Using Library Search for your assignment
Monday, 30 January, 2023 - 20:00
Learn how to find specific resources and how to find information on a topic using Library Search.
Your gateway to a wide range of online information resources
Mae gwahanol fersiynau o arddull cyfeirnodi Harvard, ac mae'r canllaw hwn yn cynnig cyflwyniad cyflym i'r fersiwn Cite Them Right a ddefnyddir yn gyffredin. Cewch ragor o ganllawiau ar gronfa ddata Cite Them Right, sydd ar gael drwy Lyfrgell Y Brifysgol Agored.
I gael cymorth a chefnogaeth gyda chyfeirnodi, cymerwch gip ar dudalen y Llyfrgell ar gyfeirnodi a llên-ladrad ( https://www.open.ac.uk/library/help-and-support/referencing-and-plagiarism).
Mae dwy elfen i gyfeirnodi:
· Rhestr gyfeirio: dim ond yn cynnwys ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun;
· Llyfryddiaeth: yn cynnwys ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun A ffynonellau a oedd yn rhan o'ch gwaith darllen cefndirol na wnaethoch eu defnyddio yn eich aseiniad.
Mae sawl ffordd o ymgorffori cyfeiriadau yn y testun yn eich gwaith. Rhoddir enghreifftiau isod:
Un awdur |
Dau awdur |
Tri awdur |
Pedwar awdur neu fwy |
---|---|---|---|
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig (Harris, 2015). NEU Pwysleisiodd Harris (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig (Shah a Papadopoulos, 2015). NEU Pwysleisiodd Shah a Papadopoulos (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig (Wong, Smith ac Adebole, 2015). NEU Pwysleisiodd Wong, Smith ac Adebole (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig (Wong et al., 2015). NEU Pwysleisiodd Wong et al. (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig. |
Noder: Wrth gyfeirio at bennod mewn llyfr golygedig, dylai eich cyfeiriad yn y testun roi enw awdur(on) y bennod
Awdur corfforaethol |
Pan nad oes awdur, defnyddiwch deitl yr adnodd mewn llythrennau italig |
---|---|
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig (Y Brifysgol Agored, 2015) Mae gwybodaeth gan Y Brifysgol Agored (2015) yn pwysleisio bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig (Llythrennedd Gwybodaeth mewn Addysg Uwch, 2015) Mae gwybodaeth o Llythrennedd Gwybodaeth mewn Addysg Uwch (2015) yn pwysleisio bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd pwysig. |
Cyfeirnodi eilaidd |
Rhifau tudalennau |
---|---|
Mae Fernandez (2015, a ddyfynnwyd yn Nabokov, 2017) yn nodi bod… Defnyddiwch ‘a ddyfynnwyd yn’ os byddwch yn dyfynnu'n uniongyrchol, a ‘y cyfeiriwyd ato/ati yn’ os byddwch yn crynhoi o ffynhonnell. Dim ond y ffynhonnell y gwnaethoch ei darllen a roddir yn y cyfeiriad llawn (yn yr achos hwn: Nabokov, 2017). |
Mae Harris (2015, t. 5) yn dadlau bod… Wong et al. (2015, tt. 35-49)… Defnyddiwch rifau tudalennau ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol neu pan fyddwch yn defnyddio syniadau o dudalennau penodol. |
Noder: Wrth gyfeirio at bennod mewn llyfr golygedig, dylai eich cyfeiriad yn y testun roi enw awdur(on) y bennod.
Wrth gyfeirio at ddeunydd o wefannau modiwlau, y dyddiad cyhoeddi yw'r flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl) ‘Teitl yr eitem’. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Cyrchwyd: dyddiad).
NEU, os na chaiff awdur ei enwi:
Y Brifysgol Agored. (Y flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl) ‘Teitl yr eitem’. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Peake, S. a Hearne, R. (2019) ‘Sesiwn 3 Amlygiad’. TG089 Ffotograffiaeth ddigidol: Creu a rhannu delweddau gwell. Ar gael yn: >https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1425928 (Cyrchwyd: 19 Mawrth 2019).
Y Brifysgol Agored. (2017) ‘3.1 Dibenion ymchwil i blentyndod ac ieuenctid’. EK313: Materion o ran ymchwil gyda phlant a phobl ifanc. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1019389§ion=1.3 (Cyrchwyd: 7 Mawrth 2018).
Noder: os bydd erthygl lawn o gyfnodolyn wedi cael ei lanlwytho i wefan modiwl, dylech gyfeirnodi'r erthygl yn y cyfnodolyn gwreiddiol.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl) ‘Teitl y neges’, Teitl y bwrdd trafod, yn Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghraifft:
Thomas, D. (2016) ‘Cyflwyno eich TMA’, Trafodaeth Grŵp Tiwtor, yn A215: Ysgrifennu creadigol. Ar gael yn:https://learn2.open.ac.uk/mod/forumng/discuss.php?d=2239139 (Cyrchwyd: 22 Mawrth 2017)
Noder: Pan fydd eLyfr yn edrych fel llyfr argraffedig, gyda manylion cyhoeddi a thudalennu, dylech gyfeirnodi fel pe bai'n llyfr argraffedig.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Blwyddyn gyhoeddi) Teitl. Argraffiad os yw'n hwyrach na'r cyntaf. Man cyhoeddi: cyhoeddwr. Cyfres a rhif y gyfrol os yw'n berthnasol.
Enghraifft gydag un awdur:
Bell, J. (2014) Doing your research project. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored.
Enghraifft â dau neu dri awdur:
Goddard, J. a Barrett, S. (2015) The health needs of young people leaving care. Norwich: Prifysgol East Anglia, Ysgol Gwaith Cymdeithasol ac Astudiaethau Seicogymdeithasol.
Enghraifft â phedwar awdur neu fwy:
Young, H.D. et al. (2015) Sears and Zemansky's university physics. San Francisco, Calif.: Addison-Wesley.
NEU
Young, H.D., Freedman, R.A., Sandin, T.R., a Ford, A.L. (2015) Sears and Zemansky's university physics. San Francisco, CA: Addison-Wesley.
Noder: Gallwch ddewis y naill ddull neu'r llall i gyfeirnodi pedwar awdur neu fwy – oni bai fod eich Ysgol yn gofyn i chi enwi pob awdur yn eich rhestr gyfeirio – ond byddwch yn gyson.
Noder: Llyfrau sydd â golygydd, neu olygyddion, lle mae pob pennod wedi'i hysgrifennu gan awdur, neu awduron, gwahanol.
Cyfenw awdur y bennod, Blaenlythyren. (Blwyddyn gyhoeddi) ‘Teitl y bennod neu'r adran’, yn Cyfenw golygydd y llyfr, Blaenlythyren. (gol.) Teitl y llyfr. Man cyhoeddi: cyhoeddwr, Rhif y dudalen/tudalennau.
Enghraifft:
Franklin, A.W. (2012) ‘Management of the problem’, yn Smith, S.M. (gol.) The maltreatment of children. Caerhirfyn: MTP, tt. 83–95.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Blwyddyn gyhoeddi) ‘Teitl yr erthygl’, Teitl y cyfnodolyn, rhif y gyfrol (rhif y rhifyn), rhif y dudalen/tudalennau. Doi: rhif doi os yw ar gael NEU Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Shirazi, T. (2010) ‘Successful teaching placements in secondary schools: achieving QTS practical handbooks’, European Journal of Teacher Education, 33(3), tt. 323–326.
Shirazi, T. (2010) ‘Successful teaching placements in secondary schools: achieving QTS practical handbooks’, European Journal of Teacher Education, 33(3), tt. 323–326. doi: 10.1080/02619761003602246.
Barke, M. a Mowl, G. (2016) ‘Málaga – a failed resort of the early twentieth century?’, Journal of Tourism History, 2(3), tt. 187–212. Ar gael yn: http://www.tanfonline.com/full/1755182.2016 (Cyrchwyd: 23 Ebrill 2018).
Cyfenw, Blaenlythyren. (Blwyddyn gyhoeddi) ‘Teitl yr erthygl’, Teitl y Papur Newydd, Diwrnod a mis, Rhif y dudalen/tudalennau.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Blwyddyn gyhoeddi) ‘Teitl yr erthygl’, Teitl y Papur Newydd, Diwrnod a mis, Rhif y dudalen/tudalennau os yw ar gael. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Mansell, W. a Bloom, A. (2012) ‘£10,000 carrot to tempt physics experts’, The Guardian, 20 Mehefin, t. 5.
Roberts, D. ac Ackerman, S. (2013) ‘US draft resolution allows Obama 90 days for military action against Syria’, The Guardian, 4 Medi. Ar gael yn: http://www.theguardian.com/world/2013/sep/04/syria-strikes-draft-resolut... (Cyrchwyd: 9 Medi 2015).
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn y cafodd y wefan ei chyhoeddi/diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Sefydliad (Y flwyddyn y cafodd y dudalen ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Burton, P.A. (2012) Castles of Spain. Ar gael yn: http://www.castlesofspain.co.uk/ (Cyrchwyd: 14 Hydref 2015).
Cymdeithas Seicolegol Prydain (2018) Code of Ethics and Conduct. Ar gael yn: https://www.bps.org.uk/news-and-policy/bps-code-ethics-and-conduct (Cyrchwyd: 22 Mawrth 2019).
Noder: Mae Cite Them Right Online yn cynnig canllawiau ar gyfeirnodi tudalennau gwe nad oes ganddynt awduron na dyddiadau. Fodd bynnag, byddwch yn arbennig o wyliadwrus o ran addasrwydd tudalennau gwe o'r fath.
Monday, 30 January, 2023 - 20:00
Learn how to find specific resources and how to find information on a topic using Library Search.