Sut hoffech chi helpu rhywun i newid eu bywyd? Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU. Yn unigryw, rydym yn gweithredu ym mhob un o bedair gwlad y DU.
Ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod buddion dysgu o bell a rhan-amser yn cael eu cydnabod a'u mwynhau gan nifer cynyddol o ddysgwyr yng Nghymru gyda'r Brifysgol Agored, gan wneud addysg uwch yn hygyrch i bawb.
Hwylusydd TG
£24,285 - £27,1315
Llawn Amser; Parhaol - Prentisiaeth ar gael
Dyddiad cau: 3 Chwefror, 2023, 12pm canol dydd
Rydym yn chwilio am rywun a all roi gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'n staff, a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf. Bydd angen iddynt roi cymorth TG llinell gyntaf ac ail linell i staff yn y swyddfa ac yn gweithio gartref.
Rheolwr, Ymgysylltu â Myfyrwyr
£35,333 - £42,155
Llawn Amser; Parhaol
Dyddiad cau: 2 Chwefror 2023, 12pm canol dydd
Mae gennym gyfle cyffrous i rywun weithio gyda'n myfyrwyr, ein staff a'n rhanddeiliaid amrywiol. Rydym yn penodi Rheolwr Ymgysylltu â Myfyrwyr er mwyn helpu i lywio ein cymunedau dysgu ac addysgu yng Nghymru, drwy ddatblygu cymunedau ymarfer a hyrwyddo llif gwybodaeth yn fewnol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n myfyrwyr, y Gymdeithas Fyfyrwyr, Cyfadrannau, a'r Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr yng Nghymru, yn ogystal â sawl rhwydwaith grŵp llywio ar draws y Brifysgol.
Swyddog Cymorth, PolicyWISE
£24,285 - £27,131
Llawn Amser; Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: 26 Ionawr 2023, 12pm canol dydd
Byddwch yn adrodd i'r Uwch Reolwr Busnes ac yn rhoi cymorth prosiect, cyfathrebu a gweinyddol i dîm PolicyWISE. Byddwch yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol ac yn eu cefnogi gyda phethau fel cynhyrchu cyfathrebiadau, cydlynu digwyddiadau, a rheoli llwyfannau digidol.
Mae ein gwefan recriwtio tiwtoriaid yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddysgu mwy am ein swyddi addysgu ac mae'n cynnwys manylion ein swyddi addysgu gwag cyfredol a sut i wneud cais o fewn Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r Brifysgol Agored yn sefydliad dysgu cynyddol a arweinir gan yr egwyddorion craidd o fod yn agored a chael mynediad at gyfleoedd. Mae'r gwobrau a'r buddiannau rydym yn eu cynnig i'n staff yn adlewyrchu hyn.
Rydym yn cynnig cyflogau cystadleuol i'n galluogi i recriwtio a chadw unigolion o'r radd flaenaf.
I wobrwyo eich gwaith caled ac i gael cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig hawl am wyliau blynyddol hael o hyd at 33 diwrnod ar gyfer staff academaidd, yn ogystal â gwyliau'r banc a gwyliau cyhoeddus.
Rydym yn credu y dylai pawb sydd am gyflawni eu potensial allu ennill a dysgu, ac felly rydym yn cynnig cyfleoedd i staff astudio tra'n gweithio a gallwn dalu eich ffioedd ar gyfer ein cyrsiau. Mae ein tîm bywiog a dynamig yn datblygu'n barhaus ac felly mae hyn yn fudd gwych i ddatblygu.
Mae gan staff yr opsiwn i gyfrannu at gynllun pensiwn deniadol sef Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS).
Mae swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng nghanol bywiog Dinas Caerdydd. Rydym wedi ein lleoli yn Stryd y Tollty, gyferbyn â John Lewis a gwesty'r Marriot. Gan ein bod yng nghanol y ddinas, rydym yn hygyrch iawn ac mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog bum munud i ffwrdd ar droed, ac mae sawl llwybr bysiau i gyrraedd canol dinas Caerdydd sy'n arwain at ein swyddfa.
Mae ein gwaith ymchwil a datblygu arloesol ac arweiniol ymhlith y traean uchaf o brifysgolion y DU. Mae'n dylanwadu ar bolisïau ac arferion ar lefelau lleol a byd-eang.
Mae dros 14,500 o fyfyrwyr dros Gymru gyfan yn astudio gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw