You are here

  1. Home
  2. Rhaglenni yng Nghymru

Rhaglenni yng Nghymru

MEITHRIN EICH DONIAU GYDA’R GORAU

Nid yw prentisiaethau’n golygu eich bod yn peryglu’ch buddsoddiad nac yn cyfaddawdu ansawdd. Mae hyn yn eithriadol o wir am brentisiaethau sy’n cael eu darparu gan y brifysgol flaenllaw mewn dysgu sy’n cael ei hwyluso gan dechnoleg a’i chefnogi gan diwtoriaid.

Pa un ai eich bod eisiau hyfforddi cyflogeion newydd neu gyfredol, rydym yn cynnig y Brentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol i sefydliadau preifat, cyhoeddus ac yn y trydydd sector - rydym hefyd wrthi’n datblygu mwy.

Drwy’r Brifysgol Agored yng Nghymru, gallwch elwa o:

  • Raddfa - Rydym yn darparu’n fyd-eang ac yn gwasanaethu’n lleol. Bydd eich prentisiaid yn cael profiad dysgu cyson a hyfforddiant ar bob lefel - yn cynnwys mewn lleoliadau gwahanol.
  • Hyblygrwydd a gwerth - Rydym yn hyblyg o ran ein dulliau darparu. Bydd eich prentisiaid yn gallu astudio o amgylch blaenoriaethau’r sefydliad, sy’n golygu na fydd adnoddau gwerthfawr a’r gyllideb gostau’n cael eu gwastraffu.
  • Ansawdd ac arbenigedd - Mae gennym hanes da rhyngwladol heb ei ail am ragoriaeth addysgiadol, ac mae gennym diwtoriaid sy’n dal i weithio’n llwyddiannus o fewn eu diwydiannau. Bydd eich prentisiaid yn dysgu wrth weithio yng nghwmni arbenigwyr ymarferol, ac yn defnyddio eu sgiliau yn y gweithle’n syth.

Gallwn gael gwared ar y strach sydd ynghlwm â rheoli prentisiaeth gyda’n pecyn datrys cyflawn, o ddod o hyd i ddoniau a chynlluniau datblygu i weinyddiaeth allanol, ariannu a llunio adroddiadau ROI.


RHAGLEN AR GAEL YNG NGHYMRU

Two man shaking hands

Prentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol

Mae rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol y Brifysgol Agored yng Nghymru (OUiW) yn darparu‘r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion ymddygiadol y mae prentisiaid eu hangen i fod yn weithiwyr peirianneg feddalwedd proffesiynol.


RHAGLENNI SYDD AR GAEL MEWN GWLEDYDD ERAILL

English | Cymraeg

Dysgwch fwy ynghylch sut allwn helpu eich sefydliad

Cofiwch gysylltu â ni er mwyn siarad ag un o ymgynghorwyr ein tîm busnes.

Cysylltwch

Not on our mailing list?

Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.

Sign up to our emails