Mae gan Y Brifysgol Agored bedwar maes ymchwil strategol ar gyfer mynd i'r afael â heriau byd-eang yr unfed ganrif ar hugain a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Dinasyddiaeth a llywodraethu: rydym yn ailystyried y cydberthnasau newidiol rhwng dinasyddion ac awdurdodau, o faterion byd-eang megis mudo, i'r craffu cynyddol ar fywydau preifat pobl.
Addysg: ni sy'n arwain y blaen yn Ewrop o ran datblygiadau arloesol enfawr mewn technolegau dysgu sy'n cael dylanwad byd-eang ac yn darparu addysg ddigidol ar raddfa fawr.
Datblygiad Rhyngwladol: rydym yn mabwysiadu dull gwahanol o weithredu sy'n seiliedg ar 'arloesedd cynhwysol'. Rydym yn gweithio gyda phobl dlawd a phobl sydd wedi'u gwthio i'r cyrion er mwyn eu helpu i ddatblygu eu datrysiadau eu hunain.
Y Gofod: ni yw un o'r tair prif ganolfan brifysgol ar gyfer gwyddor y gofod yn y DU. Mae gwyddonwyr Y Brifysgol Agored yn chwarae rhan allweddol mewn teithiau eiconig, megis Rosetta, y glaniad cyntaf ar gomed.
Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2014) diweddaraf The Times Higher Education, mae bron i dri chwarter o'r gwaith ymchwil a gyflwynwyd gan Y Brifysgol Agored 'yn arwain y blaen yn fyd-eang' neu'n 'rhagorol yn rhyngwladol', ac roeddem ymhlith y traean uchaf o sefydliadau addysg uwch yn y DU ar gyfer 'pŵer ymchwil'.
Gallwch fynd i brif wefan ymchwil Y Brifysgol Agored drwy glicio yma.
eSTEeM yw ein canolfan ar gyfer addysgu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, sy'n hyrwyddo arloesedd, ysgolheictod a menter ym maes dysgu agored a dysgu o bell.
Ymchwil Agored Ar-lein (ORO) yw cronfa'r Brifysgol Agored o gyhoeddiadau ymchwil a chanlyniadau ymchwil eraill. Mae'n adnodd mynediad agored y gall aelodau'r cyhoedd ei chwilio a phori drwyddo am ddim.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Os hoffech drafod gweithgareddau ymchwil OU neu weithio gydag ein hacademyddion, cysylltwch Michelle Matheron.