Sut hoffech chi helpu rhywun i newid eu bywyd? Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU. Yn unigryw, rydym yn gweithredu ym mhedair gwlad y DU.
Ein gweledigaeth yw cydweithio er mwyn sicrhau bod nifer gynyddol o ddysgwyr yng Nghymru yn cydnabod ac yn mwynhau buddiannau dysgu o bell hyblyg a rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored, gan sicrhau bod addysg uwch yn agored i bawb.
£41,526 a £49,553)
Hanner dydd, 14 Ionawr 2021
Mae'r swydd gyffrous hon yn rhoi cyfle i chwarae rôl weithredol i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn eu hastudiaethau ar gyfer gradd BSc (Anrh) Nyrsio (Cymru) yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Eich rôl fydd arwain y broses o sicrhau cymorth digonol a phriodol i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg wrth iddynt astudio ar gyfer y radd Nyrsio (yn academaidd ac yn eu lleoliadau ymarfer dysgu), gan ganolbwyntio ar y modiwlau ymarfer dysgu.
Mae ein gwefan recriwtio tiwtoriaid yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddysgu mwy am y rolau addysgu hyn ac mae'n cynnwys manylion am ein swyddi addysgu gwag presennol a sut i wneud cais.
![]() |
![]() |
Mae'r Brifysgol Agored yn sefydliad dysgu cynyddol a arweinir gan yr egwyddorion craidd o fod yn agored a chael mynediad at gyfleoedd. Mae'r gwobrau a'r buddiannau rydym yn eu cynnig i'n staff yn adlewyrchu hyn.
Rydym yn cynnig cyflogau cystadleuol i'n galluogi i recriwtio a chadw unigolion o'r radd flaenaf.
I wobrwyo eich gwaith caled ac i gael cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig hawl am wyliau blynyddol hael o hyd at 33 diwrnod ar gyfer staff academaidd, yn ogystal â gwyliau'r banc a gwyliau cyhoeddus.
Rydym yn credu y dylai pawb sydd am gyflawni eu potensial allu ennill a dysgu, ac felly rydym yn cynnig cyfleoedd i staff astudio tra'n gweithio a gallwn dalu eich ffioedd ar gyfer ein cyrsiau. Mae ein tîm bywiog a dynamig yn datblygu'n barhaus ac felly mae hyn yn fudd gwych i ddatblygu.
Mae gan staff yr opsiwn i gyfrannu at gynllun pensiwn deniadol sef Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS).
Gellir cael rhagor o wybodaeth am fuddiannau staff yma.
Mae swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng nghanol bywiog Dinas Caerdydd. Rydym wedi ein lleoli yn Stryd y Tollty, gyferbyn â John Lewis a gwesty'r Marriot. Gan ein bod yng nghanol y ddinas, rydym yn hygyrch iawn ac mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog bum munud i ffwrdd ar droed, ac mae sawl llwybr bysiau i gyrraedd canol dinas Caerdydd sy'n arwain at ein swyddfa.
Mae ein gwaith ymchwil a datblygu arloesol ac arweiniol ymhlith y traean uchaf o brifysgolion y DU. Mae'n dylanwadu ar bolisïau ac arferion ar lefelau lleol a byd-eang.
Mae dros 10,000 o fyfyrwyr dros Gymru gyfan yn astudio gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.
Mae gennym fyfyrwyr clodwiw - gan gynnwys John Spence a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn i Oedolion 2018 a Charlotte Bailey sef enillydd gwobr Seren y Dyfodol yng ngwobrau Womenspire 2018.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r BBC ac wedi cyd-gynhyrchu sawl rhaglen rydych yn eu gwylio ar y teledu gan gynnwys Civilisations, Hugh's Wild West a The Met: Policing London
Gwnaeth ein hacademyddion blaenllaw weithio ar gynhyrchiad y BBC/y Brifysgol Agored sef Blue Planet II.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw