You are here

  1. Hafan
  2. Amdanom ni

Amdanom ni

Y Brifysgol Agored yw'r darparwr addysg uwch i israddedigion rhan amser mwyaf yng Nghymru. Mae'n arweinydd byd gan gynnig cyfleoedd dysgu o bell hyblyg ac arloesol ar lefel addysg uwch. 

Myfyrwyr

  • Mae dros 15,000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.
  • Mae myfyrwyr Y Brifysgol Agored ym mhob un o etholaethau Cynulliad Cymru.
  • Mae 2/3 yn gweithio’nrhan/llawn amserwrth iddynt astudio gyda ni.
  • Mae 40% o'n myfyrwyr ynymuno â ni heb gymwysterau mynediad prifysgol traddodiadol.
  • 45% o’n myfyrwyryn dod oardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Addysgu a Phartneriaeth

  • Mae dros 139 o gwmnïau yng Nghymru yn noddi gweithiwr i astudio gyda ni.
  • Mae partneriaeth unigryw Y Brifysgol Agored â TUC Cymru, a nifer o undebau llafur unigol, wedi gweld mwy na 1,500 o ddysgwyr a noddir gan undebau llafur yn cofrestru ar gyfer un o&# 39;n cyrsiau ers i'r bartneriaeth ddechrau dros ddeng mlynedd yn ôl

Arloesedd

Engineer in lab

  • Mae'r Brifysgol Agored yn arwain y ffordd ym maes datblygu technoleg er mwyn gwella mynediad at addysg uwch ledled y byd. Mae hyn yn cynnwys unedau astudio am ddim ar OpenLearn sydd wedi cael mwy na 40 miliwn o ymweliadau; deunyddiau ar iTunes U sydd wedi'u lawrlwytho mwy na 70 miliwn o weithiau a sianel YouTube Y Brifysgol Agored sydd wedi cael dros 30 miliwn o ymweliadau ers ei lansio yn 2008.
  • Mae platfform dwyieithog OpenLearn Cymru yn cynnig adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg a Saesneg am ddim er mwyn annog pobl i ddilyn cyrsiau addysg uwch yn y ddwy iaith.
  • Aseswyd bod 72% o ymchwil y Brifysgol Agored yn deilwng o 3 neu 4 seren yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y Deyrnas Unedig (2014). Mae’r sgôr uchel yn dangos fod ymchwil y Brifysgol Agored yn flaenllaw neu’n rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd, effaith a’r amgylchedd.
  • Mae'r Brifysgol Agored yn arweinydd byd-eang yn natblygiad Cyrsiau Agored Mawr Ar-lein (MOOC) drwy 'FutureLearn', sef partneriaeth rhwng Y Brifysgol Agored a Phrifysgolion eraill, yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, gan ddarparu cyrsiau am ddim ar-lein i gynulleidfa oedd byd-eang.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru  

Mae cyfiawnder cymdeithasol wrth galon cenhadaeth Y Brifysgol Agored. Rydym yn creu cymuned prifysgol gynhwysol a chymdeithas ble mae pobl yn cael eu trin gydag urddas a pharch, ble mae anghydraddoldebau yn cael eu herio a ble rydym yn rhagweld ac yn ymateb yn gadarnhaol i wahanol anghenion ac amgylchiadau, er mwyn i bawb gyrraedd eu potensial. Ewch i wefan Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Y Brifysgol Agored, sy’n cynnwys gwybodaeth am ein Cynllun Cydraddoldeb, ein hamcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ein gwybodaeth ystadegol am gydraddoldeb a’n adroddiad blynyddol.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws