Mae grantiau cynnal o hyd at £4,500
1 ar gael. Nid benthyciad fydd yr arian y byddwch yn ei dderbyn – ni fydd rhaid ichi ei ad-dalu.
Mae’r swm y byddwch yn ei dderbyn yn seiliedig ar incwm y cartref, ac ar faint o gredydau yr ydych yn bwriadu eu hastudio yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, os yw incwm y cartref yn £25,000 neu is ac rydych yn bwriadu astudio 90 credyd neu fwy yn ystod y flwyddyn gallwch dderbyn £4,500
1.
Gallwch hefyd wneud cais am fenthyciad ychwanegol (y byddai angen i chi ei dalu’n ôl), o hyd at £6,079. Yr uchafswm cymorth cynnal a chadw cyfunol sydd ar gael ar draws grantiau a benthyciadau yw £6,829 y flwyddyn.
Gallwch ddarganfod mwy am gyfrifo eich hawl yma.
Gyda benthyciadau ffioedd dysgu ar gael hefyd i dalu cost eich cwrs, mae cymhwyster gan y Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy nag ydych yn meddwl. Dysgwch ragor am
ffioedd a chyllido ar gyfer astudio gyda’r OU.
Mae cyllid ychwanegol ar gael i
fyfyrwyr â dibynyddion.
Mae hefyd cymorth ariannol ar gael os ydych eisiau astudio ar gyfer cymhwyster ôl-radd gyda ni. Dysgwch fwy am gymorth
ariannol ôl-radd yng Nghymru.
1Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.