Cefnogi myfyrwyr yng Nghymru

Rydym yn credu y dylai addysg fod yn agored i bawb. Dyna pam mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig ystod o gymorth er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni eich potensial llawn. Os oes gennych chi’r awydd i ddysgu, byddwn yn eich helpu i gyflawni eich nod.

Gofynnwch am brosbectws

Pam dewis y Brifysgol Agored?

Ni yw arbenigwyr dysgu o bell â chymorth. Mae'r Brifysgol Agored wedi bod yn arloesi ers dros 50 mlynedd er mwyn helpu dros 2 miliwn o fyfyrwyr i gyflawni eu dyheadau. 

Mae ein myfyrwyr yn dod o bob cwr o Gymru ac yn byw bywydau prysur, yn cydbwyso eu hastudiaethau gyda’u cyfrifoldebau a dan amgylchiadau o ddydd i ddydd. Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig astudiaeth sy’n hyblyg, yn cyd-fynd â'ch bywyd, gyda chymorth ar bob cam o'r ffordd. Dyna pam mae mwy o fyfyrwyr anabl yn dewis astudio gyda’r Brifysgol Agored nag unrhyw brifysgol arall yn y DU. Y llynedd yn unig, cefnogodd y Brifysgol Agored dros 28,000 o fyfyrwyr ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

Pa gefnogaeth sydd ar gael? 

Nid yw dysgu o bell yn golygu y byddwch ar eich pen eich hun. Fel myfyriwr y Brifysgol Agored, cewch eich cefnogi'n llawn gan:

  • Eich tiwtor - Bydd tiwtor yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer pob modiwl rydych chi’n ei astudio gyda ni. Mae'r tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn cynnig cymorth, adborth ac arweiniad i chi drwy gydol eich astudiaethau. 
  • Ein Tîm Cefnogi a Recriwtio Myfyrwyr - Mae ein tîm yng Nghymru yma i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ystod o bynciau, gan gynnwys dewis cyrsiau ac opsiynau cyllid. Maent hefyd yma i drafod unrhyw addasiadau astudio a all fod eu hangen arnoch er mwyn helpu ag unrhyw bwysau allanol a all effeithio ar eich astudiaethau. Nid ydych byth ar eich pen eich hun yn y Brifysgol Agored.
  • Eich cyd-fyfyrwyr drwy ein fforymau myfyrwyr - Mae gan bob modiwl fforwm ar-lein lle gallwch sgwrsio gyda’ch cyd-fyfyrwyr yn y Brifysgol Agored. Mae'n lle i drafod cynnwys y cwrs, gofyn cwestiynau ac yn aml, mae'n lle gwych ar gyfer cefnogi eich gilydd.

Ni fyddwch erioed wedi teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich annog a'ch grymuso cymaint ag yr ydych fel aelod o deulu'r Brifysgol Agored.

Beck Collett, BA (Anrh) Llenyddiaeth, MA mewn Ysgrifennu Creadigol

Beth os oes angen gwneud addasiadau er mwyn helpu fy astudiaethau?

Os oes gennych chi unrhyw heriau sy’n effeithio ar sut ydych chi’n astudio, sut mae angen i ni gyfathrebu â chi, neu sut ydych yn defnyddio deunyddiau astudio, rydym eisiau i chi roi gwybod i ni amdanynt.

Gallwn gynnig ystod o addasiadau fel eich bod yn gallu gwneud y mwyaf o’ch astudiaethau gyda ni. Er enghraifft:

  • Gallwn roi mynediad i chi at fersiynau wedi'u recordio o diwtorialau i chi eu gwylio'n ôl.
  • Gall eich tiwtor gysylltu â chi drwy ddull penodol, er enghraifft drwy e-bost yn hytrach na thros y ffôn.
  • Gall eich tiwtor eich atgoffa’n rhagweithiol am ddyddiadau cau aseiniadau eich modiwl. 
  • Mae’n gyffredin i’r mwyafrif o fodiwlau gael trawsgrifiadau o unrhyw ddeunyddiau clywedol.

Yn yr holl enghreifftiau hyn, fel gyda’r rhan fwyaf o’r cymorth rydym yn ei gynnig, nid oes angen i chi gynnig unrhyw dystiolaeth feddygol na bod â diagnosis swyddogol. Ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr, mae angen i chi gysylltu â'n Tîm Cymorth i Fyfyrwyr cyfeillgar yma yng Nghymru a byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf. 

Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pa gymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi,  cysylltwch â ni, a gallwn wneud ychydig o awgrymiadau.

Beth os oes angen cymorth arbenigol arnaf?

Mae lefelau pellach o gefnogaeth ar gael, fel gofynion arholiadau penodol neu ddeunyddiau astudio mewn fformatau amgen fel print bras neu ddeunyddiau addas i’r darllenydd sgrîn. Mae’r rhain yn gofyn am dystiolaeth feddygol, ond y cam cyntaf yw cysylltu â ni.

Cefais liniadur gyda ZoomText arno, a rhaglen darllen sgrin er mwyn imi allu darllen dogfennau.

Helen Russell, BSc (Anrh) mewn Troseddeg a Seicoleg

A oes cymorth ariannol ar gael?

 Mae gwahanol fathau o gymorth ariannol ar gael i’ch cynorthwyo yn ystod eich astudiaethau.

 

  • Gall y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) fod o gymorth i dalu am offer a chefnogaeth ychwanegol a all fod eu hangen arnoch o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd, cyflwr iechyd parhaus, nam synhwyraidd, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu penodol. Rydych yn gwneud cais am DSA drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC).
  • Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwn eich tywys chi drwy broses ymgeisio’r DSA.Mae ystod o fwrsariaethau ar gael a all gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan gynnwys y Gronfa Ysgoloriaethau Cyn-filwyr Anabl, Bwrsariaeth Profiad o Ofal, Bwrsariaeth Gofalwyr a mwy. Dysgwch fwy ar ein tudalen Ffioedd a Chyllid.
  • Gall myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n astudio tuag at gymhwyster cymwys gael cymorth ariannol hefyd i helpu gyda chostau byw. Gallech dderbyn grant hyd at £4,500, nad oes angen ichi ei ad-dalu, yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd a dwyster eich astudiaeth. Mae benthyciadau cynhaliaeth hefyd ar gael. Ewch i'n tudalen Ffioedd a Chyllid i gael gwybod faint allech chi fod yn gymwys amdano.

Siaradwch am eich opsiynau gydag un o’n cynghorwyr

Cysylltwch â ni

Darganfyddwch fwy amdanom ni a’n cyrsiau

Gofynnwch am brosbectws