENNI SYDD AR GAEL MEWN GWLEDYDD ERAILL


Education & Skills Funding Agency Apprenticeships  

English | Cymraeg

Crynodeb o'r Rhaglen

Lleoliad: Cymru


Hyd

  • 4 - 4.5 blwyddyn

Lefel

  • Prentisiaeth Lefel 6

Gofynion mynediad penodol

  • Nag oes

Cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol (RPL)


Cymwysterau a gyflawnwyd ar ddiwedd y rhaglen

  • BSc (Anrh) Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltwch â ni

Lawrlwythwch ein llyfryn i gael golwg fanylach ar ein Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol.

Lawrlwytho llyfryn

Not on our mailing list?

Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.

Sign up to our emails