Porwch ein cyrsiau yn ôl pwnc

Y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Mae archwilio a dadansoddi diwylliant a hanes dynol yn rhoi golwg dyfnach i ni ar y byd yr ydym yn byw ynddo a sut y cawsom yma. Os ydych yn ffynnu ar her ddeallusol ac yn angerddol am y celfyddydau, mae gan ein hastudiaeth ôl-raddedig lawer i'w gynnig i chi.

Ymhlith yr hyn y byddir yn ei ennill bydd cyflawniad academaidd uwch, gwell cyfleoedd gyrfa a chyflawniad personol.

Mae tua 1,800 o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn ein rhaglen hyblyg ar hyn o bryd, sy'n cwmpasu llawer o agweddau diddorol o ddiwylliannau hanesyddol a chyfoes. Dyluniwyd y modiwlau i ymestyn eich galluoedd a mireinio'ch sgiliau ymchwil a dadansoddol, gan roi cymwysterau rhagorol i chi ar gyfer y byd cyflogaeth ac ar gyfer cymwysterau pellach ar lefel uwch.

Yn ychwanegol at foddhad personol o astudio i lefel uwch, mae’r MA y Celfyddydau a’r Dyniaethau’n ddefnyddiol mewn ystod eang o yrfaoedd.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau celfyddydau a'r dyniaethau.
 

Busnes a Rheolaeth

Mae busnesau a sefydliadau’n rhan hanfodol o fywyd modern, economïau byd-eang, gwleidyddiaeth a diwylliannau. Gall eu hastudio nhw a'r bobl sy'n ymwneud â nhw roi boddhad mewn sawl ffordd. Ar wahân i gryfhau'ch gallu deallusol, gall hybu'ch gyrfa a chyfrannu at gymdeithas.

Efallai eich bod yn edrych i gael cymwysterau uwch ac ehangu'ch sgiliau rheoli, neu efallai eich bod yn paratoi i symud o rôl broffesiynol, swyddogaethol neu dechnegol i swydd reoli uwch neu gyffredinol. Beth bynnag fo'ch man cychwyn neu'ch nod yn y pen draw, bydd cymhwyster ôl-raddedig o Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored yn rhoi mantais ychwanegol i chi.

Mae Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored yn un o grŵp o ysgolion elitaidd a achredir ledled y byd gan y tri chorff achredu rhyngwladol blaenllaw - y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB); Cymdeithas yr MBA (AMBA); a'r Sefydliad Ewropeaidd er Datblygu Rheolaeth, trwy ei raglen EQUIS - nodweddion o ansawdd addysgu, deunyddiau dysgu ac effaith cymhwyster. Mae ganddi fwy na 26,000 o raddedigion MBA llwyddiannus mewn dros 100 o wledydd.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau busnes a rheolaeth.
 

Astudiaethau Plant ac Ieuenctid

Mae ein dull rhyngddisgyblaethol o astudio ar gyfer ôl-radd yn y maes plentyndod ac ieuenctid yn tynnu ar agweddau o astudiaethau plentyndod ac ieuenctid, cymdeithaseg, iechyd a gofal cymdeithasol, seicoleg ac addysg.

Caiff y dull addysgu ei ategu trwy gysylltu ymagweddau damcaniaethol ac ymarferol / polisi. Gyda phob modiwl unigol byddwch yn dod i wybod mwy ac yn dyfnhau’ch myfyrdod a’ch ymwybyddiaeth feirniadol o weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r rhaglen yn arbennig o berthnasol i raddedigion sy'n gweithio yn y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, addysg, gwaith cymdeithasol, nyrsio, seicoleg, gofal iechyd, lleoliadau gwaith ieuenctid, cyfiawnder ieuenctid neu'r sector gwirfoddol. Bydd y rhaglen yn ychwanegu at y radd meistr a byddwch yn gwella’ch rhagolygon gyrfa’n sylweddol wrth gyflawni’r cymhwyster uwch hwn.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau astudiaethau plant ac ieuenctid.
 

Cyfrifiadureg a TG

Mae galw mawr y dyddiau yma am weithwyr cyfrifiaduron a TG sydd â set sgiliau cryf. Drwy ddatblygu’ch gwybodaeth a'ch sgiliau, bydd astudio am gymhwyster ôl-raddedig gyda'r Brifysgol Agored yn eich rhoi mewn sefyllfa amlwg ym maes y ddisgyblaeth ddylanwadol hon sy'n tyfu'n gyflym.

Rydym yn arwain y maes wrth weithio gyda chyflogwyr a chynghorau sgiliau sector i gynnig cymwysterau perthnasol i'r diwydiant, ac i fapio astudiaeth i fframweithiau sgiliau sector er mwyn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol cyfrifiaduron a TG y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau cyfrifiadureg a TG.
 

