Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghymru – Deilliannau dysgu

Nodau addysgol

Mae'r Dyfarniad yn cynnig cyfleoedd i chi ddwyn ynghyd eich dealltwriaeth bersonol o faterion sy'n ymwneud ag addysg â'ch ymarfer proffesiynol a'r corff o gyhoeddiadau ymchwil cyfredol a pharhaus sy'n berthnasol i addysgu. Byddwch yn meithrin y sgiliau a'r priodoleddau eraill sydd eu hangen i ddatblygu fel athro newydd gymhwyso ac i hybu eich datblygiad proffesiynol a'ch ymarfer wedi'i lywio gan ymchwil.

Deilliannau dysgu

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau ar gyfer y cymhwyster hwn, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o'r canlynol:

  • Y gofynion er mwyn bodloni disgrifyddion Statws Athro Cymwysedig (SAC) y Safonau Proffesiynolar gyfer Addysgu ac Arwain.
  • Trafodaethau, cysyniadau a materion cyfredol mewn addysg.
  • Ymchwil sy'n ategu ymarfer.
  • Strategaethau, polisïau a chanllawiau addysg perthnasol, a'u goblygiadau i athrawon o rangwella dysgu.
  • Sut mae addysgu a dysgu'n digwydd mewn lleoliadau cymhleth a chyd-destunol sy'n effeithio arymarfer.
  • Sut i nodi materion a chwestiynau mewn perthynas â meysydd o ddiddordeb addysgol a dyluniocynlluniau astudio i ymchwilio iddynt.
  • Sut i werthuso llenyddiaeth uwch a mathau eraill o dystiolaeth yn feirniadol.
  • Sut i adfyfyrio'n feirniadol ar eich arferion eich hun yng ngoleuni tystiolaeth o faes ymchwil.

Sgiliau gwybyddol

  • Y gallu i ddefnyddio termau, cysyniadau a damcaniaethau allweddol i lywio a gwerthuso ymarfer.
  • Y gallu i gymhwyso sgiliau meddwl beirniadol wrth adolygu llenyddiaeth.
  • Y gallu i gymhwyso sgiliau meddwl beirniadol mewn perthynas ag ymarfer.
  • Y gallu i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol drwy ddadansoddi ac adfyfyrio.
  • Y gallu i ymestyn ac addasu dealltwriaeth gysyniadol gyfredol mewn perthynas â llenyddiaeth ac ymarfer penodol.
  • Y gallu i ddadansoddi a gwerthuso llenyddiaeth ac ymarfer yn feirniadol mewn perthynas â maes ymchwilio penodol.
  • Y gallu i adfyfyrio ar ymarfer a chyfraniad eich astudiaethau TAR at eich datblygiad proffesiynolparhaus.
  • Y gallu i adfyfyrio ar eich dysgu eich hun a'i reoleiddio.

Sgiliau ymarferol a/neu broffesiynol

  • Arddangos y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen i fodloni disgrifyddion Statws AthroCymwysedig (SAC) y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain.
  • Gwerthuso eich ymarfer eich hun yn feirniadol er mwyn gwella ymarfer.
  • Dangos ymagwedd adfyfyriol at ymchwil a mathau eraill o lenyddiaeth er mwyn llywio a gwella eich ymarfer.
  • Arddangos y sgiliau i nodi a dewis ymchwil berthnasol a chyhoeddiadau addysgol eraill.
  • Monitro eich dysgu eich hun.
  • Strwythuro adroddiad.
  • Cyflwyno adroddiad i safon broffesiynol.

Sgiliau allweddol

  • Defnyddio cymwysiadau TGCh at ddibenion adalw gwybodaeth a chyfathrebu.
  • Cyfleu syniadau'n gryno ac yn effeithiol ar lafar ac mewn gwaith ysgrifenedig, sy'n dangosmynegiant clir a strwythur cydlynol.
  • Cymryd cyfrifoldeb personol am gwblhau rhaglen ddysgu estynedig ac amrywiol y mae angen eichymhwyso'n annibynnol ac sy'n gofyn am ddyfalbarhad.
  • Llunio aseiniadau sy'n ymwneud â dadansoddi a chyflwyno deunyddiau a materion.
  • Datblygu a defnyddio'r sgiliau allweddol sydd eu hangen i ymchwilio'n effeithiol i faes er mwynmeithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o agwedd ar addysg.
  • Datblygu a defnyddio'r sgiliau allweddol sydd eu hangen i gyflwyno prosiect yn effeithiol o fewnconfensiynau ysgrifennu academaidd ar gyfer graddau meistr.

Dulliau addysgu, dysgu ac asesu

Addysgir y cwrs drwy gyfres o linynnau sy'n canolbwyntio ar ymarfer, sy'n rhan o fodiwlau TAR 1, 2 a 3.Bydd pob modiwl yn cynnwys llinyn yn canolbwyntio ar y cwricwlwm, dysgu plant, cynllunio,addysgu, asesu a rôl broffesiynol. Bydd y llinynnau ar-lein ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwradfyfyrio ar y rhyngberthynas rhwng damcaniaeth ac ymarfer.

Mae'r cwrs yn seiliedig ar gynnydd, a dychwelir at yr un llinynnau ym mhob modiwl a'u datblygu'n raddol. Byddwch yn dysgu damcaniaethau a chysyniadau sy'n briodol i'ch lefel astudio. Ar ôl cwblhau eich ymarfer a'ch asesiadau'n llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i'r modiwl nesaf.

Caiff pob modiwl ei asesu drwy ymatebion i dasgau ar ffurf traethodau adfyfyriol ac e-bortffolio o dystiolaeth o gynnydd eich ymarfer yn erbyn y safonau proffesiynol, arsylwadau gwersi, cofnodion trafodaethau â mentoriaid ac asesiadau ffurfiol o'r addysgu gan diwtor ymarfer.