You are here

  1. Home
  2. Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn datblygu partneriaeth newydd â Choleg Cymreig

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn datblygu partneriaeth newydd â Choleg Cymreig

Campws Tygoch Coleg Coleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi cytundeb partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a fydd yn gweld amrywiaeth ehangach o gyfleoedd dysgu o bell a hyblyg yn cael eu cynnig i ddysgwyr lefel uwch ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

Bydd y bartneriaeth yn ymdrin â phedair prif elfen - datblygu prentisiaethau gradd newydd a rhaglenni lefel prifysgol, treialu llwybr dilyniant AU ar gyfer myfyrwyr mynediad a gradd sylfaen, ac uwchsgilio gweithwyr.

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe Ganolfan Brifysgol bwrpasol ar Gampws Tycoch ac nawr bydd yn ceisio ehangu ei ystod o gyrsiau addysg uwch, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys graddau sylfaen ac israddedig, trwy ddefnyddio adnoddau ar-lein y Brifysgol Agored.

Yn y cyfamser byddai gan staff y Coleg yr opsiwn i ddefnyddio platfform OpenLearn y Brifysgol Agored i gynorthwyo eu datblygiad proffesiynol. Mae OpenLearn yn cynnwys platfform o gyrsiau am ddim y byddai’r Brifysgol Agored yn gallu eu haddasu i fodloni unrhyw fylchau sgiliau a nodwyd.

Rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch y posibiliadau y bydd y cydweithrediad hwn yn eu cynnig i’n myfyrwyr a’n staff. Oherwydd y digwyddiadau byd-eang presennol, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n datblygu ein darpariaeth o gyfleoedd dysgu o bell ac mae cysylltu â’r Brifysgol Agored yng Nghymru fel hyn yn gam positif iawn ymlaen.

Nick Brazil
Dirprwy Bennaeth, Coleg Gŵyr Abertawe

'Am dros 50 mlynedd, mae’r Brifysgol Agored wedi bod yn dod â dysgu i gartrefi pobl ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi dod yn brifysgol leol i bawb,” meddai Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.

'Rydyn ni yma i agor dysgu i fwy a mwy o bobl sydd efallai yn chwilio am ffyrdd mwy hyblyg o ddatblygu eu sgiliau - dyna pam mae ein perthynas â cholegau a’u staff a’u myfyrwyr mor bwysig. Bydd y bartneriaeth newydd hon yn rhoi cyfle i ni weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe mewn ardal yng Nghymru sy’n llawn potensial ac i helpu pobl i ennill cymhwyster prifysgol a gwireddu eu huchelgeisiau mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw'.

Request your prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus