Canllaw Cyflym i Gyfeirnodi Harvard (Cite Them Right)

Mae fersiynau gwahanol o ganllaw cyfeirnodi Harvard ar gael. Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad byr i'r fersiwn fwyaf cyffredin o Cite Them Right a ddefnyddir. Mae rhagor o arweiniad ar gael drwy Lyfrgell Y Brifysgol Agored ar gronfa ddata Cite Them Right.

Er mwyn cael cymorth gyda chyfeirnodi a chanllaw llawn Cite Them Right, edrychwch ar dudalen y Llyfrgell ar gyfeirnodi a llên-ladrad. Os bydd angen arweiniad arnoch ynglŷn â chyfeirnodi deunydd modiwlau'r Brifysgol Agored, gallwch edrych ar ba adrannau o Cite Them Right a argymhellir wrth
gyfeirnodi deunydd modiwl ffisegol ac ar-lein
.

Nid yw'r canllaw hwn yn gymwys i fyfyrwyr israddedig Y Brifysgol Agored sy'n astudio'r Gyfraith. Os ydych yn astudio modiwl sy'n dechrau ag W1xx, W2xx or W3xx, dylech gyfeirio at y Canllaw cyflym ar gyfeirnodi Cite Them Right ar gyfer modiwlau'r Gyfraith.

Tabl cynnwys

  1. Cyfeiriadau yng nghanol y testun a chyfeiriadau llawn
  2. Cyfeirnodi eilaidd
  3. Rhifau tudalennau
  4. Cyfeirio at ffynonellau a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn gan yr un awdur
  5. Enghreifftiau o gyfeiriadau llawn

Cyfeiriadau yng nghanol y testun a chyfeiriadau llawn

Mae cyfeirnodi yn cynnwys dwy elfen:

  • cyfeiriadau yng nghanol y testun, a fewnosodir yng nghorff eich testun ac a gynhwysir yn nifer y geiriau. Mae cyfeiriad yng nghanol y testun yn rhoi awdur(on) a dyddiad cyhoeddi ffynhonnell rydych yn cyfeirio ati. Os na roddir y dyddiad cyhoeddi, defnyddir yr ymadrodd 'dim dyddiad' yn lle dyddiad. Os ydych yn defnyddio dyfyniadau uniongyrchol neu os ydych yn cyfeirio at adran benodol yn y ffynhonnell, bydd angen i chi hefyd nodi rhif y dudalen/rhifau'r tudalennau os yw'r rhain ar gael, neu rif y paragraff ar gyfer tudalennau gwe.
  • cyfeiriadau llawn, a roddir yn nhrefn y wyddor mewn rhestr cyfeiriadau ar ddiwedd eich gwaith ac nad ydynt wedi'u cynnwys yn nifer y geiriau. Mae cyfeiriadau llawn yn rhoi gwybodaeth lyfryddiaethol am yr holl ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun.

Er mwyn gweld rhestr cyfeiriadau a chyfeiriadau yng nghanol y testun edrychwch ar yr aseiniad enghreifftiol hwn yn Cite Them Right.

Y gwahaniaeth rhwng rhestr cyfeiriadau a llyfryddiaeth

  • dim ond ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun y mae rhestr cyfeiriadau yn eu cynnwys

  • mae llyfryddiaeth yn cynnwys ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun A ffynonellau a fu'n rhan o'ch darllen cefndir nas defnyddiwyd yn eich asesiad.

Yn ôl i'r brig

Enghreifftiau o gyfeiriadau yng nghanol y testun

Mae angen i chi gynnwys cyfeiriad yng nghanol y testun lle bynnag rydych yn dyfynnu neu'n aralleirio ffynhonnell. Mae cyfeiriad yng nghanol y testun yn cynnwys enw olaf yr awdur(on), y flwyddyn gyhoeddi, a rhif tudalen os yw'n berthnasol. Mae sawl ffordd o ymgorffori cyfeiriadau yng nghanol y testun yn eich gwaith – ceir rhai enghreifftiau isod. Fel arall, gallwch weld enghreifftiau o nodi cyfeiriadau yng nghanol y testun yn Cite Them Right.

Un awdur Dau awdur Tri awdur Pedwar neu fwy o awduron

Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Harris, 2015).

NEU

Pwysleisiwyd gan Harris (2015) bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.

Pwysleisiwyd (gan Shah a Papadopoulos, 2015) bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.

NEU

Pwysleisiodd Shah a Papadopoulos (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.

Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Wong, Smith ac Adebole, 2015).

NEU

Pwysleisiodd Wong, Smith ac Adebole (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.

Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Wong et al., 2015).

NEU

Pwysleisiodd Wong et al. (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.

Noder: Wrth gyfeirio at bennod mewn llyfr golygedig, dylai eich cyfeiriad yng nghanol y testun nodi awdur(on) y bennod.

Awdur corfforaethol Pan nad oes awdur a enwyd, defnyddiwch deitl yr adnodd mewn print italig.

Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Y Brifysgol Agored, 2015).

Mae gwybodaeth gan Y Brifysgol Agored (2015) yn pwysleisio bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.


Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Information Literacy in Higher Education, 2015).

Mae gwybodaeth yn Information Literacy in Higher Education (2015) yn pwysleisio bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig.

Yn ôl i'r brig

Cyfeirnodi eilaidd

Rydych yn defnyddio cyfeirnodi eilaidd os ydych am gyfeirio at ffynhonnell a grybwyllir neu a ddyfynnir yn y gwaith rydych yn ei ddarllen.

Er mwyn gwneud hyn, rydych yn ychwanegu'r ymadrodd ‘dyfynnwyd yn’ neu ‘cyfeiriwyd ato yn’ (yn dibynnu a yw awdur y ffynhonnell eilaidd yn dyfynnu'n uniongyrchol o'r ffynhonnell wreiddiol neu'n ei chrynhoi ) at eich cyfeiriad yng nghanol y testun, ynghyd â manylion y ffynhonnell rydych yn ei darllen.

Enghreifftiau o gyfeirnodi yng nghanol y testun:

West et al. (2007, a ddyfynnwyd yn Birch, 2017, t. 17) yn nodi bod…

modd cadarnhau hunaniaeth gadarnhaol yn rhannol drwy amgylchedd teuluol cefnogol (Leach, 2015, y cyfeiriwyd ato yn Y Brifysgol Agored, 2022).

Yna, byddwch yn cynnwys cyfeiriadau llawn at Birch a'r Brifysgol Agored yn eich rhestr cyfeiriadau gan mai'r rhain yw'r ffynonellau rydych wedi'u darllen. Nid oes unrhyw newid i strwythur y cyfeiriad llawn ar gyfer y ffynonellau hyn.

Yn ôl i'r brig

Rhifau tudalennau

Dylech gynnwys rhifau tudalennau yn eich cyfeiriad os ydych yn dyfynnu'n uniongyrchol o dudalen benodol neu set benodol o dudalennau neu'n defnyddio syniadau o dudalen benodol neu set benodol o dudalennau.

Ychwanegwch y byrfodd t. (neu tt. os oes mwy nag un dudalen) cyn rhif y dudalen/rhifau'r tudalennau.

Enghreifftiau:

Mae Harris (2015, t. 5) yn dadlau…

Yn y broses sychu bod "adweithiau ocsideiddio polyffenol" ffurfio cyfansoddion blas newydd (Toker et al., 2020, pp. 585–586)...

Yn ôl i'r brig

Cyfeirio at ffynonellau a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn gan yr un awdur

Ychwanegwch lythyren fach at y dyddiad yn y cyfeiriad yng nghanol y testun ac yn y cyfeiriad llawn cyfatebol er mwyn gwahaniaethu rhwng y ffynonellau.

Cyfeiriadau yng nghanol y testun: Mae eira yn ymffurfio'n rhannol am fod y tymheredd yn gostwng ddigon nes bod glaw yn rhewi (Y Brifysgol Agored, 2022a), ond mae rhewbwynt dŵr yn aml islaw 0°C o dan amodau penodol (Y Brifysgol Agored, 2022b).

Cyfeiriadau llawn cyfatebol:

Y Brifysgol Agored (2022a) '1.2 What are clouds?'. S111: Questions in science. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1938785&section=3 (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2022).

Y Brifysgol Agored (2022b) '1.3.1 Snow and ice'. S111: Questions in science. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1938785&section=4.1 (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2022).

Noder: mae hyn ond yn gymwys os ydych yn defnyddio sawl ffynhonnell wahanol sydd â'r un awdur a'r un flwyddyn – os ydych yn cyfeirio at yr un ffynhonnell fwy nag unwaith, yna, nid oes angen i chi ychwanegu llythyren at y dyddiad. Bydd y cyfeiriad yr un fath bob tro a dim ond unwaith y bydd angen i chi gynnwys y ffynhonnell yn eich rhestr cyfeiriadau.

Yn ôl i'r brig

Enghreifftiau o gyfeiriadau llawn

Deunyddiau modiwl ar-lein

(Yn cynnwys gweithgareddau modiwl ar-lein ysgrifenedig, deunydd clyweledol megis tiwtorialau, recordiadau neu fideos ar-lein)

Wrth gyfeirio at ddeunydd o wefannau modiwl, y dyddiad cyhoeddi yw'r flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl.

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi/gyflwyno) 'Teitl yr eitem'. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).

NEU, os nad oes awdur a enwyd:

Y Brifysgol Agored (Y flwyddyn gyhoeddi/gyflwyno) 'Teitl yr eitem'. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghreifftiau:

Rietdorf, K. and Bootman, M. (2022) 'Topic 3: Rare diseases'. S290: Investigating human health and disease. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1967195 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2023).

Y Brifysgol Agored (2022) ‘3.1 The purposes of childhood and youth research’. EK313: Issues in research with children and young people. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1949633&section=1.3 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2023).

Gallwch hefyd ddefnyddio'r templed hwn i gyfeirio at fideos a recordiadau sain sy'n cael eu gwe-leyta ar wefan eich modiwl:

Y Brifysgol Agored (2022) ‘Video 2.7 An example of a Frith-Happé animation’. SK298: Brain, mind and mental health. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2013014&section=4.9.6 (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2022).

Y Brifysgol Agored (2022) ‘Audio 2 Interview with Richard Sorabji (Part 2)’. A113: Revolutions. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1960941&section=5.6 (Accessed: 22 Tachwedd 2022).

Noder: os oes erthygl gyflawn o gyfnodolyn wedi cael ei lanlwytho i wefan modiwl, neu os ydych wedi gweld erthygl y cyfeirir ati ar y wefan ac yna wedi cyrchu'r fersiwn wreiddiol, cyfeiriwch at yr erthygl wreiddiol yn y cyfnodolyn, a pheidiwch â chrybwyll deunyddiau'r modiwl. Os mai dim ond darn o erthygl sydd wedi cael ei gynnwys yn neunyddiau eich modiwl rydych am gyfeirio ati, dylech ddefnyddio cyfeirnodi eilaidd, gyda deunyddiau'r modiwl fel y ffynhonnell 'cyfeiriwyd ato yn', fel y'i disgrifir uchod.

Yn ôl i'r brig

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y neges', Teitl y bwrdd trafod, yng nghod y Modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghraifft:

Fitzpatrick, M. (2022) ‘A215 - presentation of TMAs', Tutor group discussion & Workbook activities, yn A215: Creative writing. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/forumng/discuss.php?d=4209566 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2022).

Yn ôl i'r brig

Noder: Pan fydd e-lyfr yn edrych yn debyg i lyfr argraffedig, gyda manylion cyhoeddi, tudalennau, dylid cyfeirnodi fel llyfr argraffedig.

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) Teitl. Argraffiad os yw ar ôl yr argraffiad cyntaf. Lle cyhoeddi: cyhoeddwr. Rhif y gyfres a rhif y gyfrol os ydynt yn berthnasol.

E-lyfrau nad ydynt yn cynnwys manylion cyhoeddi

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) Teitl y llyfr. Ar gael yn: DOI neu URL (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghraifft o un awdur:

Bell, J. (2014) Doing your research project. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored.

Adams, D. (1979) The hitchhiker's guide to the galaxy. Ar gael yn: http://www.amazon.co.uk/kindle-ebooks (Cyrchwyd: 23 Mehefin 2021).

Enghraifft o ddau neu dri awdur:

Goddard, J. a Barrett, S. (2015) The health needs of young people leaving care. Norwich: Prifysgol East Anglia, Ysgol Gwaith Cymdeithasol ac Astudiaethau Seicogymdeithasol.

Enghraifft o bedwar neu fwy o awduron:

Young, H.D., Freedman, R.A., Sandin, T.R., a Ford, A.L. (2015) Sears and Zemansky's university physics. San Francisco, CA: Addison-Wesley.

NEU

Young, H.D. et al. (2015) Sears and Zemansky's university physics. San Francisco, CA: Addison-Wesley.

