Byw yng Nghymru? Mae grantiau cynnal o hyd at £4,5001 ar gael. Nid benthyciad fydd yr arian y byddwch yn ei dderbyn – ni fydd rhaid ichi ei ad-dalu.
Mae’r swm y byddwch yn ei dderbyn yn seiliedig ar incwm y cartref, ac ar faint o gredydau yr ydych yn bwriadu eu hastudio yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, os yw incwm y cartref yn £25,000 neu is ac rydych yn bwriadu astudio 90 credyd neu fwy yn ystod y flwyddyn gallwch dderbyn £4,5001.
Gallwch hefyd wneud cais am fenthyciad ychwanegol (y byddai angen i chi ei dalu’n ôl), o hyd at £6,079. Yr uchafswm cymorth cynnal a chadw cyfunol sydd ar gael ar draws grantiau a benthyciadau yw £6,829 y flwyddyn1. Gallwch ddarganfod mwy am gyfrifo eich hawl yma.
I fod yn gymwys am gymorth ariannol, mae’n rhaid i chi:
Am ragor o wybodaeth am gymhwysedd, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gan fod holl fyfyrwyr y Brifysgol Agored yn cael eu hystyried yn rhan-amser, hyd yn oed os ydych yn ystyried astudio 120 credid y flwyddyn (sy’n cyfateb i lwyth astudio llawn-amser), rydych yn dal i wneud cais am cymorth ariannol myfyrwyr rhan-amser.
Gyda benthyciadau ffioedd dysgu ar gael hefyd i dalu cost eich cwrs, mae cymhwyster gan y Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy nag ydych yn meddwl. Dysgwch ragor am ffioedd a chyllido ar gyfer astudio gyda’r OU.
Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr â dibynyddion.
Mae hefyd cymorth ariannol ar gael os ydych eisiau astudio ar gyfer cymhwyster ôl-radd gyda ni. Dysgwch fwy am gymorth ariannol ôl-radd yng Nghymru.
1Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.
Gofynnwch am eich prosbectws
Fel darparwr dysgu ar-lein, mae gweithio mewn partneriaeth yn ein galluogi i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl a allai elwa o astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Dysgwch fwy am sut yr ydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, cyflogwyr, undebau llafur, ysgolion a cholegau a phartneriaid eraill i sicrhau bod addysg uwch yn hygyrch i bawb.