Lleoedd am ddim ar gyrsiau byr

Gyda chymorth gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd wedi’u hariannu’n llwyr (am ddim) ar ein cyrsiau microgymwysterau poblogaidd.

Cyrsiau datblygiad proffesiynol byr yw microgymwysterau, a’u bwriad yw eich helpu i feithrin sgiliau newydd yn gyflym er mwyn symud eich gyrfa i’r lefel nesaf. Caiff nifer ohonynt eu hardystio gan bartneriaid arweiniol yn y byd diwydiant, a gallwch astudio ar-lein am 10–13 awr yr wythnos am gyfnod o 10–12 wythnos ochr yn ochr â’ch gwaith neu eich ymrwymiadau bywyd.

Pwy sy’n gymwys a sut i ymgeisio

Gallwch ymgeisio am le ar ficrogymhwyster trwy lawrlwytho ein ffurflen gais. Dim ond trwy ddefnyddio’r dudalen hon y gallwn wneud cais am le wedi’i ariannu. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych yn bodloni pob un o’r meini prawf canlynol:

  • os ydych yn hanu o Gymru
  • os ydych yn gymwys i dalu y ffioedd Cymru am eich astudiaeth gyda’r Brifysgol Agored (mae hyn yn golygu rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig neu mae gennych statws preswylydd sefydlog, roeddech yn byw yng Nghymru ar y 1af o Fedi 2023 a rydych wedi bod yn byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs. Cewch rhagor o wybodaeth ar ein tudalen rheolau ffioedd)
  • os ydych yn 18+ oed
  • os nad ydych mewn addysg bellach neu addysg uwch pan fydd eich cwrs wedi’i ariannu yn dechrau
  • os oes gennych incwm personol o £30,000 neu lai, neu os ydych yn cael budd-daliadau cymwys.
Gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r myfyrwyr canlynol:

  • myfyrwyr sy’n ofalwyr, 
  • myfyrwyr sydd wedi gadael gofal neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • myfyrwyr ag anabledd
  • myfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol
  • myfyrwyr sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches
  • adnabod fel LHDTC+
Y dyddiad cau terfynol ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 23:59 dydd lau 5 Hydref 2023.

Beth yw microgymwysterau?

Wedi eu cyflwyno ar blatfform ein partner dysgu cymdeithasol, FutureLearn, mae microgymwysterau yn eich galluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol er mwyn eich helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa. A hwythau wedi cael eu creu gan academyddion o safon fyd-eang yn y Brifysgol Agored, mae microgymwysterau’n cynnig cydbwysedd perffaith rhwng rhagoriaeth academaidd a pherthnasedd â’r gweithle.

O fewn cyn lleied â 10–12 wythnos, bydd modd ichi ennill y canlynol:

  • yr wybodaeth ddiweddaraf mewn pwnc arbenigol
  • sgiliau ymarferol y gallwch eu defnyddio’n syth yn eich gwaith, neu i roi hwb i’ch CV
  • credyd i israddedigion y gallwch ei ddefnyddio tuag at eich astudiaethau yn y dyfodol.

Gyda microgymwysterau, byddwch yn astudio’n gyfan gwbl ar-lein trwy ddefnyddio cyfuniad o ddeunyddiau dysgu yn cynnwys fideos, cwisiau a gweithgareddau sy’n anelu at feithrin eich gwybodaeth broffesiynol arbenigol.

Beth allwch chi ei astudio?

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf mynediad, gallwch wneud cais am le wedi’i ariannu’n llwyr (am ddim) ar un o’r cyrsiau microgymwysterau isod.

Mae ein microgymwysterau yn cael eu cynnal dros 10–12 wythnos a bydd angen ichi astudio oddeutu 10–13 awr yr wythnos. Mae cwrs ar lefel 4 yn gyfatebol i astudio yn y flwyddyn gyntaf y brifysgol. Mae lefel 5 yn gyfatebol i astudio yn yr ail flwyddyn a lefel 6 yn gyfatebol i astudio yn y trydedd neu flwyddyn olaf y brifysgol.

Efallai y bydd rhai cyrsiau microgymwysterau yn gofyn am wybodaeth neu brofiad blaenorol.  Darllenwch yr adran Gofynion ar dudalennau cyrsiau FutureLearn i gael rhagor o wybodaeth.

AWS: Sylfeini Dysgu Peirianyddol (TZFM261)

Dysgu peirianyddol yw un o’r meysydd sy’n datblygu gyflymaf ac yn esblygu fwyaf yn y byd technoleg heddiw. Mae’n fwyfwy pwysig i fusnesau ac yn ein bywydau beunyddiol, gan greu galw enfawr am weithwyr proffesiynol medrus. Ar y microgymhwyster hwn, byddwch yn dysgu hanfodion dysgu peirianyddol er mwyn eich helpu i ddilyn y twf hwn, uwchsgilio a helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 5 y Fframwaith Addysg Uwch

AWS: Pensaer Atebion (TZFM361)

Mae llunio atebion cwmwl sydd ar gael, sy’n gost-effeithlon, sy’n oddefgar o ddiffygion ac a all dyfu yn unol â’r anghenion, yn sgìl gwerthfawr y mae cryn alw amdano. Ar y microgymhwyster hwn, byddwch yn dysgu arferion gorau a strategaethau er mwyn arwain y gwaith o weithredu gwasanaethau cwmwl ar dechnolegau Gwasanaethau Gwe Amazon (AWS). Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i baratoi ar gyfer un o’r ardystiadau TG uchaf ei gyflog, sef Cysylltai Pensaer Atebion Ardystiedig AWS.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023 
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Rheoli Busnes: Cyfrifyddu Ariannol ar gyfer Rolau Anariannol (BZFM306)

Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol anariannol. Bydd yn rhoi ichi hyder i ddadansoddi gwybodaeth ariannol a deall termau cyfrifyddu yn effeithiol. Byddwch yn dysgu sut i ddehongli data ariannol cwmnïau cyfyngedig, gan eich grymuso i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch a fydd busnesau’n gwsmeriaid dibynadwy, yn gyflenwyr cyson, yn gyflogwyr cyfrifol, neu’n fuddsoddiad doeth.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Rheoli Busnes: Hanfodion Cyfrifyddu Rheoli (BZFM305)

Beth am ddysgu sgiliau ar gyfer dehongli gwybodaeth, cyfrifo costau, paratoi cyllideb at ddibenion cynllunio a rheoli, a gwerthuso dulliau pennu costau er mwyn gwneud penderfyniadau ariannol. Mae’r cwrs hwn ar gyfer arbenigwyr anariannol. Byddwch yn magu hyder o ran deall a defnyddio termau cyfrifyddu rheoli. Byddwch yn astudio problemau busnes hollbwysig o blith amrywiaeth eang o sectorau a chyd-destunau er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer heriau a allai ddod i’ch rhan.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Rheoli Busnes: Gwella Arferion Sefydliadol (BZFM302) 

Mae a wnelo arferion sefydliadol ag archwilio’r modd y mae strwythurau a diwylliant cwmnïau yn siapio gweithredoedd ac ymddygiad y gweithlu. Ar y microgymhwyster hwn, byddwch yn dysgu sut i ddod yn rheolwr a all wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd er mwyn grymuso eich gweithlu ac esgor ar fanteision i’r amgylchedd ehangach. Byddwch yn cyflawni hyn trwy archwilio gwahanol strwythurau sefydliadol a dysgu sut i addasu i newid.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Rheoli Busnes: Egwyddorion ac Arferion Marchnata (BZFM301)

