Mae llwyddiant yn fforddiadwy

Gallech fod yn gymwys am fenthyciad o hyd at £18,950 gan Cyllid Myfyrwyr Cymru i helpu gyda’ch astudiaethau ôl-raddedig. Mae hyn yn golygu mwy o gymorth wrth i chi weithio’n galed tuag at eich dyfodol newydd.

 

Gofynnwch am brosbectws

Cymorth ariannol i fyfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru

Nid fu amser gwell erioed i ymuno â ni fel myfyriwr ôl-raddedig. Gallech fod yn gymwys am fenthyciad o hyd at £18,950 gan Cyllid Myfyrwyr Cymru os ydych chi’n astudio gradd feistr.

Mae'r cymorth yn cynnwys benthyciad di-brawf-modd gwerth hyd at £18,950 dros gyfnod eich cymhwyster y bydd angen ei dalu'n ôl. Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol. Rhaid i chi fod yn astudio gradd meistr y gellir ei chwblhau mewn dim mwy na thair blynedd, er gellir caniatáu seibiannau astudio. Bydd y benthyciad ar gael i fyfyrwyr gradd meistr sy'n byw yng Nghymru, ac o dan 60 oed pan fydd y cwrs yn dechrau.

Noder y bydd y benthyciad yn cael ei dalu i chi mewn rhandaliadau wedi i chi ddechrau astudio. Felly, bydd angen i chi dalu eich ffioedd cwrs yn gyntaf er mwyn cofrestru ar gyfer eich cymhwyster. Darllenwch fwy am gyllido ôl-raddedig yng Nghymru.

Os ydych chi’n ystyried astudio gradd israddedig gyda ni, mae cymorth ariannol ar gael i chi hefyd. Dysgwch fwy am gymorth ariannol israddedig yng Nghymru.

Siaradwch am eich opsiynau gydag un o’n cynghorwyr

Cysylltwch â ni

Darganfyddwch fwy amdanom ni a’n cyrsiau

Gofynnwch am brosbectws

Darganfyddwch fwy am astudio gyda’r Brifysgol Agored

Beth alla i astudio?

Mae gennym gyrsiau ôl-raddedig mewn hanes celf, peirianneg, mathemateg a mwy. Rydych yn sicr o ddod o hyd i un sy’n berffaith i chi yn y Brifysgol Agored.

Beth allaf i ei ddisgwyl?

Dysgwch fwy ynglŷn â’n haddysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, ein ffordd hyblyg o astudio a’r cymorth byddwch yn ei dderbyn drwy gydol eich cwrs ôl-raddedig.

Dysgu mwy am ein gwaith yng Nghymru

Fel darparwr dysgu o bell, mae gweithio mewn partneriaeth yn ein galluogi i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl a allai elwa o astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, cyflogwyr, undebau llafur, ysgolion a cholegau a phartneriaid eraill i sicrhau bod addysg uwch yn hygyrch i bawb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.