Addysg

P'un ai ydych yn ymarferydd profiadol neu'n edrych i symud i rôl addysg, mae ein cymwysterau’n cynnig hyblygrwydd i'ch datblygiad proffesiynol a'r cyfle i ennill cymwysterau gyrfa i'ch helpu i sefydlu'ch hun fel arweinydd yn eich maes.

Gallwch ddewis rhwng dwy raglen. Mae'r radd Meistr mewn Addysg, a'i thystysgrif a'i diploma cysylltiedig, yn fodd i chi ddewis cynnwys pwnc sy'n fwyaf priodol i'ch maes proffesiynol o ddiddordeb. Cefnogir eich nodau datblygu trwy ymchwilio i faterion cyfredol ac arwyddocaol o'ch profiad chi.

Fel arall, mae'r rhaglen MA mewn Addysg Ar-lein ac o Bell yn fodd i chi ddatblygu meistrolaeth broffesiynol arbenigol yn y technolegau a'r dulliau addysgu diweddaraf sy'n berthnasol i ddysgu digidol ac addysg fyd-eang.

Pa raglen bynnag y byddwch yn ei dewis, bydd eich astudiaeth am gymhwyster ôl-raddedig yn datblygu’ch gallu i fyfyrio'n feirniadol ac adeiladol gydag eraill mewn cymuned ddysgu, ymgysylltu â'r syniadau a'r fframweithiau a gyflwynir yn y modiwlau a'u cymhwyso i'ch ymarfer. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad wrth fynd i'r afael â phroblemau a’u datrys.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau addysg.
 

Peirianneg, Meddwl trwy systemau a Rheolaeth technoleg

Mae peirianwyr a thechnolegwyr cymwys bellach ymhlith gweithwyr proffesiynol y telir y mwyaf iddynt, yn ôl EngineeringUK.

Mae galw mawr trwy'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn ogystal â mewn busnesau a diwydiant am eu dychymyg a'u gallu i integreiddio technolegau priodol i gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau sefydliad. Mae sgiliau mewn meddwl trwy systemau hefyd yn berthnasol i lawer o feysydd eraill.

Achredu a chydnabod

Mae ein rhaglen MSc mewn Peirianneg wedi’i hachredu gan Beirianwyr Siartredig (CEng) ac mae’n bodloni'r gofynion addysgol ar gyfer cofrestru, pan gyflwynir gradd anrhydedd achrededig CEG. Rydym wedi’n hachredu gyda'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) a Sefydliad y Dylunwyr Peirianneg (IED). I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i engineering.open.ac.uk.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau peirianneg.
Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau meddwl trwy systemau.
Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau rheolaeth technoleg.
 

Rheoli’r Amgylchedd a Datblygu

Rydym yn byw mewn oes lle mai’r amgylchedd, datblygu cynaliadwy, gwrthdaro diwylliannol, tlodi a rhyfel yw’r pryderon mwyaf cyffredin.

Mae unigolion, sefydliadau a llywodraethau'n cael eu hannog i feddwl yn fwy rhagweithiol am effaith eu gweithredoedd yn lleol a byd-eang. Mae'r newid hwn wedi ei gwneud hyd yn oed yn bwysicach dod o hyd i atebion cynaliadwy i'r materion hyn.

Rheoli’r Amgylchedd

O gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol i wella agwedd gystadleuol busnes a rhoi sylw i heriau byd-eang newid yn yr hinsawdd a chadwraeth ynni, mae rheolaeth amgylcheddol yn dod yn fwyfwy pwysig i bawb.

Mae ein cymwysterau ôl-raddedig mewn rheoli’r amgylchedd ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn dylunio, rheolaeth a rheoli’r amgylchedd yn fwy effeithiol. Daw myfyrwyr o lywodraeth leol, ymgynghoriaethau, diwydiant, masnach, sefydliadau anllywodraethol a chymunedau.

Achrediad

Mae Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd, y corff proffesiynol mwyaf ar gyfer gwyddonwyr amgylcheddol siartredig, yn achredu'r MSc a'r diploma ôl-radd. Mae myfyrwyr yn gymwys i ddod yn aelodau o'r corff proffesiynol hwn.

Mae'r rhaglen hefyd wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli ac Asesu’r Amgylchedd.

Rheoli Datblygu

Mae rheoli datblygu’n mynd yn fwyfwy cymhleth, wrth i fwy o asiantaethau ddod yn rhan o’r gwaith; daw nodau newydd i'r amlwg, yn ategu ac yn wynebu nodau sy'n bodoli eisoes; a chaiff hawl 'buddiolwyr' i gymryd rhan yn eu datblygiad eu hunain ei arddel fwyfwy.