Bydd y microgymhwyster hwn yn eich cyflwyno i egwyddorion craidd y byd marchnata. Byddwch yn ymdrin â safbwyntiau digidol a safbwyntiau heb fod yn ddigidol, a bydd y rhain yn llywio eich penderfyniadau proffesiynol, yn gwella eich effeithiolrwydd ac yn addasu eich dull o ddatrys heriau busnes. Gan ddefnyddio enghreifftiau marchnata ymarferol, byddwch yn adeiladu ‘pecyn cymorth’ ar gyfer creu cynhyrchion a gwasanaethau a fydd yn diwallu anghenion eich cwsmeriaid ac a fydd yn gwahaniaethu rhwng eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau chi a chynhyrchion a gwasanaethau eich cystadleuwyr.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Rheoli Busnes: Rheoli ac Arwain Pobl (BZFM303)

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu sefydliadau o bob math a maint trwy’r byd, mae sgiliau da o ran rheoli pobl yn hanfodol. Bydd y microgymhwyster hwn yn eich cyflwyno i fframweithiau a syniadau a fydd yn eich helpu i ddod yn rheolwr ac yn arweinydd pobl moesegol a chynhwysol. Byddwch yn dysgu’r dulliau a’r technegau hollbwysig sy’n angenrheidiol i addasu ac ymateb i anghenion newidiol eich sefydliad, a chamu ymlaen yn eich gyrfa.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Rheoli Busnes: Rheoli Prosiectau (BZFM304)

Mae sgiliau rheoli prosiectau yn fwyfwy pwysig erbyn hyn ar draws pob sector. Gall y gallu i gyflwyno prosiect yn effeithiol eich gosod ar wahân i’ch cyfoedion a’ch helpu i sefyll allan yn eich sefydliad. Bydd y microgymhwyster hwn yn eich cyflwyno i’r egwyddorion craidd, y dulliau a’r technegau sy’n angenrheidiol i gyfrannu at/arwain prosiectau a all ychwanegu gwerth ac esgor ar ganlyniadau cadarnhaol.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Cisco: CCNA – Cyflwyniad i Rwydweithiau (TZFM162)

Systemau rhwydweithiol yw asgwrn cefn systemau gwybodaeth modern. Wrth i rwydweithiau ehangu, ehangu hefyd y mae’r galw am bobl sy’n meddu ar arbenigedd rhwydweithio seilwaith mewn meysydd fel cyfrifiadura, technolegau digidol a pheirianneg seilwaith. Ar y microgymhwyster hwn gan Cisco a'r Brifysgol Agored, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer ardystiad Cysylltai Rhwydwaith Ardystiedig Cisco, gan feithrin eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y maes rhwydweithio seilwaith.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 4 y Fframwaith Addysg Uwch

Cisco: DevOps trwy ddefnyddio DevNet (TZFM362)

Mae cyfrifiadura cwmwl, rhyngrwyd y pethau, seiberddiogelwch a rhwydweithio seilwaith yn mynd yn fwyfwy cymhleth. Mae codio a pheirianneg rhwydwaith wedi cydgyfeirio i gynnig llwybr lle gall ‘codyddion’ neu ‘beirianwyr rhwydwaith’ ddatblygu sgiliau sy’n canolbwyntio ar DevOps. O fewn y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn ymwneud â’r diwydiant trwy ddefnyddio Python i godio amrywiaeth o fformatau data, trwy ddefnyddio codau, y fethodoleg DevOps ac amryfal ficrowasanaethau sy’n gweithredu cymwysiadau.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Cisco: Rhaglennu Python (OpenEDG) (TZFM163)

Ydych chi’n barod i uwchsgilio a dysgu un o’r ieithoedd rhaglennu cyflymaf ei thwf, y mae galw eithriadol amdani? Mae Python yn iaith raglennu boblogaidd a ddefnyddir ar gyfer popeth – megis datblygu gwefannau a meddalwedd a defnydd gwyddonol ar draws pob sector a diwydiant. Ar y microgymhwyster hwn, byddwch yn cael dealltwriaeth dda o iaith raglennu Python, yn ogystal â phrofiad a sgiliau ymarferol.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 4 y Fframwaith Addysg Uwch

Newid Hinsawdd: Trawsnewid eich Sefydliad eu budd Cynaliadwyedd (TZFM320)

Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas. Mae’n effeithio ar bob un ohonom – a gall sefydliadau o bob math chwarae rôl hollbwysig o ran pontio tuag at gymdeithas gynaliadwy. Bydd y microgymhwyster hwn yn rhoi ichi’r wybodaeth, y sgiliau a’r dewrder i drawsnewid ymateb eich sefydliad i’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, ni waeth be fo eich lefel, eich rôl na’ch sector, a ble bynnag y’ch lleolir yn y byd. Os ydych eisiau cyflwyno newidiadau cadarnhaol yn eich sefydliad ond os nad ydych yn siŵr sut i fynd ati, neu os ydych yn awyddus i fwrw ymlaen â gyrfa yn y maes cynaliadwyedd neu ychwanegu gwybodaeth ymarferol arbennig am gynaliadwyedd at eich set sgiliau, bydd y microgymhwyster hwn yn rhoi ichi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i wneud hynny.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 6 y Fframwaith Addysg Uwch

Ffotograffiaeth Ddigidol: Darganfod eich Genre a Datblygu eich Arddull (TZFM201)

Crëwyd y microgymhwyster hwn ar y cyd â’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol. Byddwch yn archwilio sawl genre gwahanol ac yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a thechnegau ar gyfer bod yn ffotograffydd bwriadol. Anelir y cwrs at rai a chanddynt ddealltwriaeth gadarn, ddamcaniaethol ac ymarferol o’r hanfodion. Byddwch yn darganfod sut i ymchwilio a gweithio’n ôl briff ffotograffig a sut i greu datganiad o fwriad. Byddwch yn gweithio ar y cyd â’ch cyd-ddysgwyr, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth ar sail adborth cymheiriad i gymheiriad.

Lefel: Israddedig
Dyddiad dechrau: 23 Hydref 2023
Hyd yr astudiaeth: 10 wythnos (oddeutu 10 awr o astudio bob wythnos)
Ar ôl ei gwblhau: Byddwch yn ennill 10 credyd ar Lefel 5 y Fframwaith Addysg Uwch

Rhagor o wybodaeth

Gallwch anfon e-bost atom i gael rhagor o fanylion am ein microgymwysterau neu’r broses ymgeisio.
 

Business Management: Marketing Principles and Practice

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Digital Photography: Discover your genre and develop your style

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Developing Educational Leadership in Practice

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Mentoring and Coaching in Professional Learning

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Rheoli Busnes: Cyfrifyddu Ariannol ar gyfer Rolau Anariannol

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Management of Change: Organisation Development and Design

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Business Management: Improving Organisational Practice

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Cisco: CCNA - Introduction to Networks

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Cisco: Python Programming (OpenEDG)

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Cisco: DevOps using DevNet

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

AWS: Pensaer Atebion

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

AWS: Sylfeini Dysgu Peirianyddol

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Rheoli Busnes: Hanfodion Cyfrifyddu Rheoli

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Management of Uncertainty: Leadership, Decisions and Action

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Global Development in Practice: Designing an Intervention

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Online Teaching: Creating courses for Adult Learners

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Online Teaching: Evaluating and Improving Courses

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Teacher Development: Embedding Mental Health in the Curriculum

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Online Teaching: Accessibility and Inclusive Learning

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Online Teaching: Embedding Social, Race and Gender-Related Equity

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Digital Photography: Creating a Professional Portfolio

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Tackling the Climate Crisis: Innovation from Cuba

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Agile Management and Leadership

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Cyber Security Operations (Cisco)

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Business Management: Marketing Principles and Practice

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Business Management: People Management and Leadership

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Business Management: Project Management

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Climate Change: Transforming your Organisation for Sustainability

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Mentoring and Coaching in Professional Learning

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn

Mental Health: Working with Children and Young People

This course is delivered on our partner platform, FutureLearn.

View this course on FutureLearn