Mae llwyddiant yn fforddiadwy

Fe allech chi dderbyn cyllid o hyd at £4,5001 tuag at gostau byw ar ein cyrsiau rhan-amser.

Golyga hynny fwy o gymorth i chi tra eich bod yn gweithio’n galed er mwyn eich dyfodol.

Gofynnwch am brosbectws

Cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru

Mae grantiau cynnal o hyd at £4,5001 ar gael nawr. Nid benthyciad fydd yr arian y byddwch yn ei dderbyn – ni fydd rhaid ichi ei ad-dalu.

Mae’r swm y byddwch yn ei dderbyn yn seiliedig ar incwm y cartref, ac ar faint o gredydau yr ydych yn bwriadu eu hastudio yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, os yw incwm y cartref yn £25,000 neu is ac rydych yn bwriadu astudio 90 credyd neu fwy yn ystod y flwyddyn gallwch dderbyn £4,5001.

Gallwch hefyd wneud cais am fenthyciad ychwanegol, o hyd at £5,974. Gallwch ddarganfod mwy am gyfrifo eich hawl yma.

Gyda benthyciadau ffioedd dysgu ar gael hefyd i dalu cost eich cwrs, mae cymhwyster gan y Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy nag ydych yn meddwl. Dysgwch ragor am ffioedd a chyllido ar gyfer astudio gyda’r OU.

Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr â dibynyddion

Mae hefyd cymorth ariannol newydd ar gael os ydych eisiau astudio ar gyfer cymhwyster ôl-radd gyda ni. Dysgwch fwy am gymorth ariannol ôl-radd yng Nghymru.

1Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.

Siaradwch am eich opsiynau gydag un o’n cynghorwyr

Cysylltwch â ni

Darganfyddwch fwy amdanom ni a’n cyrsiau

Gofynnwch am eich prosbectws

Darganfyddwch fwy am astudio gyda’r Brifysgol Agored

Dysgu mwy am ein gwaith yng Nghymru

Fel darparwr dysgu o bell, mae gweithio mewn partneriaeth yn ein galluogi i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl a allai elwa o astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Dysgwch fwy am sut yr ydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, cyflogwyr, undebau llafur, ysgolion a cholegau a phartneriaid eraill i sicrhau bod addysg uwch yn hygyrch i bawb.