You are here

  1. Home
  2. Gweinidogion Cymru i ymuno â dadl y Brifysgol Agored ar gynllun peilot costau byw newydd

Gweinidogion Cymru i ymuno â dadl y Brifysgol Agored ar gynllun peilot costau byw newydd

Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt

Bydd dau wleidydd proffil uchel o Gymru yn rhannu barn mewn dadl Economeg y Brifysgol Agored, am gynllun newydd i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw.

Bydd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt yn ymuno â seminar Economeg y Brifysgol Agored, y mis nesaf, i drafod rhinweddau cynllun peilot incwm sylfaenol Cymru, cynllun a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o gyfres seminar Economeg y Brifysgol Agored, bydd y digwyddiad hwn yn gweld Gweinidogion yn trafod y cynllun peilot newydd, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf eleni ar gyfer pobl sy'n gadael gofal wrth iddynt symud i fywyd fel oedolyn.

Nod y peilot yw cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i fyw 'bywydau iach, hapus a boddhaus' a bydd yn gweld tua 500 o bobl yn derbyn £1,600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd .

Bydd y seminar, ddydd Iau 15 Rhagfyr, nid yn unig yn egluro mecaneg y cynllun ond hefyd ei werth posibl i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn yr argyfwng costau byw.

Bydd y seminar yn “dwyn yn fyw” agweddau ar y modiwl y mae myfyrwyr yn ei astudio.

Rajiv Prabhakar, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid Personol, fydd yn cadeirio’r digwyddiad. Dywedodd: “Mae'n gyffrous iawn bod Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi cytuno i siarad yn y seminar Economeg hwn gan y Brifysgol Agored.

“Mae hyn yn arbennig o gyffrous gan ei fod yn dod â phethau y mae myfyrwyr y Brifysgol Agored yn dysgu amdanynt yn uniongyrchol yn y cwricwlwm Economeg yn fyw. Rwyf yn gyd-gadeirydd modiwl Lefel 1 DB125 'Chi a'ch Arian', sy'n rhan greiddiol o'r R30 BA Economeg. Ysgrifennais bennod olaf gwerslyfr y modiwl Personal Finance ac mae'r bennod hon yn trafod incwm sylfaenol cyffredinol - polisi o ddarparu incwm rheolaidd i ddinasyddion y gallant ei ddefnyddio fel y mynnant. Bydd y seminar yn rhoi cyfle i fyfyrwyr glywed am enghraifft yn y byd go iawn o'r pethau y maent yn eu hastudio yn eu cwricwlwm.

“Mae’r Brifysgol Agored yn unigryw o ystyried ei phresenoldeb ar draws y pedair gwlad. Mae’n wych cael dau o Weinidogion Cymru yn siarad am gynllun peilot polisi Cymru ac felly mae’n uniongyrchol berthnasol i Brifysgol Agored Cymru.”

Bydd y peilot yn ychwanegu at ddadleuon am “incwm sylfaenol cyffredinol”. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn hen syniad a gellir ei olrhain yn ôl at waith fel Utopia gan Thomas More a gyhoeddwyd tua 500 mlynedd yn ôl.

Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn gysyniad a fyddai, ar y pryd, wedi rhoi taliad incwm rheolaidd i holl ddinasyddion cymuned a byddai pobl yn rhydd i ddefnyddio hwn fel y mynnant.

Mae yna lenyddiaeth helaeth am incwm sylfaenol a llawer o fersiynau gwahanol o gynllun o'r fath.

Nid yw cynllun peilot Llywodraeth Cymru yn incwm sylfaenol cyffredinol pur, ond serch hynny mae’n rhannu gorgyffyrddiad pwysig gan ei fod yn rhoi taliad incwm rheolaidd i dderbynwyr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein ac mae'n rhad ac am ddim. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar Eventbrite . Dysgwch fwy am astudio Economeg yn y Brifysgol Agored a chofrestrwch ar gyfer digwyddiadau eraill yn y gyfres seminar Economeg 

Request your prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus