Mae gan Y Brifysgol Agored bedwar maes ymchwil strategol ar gyfer mynd i'r afael â heriau byd-eang yr unfed ganrif ar hugain a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Rydym yn ail-ystyried y perthnasau newidiol rhwng dinasyddion ac awdurdodau, o faterion byd-eang megis ymfudo, i'r craffu cynyddol mewn bywydau preifat.
Ni yw'r arweinydd yn Ewrop ar gyfer arloesiadau enfawr mewn technolegau dysgu sydd â dylanwad byd-eang ac yn darparu addysgu digidol ar raddfa.
Rydym yn paratoi agwedd 'arloesedd cynhwysfawr' wahanol. Rydym yn gweithio gyda phobl dlawd sydd ar yr ymylon i ddatblygu eu datrysiadau eu hunain.
Rydym yn un o'r prif dair canolfan gwyddor y gofod yn y DU. Mae gwyddonwyr yr OU yn chwarae rolau allweddol mewn aseiniadau eiconig, megis Rosetta, glanio'r gomed gyntaf.
Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cynhyrchu Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru. Mae'r strategaeth wedi'i hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), ac yn tynnu sylw at sut y byddwn yn datblygu ein gwaith ymchwil, arloesi ac ymgysylltu dros y tair blynedd nesaf. Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gan weithio'n agos gyda cholegau addysg bellach a chyflogwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a'n cenhadaeth ddinesig ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn y maes hwn byddwn yn meithrin gallu i ymestyn ein rhaglen i feithrin meddwl beirniadol ac adeiladu dinasyddiaeth wybodus ac ymgysylltiedig, gwella ein cynnig o ddysgu ar-lein am ddim, dwyieithog, a datblygu a rhannu ymchwil a gwybodaeth y Brifysgol Agored i bobl Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru
Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2014) diweddaraf The Times Higher Education, mae bron i dri chwarter o'r gwaith ymchwil a gyflwynwyd gan Y Brifysgol Agored 'yn arwain y blaen yn fyd-eang' neu'n 'rhagorol yn rhyngwladol', ac roeddem ymhlith y traean uchaf o sefydliadau addysg uwch yn y DU ar gyfer 'pŵer ymchwil'.
Gallwch ymweld â:
Os hoffech drafod gweithgareddau ymchwil OU neu weithio gydag ein hacademyddion, cysylltwch Rhodri Davies.