Mae ein rhaglen ôl-raddedig mewn rheoli datblygiad yn rhoi sylw i'r cymhlethdod hwn.

Mae'r modiwlau craidd yn rhoi'r cyfle i chi gryfhau eich sgiliau datblygu polisïau a rheoli prosiectau; gwella'ch gallu i feithrin y berthynas ryngsefydliadol da y mae datblygiad cynaliadwy yn dibynnu arni; a datblygu'r sgiliau ymchwil sy'n angenrheidiol ar gyfer deall a rheoli problemau datblygu.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau rheoli'r amgylchedd a datblygu.
 

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu gyrfa broffesiynol.

Mae ein cymwysterau ôl-raddedig yn fodd i chi adeiladu ar brofiad proffesiynol sydd gennych eisoes a mynd â’ch gyrfa i feysydd penodol. Maent yn canolbwyntio'n helaeth ar ymarfer ac yn berthnasol i ystod eang o leoliadau iechyd a gofal.

Hyrwyddo Arfer Gofal Iechyd

Mae'r gyfres hon o gyrsiau, sy'n cynnwys tystysgrif, diploma a gradd meistr, wedi'i chynllunio i roi i chi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyfrannu at hyrwyddo gofal iechyd.

Yn y dystysgrif, byddwch yn archwilio beth yw ystyr gwella gofal iechyd a sut gellir ei gyflawni trwy gydweithio a thrwy bartneriaeth, asiantaeth newid, a’r maes gwyddor gwella. Yn y diploma, byddwch yn datblygu sgiliau arwain mewn perthynas â pholisi, arloesi a gwella gwasanaethau; a dysgu sut i ddefnyddio ymchwil ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwaith hyrwyddo gofal iechyd. Yn yr MSc byddwch yn cwblhau prosiect ymchwiliol terfynol sy'n canolbwyntio ar wella gwasanaeth neu system, yn seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau’ch maes ymarfer eich hun sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

Gwaith Cymdeithasol

Mae'r rhaglen, sy'n cynnwys gradd diploma a meistr, yn rhyngddisgyblaethol, gyda phwnc sy'n deillio o seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, cyfraith ac astudiaethau gwaith cymdeithasol. Cymeradwyir y diploma ôl-raddedig fel dyfarniad cymhwyso proffesiynol i weithwyr cymdeithasol yn Lloegr a'r Alban1 a byddwch yn dysgu am theori gwaith cymdeithasol a deddfwriaeth, gan gymhwyso'ch dysgu i ymarfer. Mae'r prosiect ymchwiliol terfynol ar gyfer yr MA yn canolbwyntio ar wella gwasanaeth neu system, yn seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau’ch lleoliad gwaith cymdeithasol eich hun a datblygu’ch sgiliau beirniadol a dadansoddol fel ymarferydd cymwysedig.

*Cymeradwywyd fel dyfarniad cymhwyso gwaith cymdeithasol yn Lloegr gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a, chydag amodau, yn yr Alban gan Gyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC). Am statws cymeradwyo cyfredol, ewch i'n gwefan.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau iechyd a gofal cymdeithasol.
 

Ieithoedd

Mae galw cynyddol, byd-eang am gyfieithwyr ac arbenigwyr iaith, a bydd ein cymwysterau ôl-raddedig yn rhoi i chi 'r wybodaeth a'r sgiliau i ddechrau ar yrfa fel cyfieithydd.

Mae cyfieithu’n broffesiwn hynod werth chweil i'r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd a chyfathrebu. Mae'n cwmpasu ystod eang a chynyddol o feysydd, gan gynnwys cyfieithu clyweledol, hysbysebu neu leoleiddio gwefannau, yn ogystal â chyfieithu lled-arbenigol ac arbenigol.

Gallwch ddewis un o'r ieithoedd a ganlyn ar y cyd â Saesneg: Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg neu Arabeg.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau ieithoedd.
 

Y Gyfraith

Mae'r gyfraith yn rheoleiddio ac yn dylanwadu ar fywydau ac arferion unigolion, sefydliadau a llywodraethau. Mae'n darparu fframwaith y mae cymdeithasau’n gweithio ynddo.

Gyda globaleiddio, mae fframweithiau cyfreithiol a strwythurau traddodiadol yn cael eu herio fwyfwy. Mae cyfreithiau a meddylfryd cyfreithiol yn cael eu defnyddio i gael effaith ar newid mewn cymdeithasau a dylanwadu ar y modd y mae cenhedloedd a llywodraethau'n rhyngweithio â'i gilydd.

Gyda chydnabyddiaeth o'r rôl gynyddol bwysig y mae'r gyfraith yn ei chwarae, mae'r galw am wybodaeth gyfreithiol a sgiliau cyfreithiol cysylltiedig yn tyfu. Bydd cymhwyster cyfreithiol ar lefel ôl-radd, megis ein Meistr yn y Gyfraith (LLM) (F64), yn ehangu'ch cyfleoedd ac yn gwella’ch rhagolygon o ran cyflogaeth a chael dyrchafiad.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau y gyfraith.
 

Mathemateg

Mae mathemateg wrth wraidd datblygiadau mewn gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, yn ogystal â bod yn offeryn anhepgor wrth ddatrys problemau a gwneud penderfynu mewn llawer o feysydd eraill bywyd.

Efallai y byddwch yn mwynhau'r her ddeallusol o archwilio agweddau penodol ar fathemateg bur neu gymhwysol sydd o ddiddordeb i chi, neu gallech fod yn awyddus i ddatblygu'ch gyrfa gyda chymhwyster lefel uwch.

Beth bynnag yw eich cymhelliant neu’ch uchelgeisiau, mae gan ein rhaglen mathemateg ôl-raddedig lawer i'w gynnig i chi.

Mae gennym dros 500 o fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ein MSc, y nifer fwyaf o fyfyrwyr ar unrhyw MSc mathemateg yn y Deyrnas Unedig o bell ffordd.

Wrth astudio gyda ni, cewch fynediad at feysydd mathemateg pwysig a diddorol, megis newidynnau cymhleth cymwys, theori codio a theori rhif dadansoddol. Wrth ymestyn eich gwybodaeth, bydd eich astudiaethau hefyd yn mireinio'ch gallu i brosesu gwybodaeth yn gywir, a dadansoddi a chyfathrebu syniadau cymhleth yn feirniadol.

Bydd y set sgiliau uwch hwn a phrofiad o astudio cymhwyster ôl-raddedig yn fantais glir wrth ddatblygu gyrfa mewn addysg mathemateg neu fel mathemategydd proffesiynol. Yn yr un modd, gallant eich helpu i ddringo'r rhengoedd mewn meysydd mor amrywiol â chyfrifiadureg, economeg, peirianneg a chyllid, lle mae bob amser alw mawr am sgiliau rhifyddol a dadansoddol uwch.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau mathemateg.
 

Gwyddoniaeth

Gyda llawer o feysydd ymchwil wyddonol yn datblygu'n gyflym, mae'r galw am raddedigion gwyddoniaeth medrus yn tyfu.

Mae gwyddoniaeth yn faes gwerth chweil i’w astudio, yn bersonol ac yn broffesiynol. Fel gwyddonydd proffesiynol, gallech fod yn allweddol, er enghraifft, wrth ddatblygu meddyginiaethau newydd, ymchwilio i newid yn yr hinsawdd neu fel rhan o dîm sy'n datblygu gwaith archwilio’r gofod.

Bydd cymhwyster ôl-raddedig mewn gwyddoniaeth yn ehangu'ch cyfleoedd hyd yn oed ymhellach, gyda'r potensial i godi i frig eich proffesiwn a chynyddu’ch enillion oes yn sylweddol.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau gwyddoniaeth.
 

Gwyddor Gymdeithas a Seicoleg

Defnyddir seicoleg a gwyddor gymdeithas mewn llawer o gyd-destunau proffesiynol a dyddiol, gan gynnwys cwnsela; gweithredu cyfiawnder troseddol; polisi cymdeithasol; ac ymchwil gymdeithasol. Os ydych yn angerddol dros gwestiynau a dadleuon cymdeithasol a seicolegol, bydd gan y cyrsiau hyn lawer i'w gynnig i chi.

Gwelwch restr ein cymhwysterau a modiwlau gwyddor gymdeithas a seicoleg.
 

Gradd Meistr Agored

Mae'r radd meistr arloesol hon yn fodd i chi greu cymhwyster personol ar draws ystod o ddisgyblaethau academaidd.

Bydd y radd yn fodd i chi ehangu’ch gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblaeth ar lefel meistr, ennill gwybodaeth bwnc-benodol ehangach a dilyn datblygiad proffesiynol pellach mewn meysydd sy'n cyd-fynd â'ch anghenion cyflogaeth a'ch dyheadau proffesiynol.

  • Delfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn sawl maes astudio gwahanol, ond cysylltiedig.
  • Cyfle i arbenigo mewn un o bedwar maes astudio cysylltiedig.
  • Yn cynnig yr hyblygrwydd i lunio’ch rhaglen astudio bersonol eich hun.
  • Teilwra’ch astudiaethau i gwrdd â'ch diddordebau personol neu'ch dyheadau proffesiynol.
Gwelwch ein cymhwyster MA/MSc Agored.