Noder: Gallwch ddewis y naill ddull neu'r llall wrth gyfeirio at bedwar neu fwy o awduron (oni bai bod eich Ysgol yn gofyn i chi enwi pob awdur yn eich rhestr cyfeiriadau) a dylech fod yn gyson.

Yn ôl i'r brig

Noder: Llyfrau sydd â golygydd, neu olygyddion, lle mae pob pennod wedi'i hysgrifennu gan awdur neu awduron gwahanol.

Cyfenw awdur y bennod, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y bennod neu'r adran', yn Blaenlythyren. Cyfenw golygydd y llyfr (gol.) Teitl y llyfr. Lle cyhoeddi: cyhoeddwr, Cyfeirnod tudalen.

Enghraifft:

Franklin, A.W. (2012) 'Management of the problem', yn S.M. Smith (gol.) The maltreatment of children. Lancaster: MTP, tt. 83–95.

Yn ôl i'r brig

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Cyfnodolyn, rhif y gyfrol (rhifyn), cyfeirnod tudalen.

Os oes erthygl wedi cael ei chyrchu ar-lein:

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl' Teitl y Cyfnodolyn, rhif y gyfrol (rhifyn), cyfeirnod tudalen. Ar gael yn: DOI neu URL (os oes angen) (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghreifftiau:

Shirazi, T. (2010) 'Successful teaching placements in secondary schools: achieving QTS practical handbooks', European Journal of Teacher Education, 33(3), tt. 323–326.

Shirazi, T. (2010) 'Successful teaching placements in secondary schools: achieving QTS practical handbooks', European Journal of Teacher Education, 33(3), tt. 323–326. . Ar gael yn: https://libezproxy.open.ac.uk/login?url=https://search.ebscohost.com/log... (Cyfeiriwyd: 24 Ionawr 2023)

Barke, M. a Mowl, G. (2016) 'Málaga – a failed resort of the early twentieth century?', Journal of Tourism History, 2(3), tt. 187–212. Ar gael yn: https://doi.org/10.1080/1755182X.2010.523145 (Cyfeiriwyd: 24 Ionawr 2023).

Yn ôl i'r brig

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Papur Newydd, Dydd a mis, Rhif y tudalen.

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Papur Newydd, Dydd a mis, Rhif y dudalen os yw ar gael. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghreifftiau:

Mansell, W. a Bloom, A. (2012) ‘£10,000 carrot to tempt physics experts’, The Guardian, 20 Mehefin, t. 5.

Roberts, D. ac Ackerman, S. (2013) 'US draft resolution allows Obama 90 days for military action against Syria', The Guardian, 4 Medi. Ar gael yn: https://www.theguardian.com/world/2013/sep/04/syria-strikes-draft-resolu... (Cyrchwyd: 9 Medi 2015).

Yn ôl i'r brig

Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn y cafodd y wefan ei chyhoeddi/ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).

Trefn (Y flwyddyn y cafodd y dudalen ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghreifftiau:

Robinson, J. (2007) Social variation across the UK. Ar gael yn: https://www.bl.uk/british-accents-and-dialects/articles/social-variation... (Cyrchwyd: 21 Tachwedd 2021).

Cymdeithas Seicolegol Prydain (2018) Code of Ethics and Conduct. Ar gael yn: https://www.bps.org.uk/news-and-policy/bps-code-ethics-and-conduct (Cyrchwyd: 22 Mawrth 2019).

Noder: Mae Cite Them Right Online yn cynnig canllawiau ar gyfeirnodi tudalennau gwe nad ydynt yn cynnwys enwau awduron na dyddiadau. Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus iawn ynglŷn ag addasrwydd tudalennau gwe o'r fath.

Yn ôl i'r brig

Cyfenw, Blaenlythyren. (Blwyddyn) Teitl y ffotograff. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).

Enghraifft:

Kitton, J. (2013) Golden sunset. Ar gael yn: https://www.jameskittophotography.co.uk/photo_8692150.html (Cyrchwyd: 21 Tachwedd 2021).

stanitsa_dance (2021) Cossack dance ensemble. Ar gael yn: https://www.instagram.com/p/COI_slphWJ_/ (Cyrchwyd: 13 Mehefin 2023).

Noder: Os na allwch ddod o hyd i deitl, yna dylid rhoi disgrifiad byr yn ei le.

Yn ôl i'r brig