Yng Nghymru, mae gennym amrywiaeth o opsiynau talu a chymorth ariannol i ddiwallu eich anghenion unigol ac i'ch helpu i gyflawni eich nodau astudio - p'un a ydych yn astudio modiwl sengl neu'n gweithio tuag at gymhwyster.
Fel darparydd mwyaf astudiaeth ran amser prifysgol yng Nghymru, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig dewis eang o gymwysterau mewn ystod eang o bynciau.
Nid oes ots os yw eich pryd ar gelf neu swoleg, neu p’un a oes gennych bum munud neu 50 o oriau. Mae gennym amrywiaeth anferth o ddysgu ar-lein am ddim i'ch helpu i archwilio'r hyn sydd o ddiddordeb i chi.
Fel rhan o’n gwaith ehangach rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymestyn allan gyda phartneriaid cymunedol ar draws Cymru i’ch helpu chi ganfod mwy am ein modiwlau Mynediad. Mae’r digwyddiadau hyn am ddim a gallwch naill ai alw heibio ar y diwrnod neu archebu ymlaen llaw i’n gweld ni am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’n cyrsiau. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau i ddod yn eich ardal ewch ar ein tudalen Facebook
Os ydych chi’n ystyried astudio yn y brifysgol neu eisiau gwella eich cymwysterau, ac yn byw mewn ardal flaenoriaeth neu Gymunedau yn Gyntaf, gallwch fod yn gymwys i astudio un o’n modiwlau Mynediad am ddim. Mae hyn yn rhan o brosiect a noddir gan Ymgyrraedd yn Ehangach ac mae’n cynnig llwybrau dilyniant i unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru.
Cymuned o staff a myfyrwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd yw’r Brifysgol Agored. Dysgwch fwy am ein Siarter Myfyrwyr a Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored.
O amrywiaeth o gefndiroedd a phob un yn astudio pwnc gwahanol, dewch i weld sut mae ein myfyrwyr wedi ymdopi ag astudio ochr yn ochr â bywyd go iawn, ac wedi ffynnu ar eu teithiau dysgu gyda’r Brifysgol Agored.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Ffoniwch 029 2047 1170
E-bostiwch wales@open.ac.uk
Darpar fyfyrwyr:
Ffoniwch 029 2047 1170
Ewch i ymholiadau gan fyfyrwyr newydd
Os ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio modiwl neu gymhwyster Y Brifysgol Agored, neu'n astudio un ar hyn o bryd, mewngofnodwch i Studenthome i weld eich manylion cyswllt personol.